Gwybodaeth beichiogrwydd


Gwasnaethau a Chymorth i Rieni

Gwasanaethau’r GIG i rieni newydd

Mae’n well cofrestru enw eich babi gyda’ch meddyg teulu mor fuan â phosibl rhag ofn y byddwch angen help.

Gallwch ffonio’r meddyg teulu unrhyw bryd, i gael help i chi neu i’ch plentyn.

Os byddwch chi’n symud tŷ, cofiwch gofrestru gyda meddyg teulu newydd mor fuan â phosibl.

Os dydy eich babi ddim wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu eto ond angen gweld meddyg, gallwch gael triniaeth frys gan unrhyw feddygfa.

Sut i newid eich meddygfa.

Chwilio am feddyg teulu lleol.

Cael help gan eich ymwelydd iechyd (‘health visitor’)

Fel arfer, mae ymwelydd iechyd yn mynd i weld mam a’i babi newydd am y tro cyntaf tua 10 diwrnod ar ôl i fabi gael ei eni. Tan hynny, bydwragedd (‘midwives’) lleol sy’n helpu.

Nyrs neu fydwraig sydd wedi cael mwy o hyfforddiant yw ymwelydd iechyd. Maen nhw’n rhoi help i chi, eich teulu a’ch babi newydd i gadw’n iach.

Mae ymwelydd iechyd yn gallu eich gweld yn y tŷ neu gallwch chi fynd i’r clinig iechyd plant, meddygfa neu ganolfan iechyd.

Siaradwch â’ch ymwelydd iechyd os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl (‘mental health’). Mae’n gallu rhoi help ac awgrymu ble i ddod o hyd i fwy o help.

Efallai y bydd yn gallu eich rhoi chi mewn cysylltiad â grwp lle gallwch chi gwrdd â rhieni eraill hefyd.

Clinig iechyd plant

Mae clinigau iechyd plant yn cael eu rhedeg gan ymwelwyr iechyd a meddygon teulu. Maen nhw’n edrych ar iechyd, datblygiad a brechiadau (‘vaccinations’) babis.

Mae’n bosibl siarad am unrhyw broblem ynghylch plant, ond os yw eich plentyn yn sâl ac angen triniaeth efallai, ewch i weld y meddyg teulu.

Mae gan ambell glinig iechyd plant grŵp mamau a babis, rhieni a phlant bach, bwydo ar y fron a grwpiau cymorth cyfoedion (‘peer support groups’).

Gwasanaethau awdurdodau lleol (‘Local authority services’)

Mae canolfannau plant Dechrau’n Deg yn rhoi gwasanaethau iechyd a help i deuluoedd, dysgu plant ifanc, a gofal diwrnod llawn neu dros dro i fabis hyd at 5 oed.

Maen nhw hefyd yn rhoi cyngor a gwybodaeth i rieni am bethau fel magu plant a sut i hyfforddi a chael gwaith. Mae gan rai wasanaethau arbennig i rieni ifanc hefyd.

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (‘Family Information Service’) yn dweud wrth rieni sut y gallan nhw gael help i gefnogi eu plant.

Mae gan bob Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd gysylltiad agos â chanolfannau plant, y Ganolfan Byd Gwaith, ysgolion, cynghorwyr gyrfaoedd, clybiau ieuenctid a llyfrgelloedd.

Maen nhw’n rhoi gwybodaeth am y gwasanaethau gofal plant sydd ar gael yn lleol, a gallan nhw eich helpu os oes angen gofal plant arnoch chi ar gyfer plentyn ag anabledd neu anghenion arbennig.

Gallwch chi ffeindio a ydy’r gwasanaethau hyn yn eich ardal chi drwy gysylltu â’ch cyngor. Dod o hyd i’ch cyngor lleol ar wefan GOV.UK.

Canolfannau cynghori lleol (‘Local advice centres’)

Mae canolfannau cynghori yn asiantaethau di-elw sy’n rhoi cyngor am bethau fel budd-daliadau a thai.

Gallwch chi chwilio ar-lein am:

  • Cyngor ar Bopeth
  • canolfannau cyfraith cymunedol
  • swyddfeydd hawliau lles
  • canolfannau cymorth tai
  • canolfannau cymdogaeth
  • prosiectau cymunedol

‘Tips’ i’ch helpu i gael y gorau o wasanaethau:

  • ysgrifennwch air neu ddau er mwyn i chi gofio am beth rydych chi eisiau siarad ac unrhyw beth arall fyddai’n gallu helpu
  • os dydych chi ddim yn deall rhywbeth, dywedwch wrth y person rydych chi’n siarad â nhw. Gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu beth maen nhw’n ei ddweud

Os nad ydych chi’n siarad Saesneg fel iaith gyntaf, efallai bod help ar gael. Gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd beth sydd ar gael yn lleol.

Gwefannau, llinellau cymorth a grwpiau cymorth i rieni

‘Contact’: i deuluoedd â phlant anabl

Help, cyngor a gwybodaeth i rieni â phlant anabl.

‘Family Lives’

Sefydliad sy’n rhoi help ar unwaith gan weithwyr cymorth rhieni gwirfoddol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

‘Family Rights Group’

Help i rieni a theuluoedd plant sy’n defnyddio neu angen gwasanaethau gofal cymdeithasol.

‘Gingerbread’: rhieni sengl, teuluoedd cyfartal

Help a chyngor am bethau sy’n bwysig i rieni sengl.

Grwpiau rhieni a babanod

I gael gwybod am grwpiau lleol:

  • gofynnwch i’ch meddyg teulu, bydwraig neu ymwelydd iechyd
  • chwiliwch am bosteri neu daflenni yn eich clinig iechyd plant lleol, canolfan iechyd, syrjeri, canolfan plant, llyfrgell, canolfan cynghori, archfarchnad neu siop papur newydd
  • chwiliwch ar y we, ar Instagram, Facebook a.y.b. neu ar wefan eich cyngor lleol

Mewn rhai ardaloedd, mae grwpiau sy’n rhoi help i rieni o’r un cefndir a diwylliant. Mae llawer o’r rhain yn grwpiau menywod neu famau.

Mae gan lawer o ganolfannau plant grwpiau tadau a grwpiau i rieni yn eu harddegau (‘teenage parents’).

Efallai bod eich ymwelydd iechyd yn gwybod am grwpiau tebyg yn agos atoch chi.


Last Updated: 27/06/2023 11:53:34
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk