Ymdopi â Straen
Mae plant bach angen llawer oddi wrthych. Gall ymdopi â'u gofynion a phopeth arall sy'n digwydd o'ch cwmpas fod yn straen.
Gallwch dreulio diwrnod cyfan yn ceisio i gwblhau un peth. Yn union fel yr ydych yn dechrau rhywbeth, bydd eich babi yn deffro, mae angen newid cewynnau neu mae angen ychydig o sylw arno/i.
Weithiau gallwch deimlo fel mae bywyd yn gyfan gwbl allan o reolaeth. Gall hyn wneud i chi deimlo o dan bwysau ac yn rhwystredig.
Gall poeni ac anhapusrwydd hefyd achosi straen. Efallai eich bod yn poeni am ble rydych yn byw, arian neu berthynas, neu efallai eich bod yn poeni am lawer o bethau bach sy'n serch hynny, yn gwneud gwahaniaeth mawr i'ch bywyd. Mae'n bosib na allwch chi wneud unrhyw beth am rai o'r pethau hyn, ond mae yna ffyrdd y gallwch ddelio â straen. Bydd rhai o'r awgrymiadau canlynol yn fwy perthnasol i chi nag eraill:
- Dadwindiwch. Treuliwch hanner awr bob nos yn gwneud rhywbeth rydych yn ei fwynhau. Mae hyn yn eich helpu i ollwng pethau eraill o'ch meddwl ac i ymlacio. Cael bath, darllen cylchgrawn, gwylio'r teledu neu wneud beth bynnag arall sy'n helpu chi i ymlacio. Benthycwch lyfr, DC neu DVD am ymlacio o'r llyfrgell. Anwybyddwch unrhyw waith ty: gall aros. Gwnewch rywfaint o amser i chi'ch hun.
- Gall weld pobl eraill helpu i leddfu straen. Efallai y bydd eich ymwelydd iechyd neu rieni eraill yn gallu argymell grwpiau lleol mam a babi neu fam a phlentyn bach. Os nad ydych yn hoff o grwpiau sydd wedi eu trefnu, dewch ynghyd â phobl byddwch yn cwrdd â nhw yn y clinig, cylch meithrin neu feithrinfa.
- Gwnewch amser ar gyfer eich partner. Gall perthynas ddioddef pan fyddwch lawn tyndra, yn flinedig a heb dreulio llawer o amser gyda'ch gilydd. Gwnewch amser i fod gyda'ch partner, hyd yn oed os dyna i gyd yr ydych yn llwyddo i'w wneud yw hepian gyda'ch gilydd o flaen y teledu.
- Mynegwch eich hun. Gall siarad am sut rydych yn teimlo yn eich helpu, o leiaf am gyfnod. Mae angen i chi a'ch partner ddeall sut yr ydych yn teimlo a phenderfynu sut y gallwch chi fod yn gefnogaeth i'ch gilydd. Weithiau mae'n well siarad â rhywun y tu allan i'r teulu.
- Derbynwch help. Gwnewch y mwyaf o'r holl help y gallwch ei dderbyn. Ni allwch ymdopi a phopeth eich hun, felly does dim pwynt ceisio.
- Ymlaciwch. Nid oes dim gwobrau i'w cael am fod yn 'supermum' neu 'superdad'. Gall fod yn anodd os ydych chi'n berffeithydd ond un o'r pethau nad yw neb yn gallu bod yw rhiant perffaith.
Last Updated: 13/06/2023 10:44:53
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk