Cyflwyniad
Mae meningitis yn haint yn y pilenni amddiffynnol sy'n amgylchynu'r ymennydd a llinyn y cefn (breithelli).
Mae'n gallu effeithio ar unrhyw un, ond mae'n fwyaf cyffredin ymhlith babanod, plant ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc.
Gall meningitis fod yn ddifrifol iawn os na chaiff ei drin yn gyflym. Gall achosi gwenwyn gwaed (septisemia) ac achosi niwed parhaol i'r ymennydd neu'r nerfau.
Mae nifer o frechiadau ar gael sy'n cynnig amddiffyniad yn erbyn meningitis.
Symptomau meningitis
Mae symptomau meningitis yn datblygu'n sydyn ac yn gallu cynnwys:
- tymheredd uchel (twymyn) dros 37.5C (99.5F)
- chwydu
- pen tost/cur pen
- brech gochlyd nad yw'n colli lliw pan gaiff gwydr ei rolio drosti (ni fydd hyn yn datblygu bob amser)
- gwddf stiff
- ddim yn hoffi goleuadau llachar
- cysgadrwydd neu ddiffyg ymatebolrwydd
- ffitiau
Gall y symptomau hyn ymddangos mewn unrhyw drefn, ac efallai na fydd rhai ohonyn nhw yn ymddangos.
Darllenwch fwy ynghylch symptomau meningitis.
Pryd i gael cymorth meddygol
Dylech gael cymorth meddygol cyn gynted ag y bo modd os byddwch yn pryderu y gallai fod meningitis arnoch chi neu'ch plentyn.
Credwch eich greddf a pheidiwch ag aros nes bydd brech yn datblygu.
Ffoniwch 999 am ambiwlans neu ewch i'ch adran Achosion Brys a Damweiniau (A&E) agosaf ar unwaith os ydych yn credu y gallech chi neu'ch plentyn fod yn ddifrifol wael.
Ffoniwch 111 neu'ch meddygfa i gael cyngor os nad ydych yn siwr os yw'n rhywbeth difrifol neu eich bod yn credu y gallech fod wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd â meningitis.
Sut caiff meningitis ei ledaenu
Fel arfer, caiff meningitis ei achosi gan haint bacterol neu firaol. Mae meningitis bacterol yn fwy prin, ond yn fwy difrifol na meningitis firaol.
Gall heintiau sy'n achosi meningitis gael eu lledaenu trwy'r ffyrdd canlynol:
- tisian
- pesychu
- cusanu
- rhannu offer, cyllyll a ffyrc a brwshys dannedd
Fel arfer, bydd meningitis yn cael ei ddal gan bobl sy'n cario'r feirysau neu'r bacteria hyn yn eu trwyn neu'u gwddf ond nid ydyn nhw'n sâl eu hunain.
Hefyd, gellir ei ddal gan rywun sydd â meningitis, ond mae hyn yn llai cyffredin.
Darllenwch fwy am achosion meningitis.
Brechiadau yn erbyn meningitis
Mae brechiadau yn cynnig rhywfaint o amddiffyniad yn erbyn rhai achosion o feningitis.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- brechlyn meningitis B - cynigir i fabanod 8 wythnos oed, wedi'i ddilyn gan ail ddos yn 16 wythnos oed, a dos cyfnerthol yn 1 oed
- brechlyn 6-mewn-1 - cynigir i fabanod yn 8 wythnos oed, 12 ac 16 wythnos oed, ac yn 1 oed
- brechlyn niwmococol - cynigir i fabanod yn 8 wythnos oed, 16 wythnos oed ac yn 1 oed
- brechlyn meningitis C - cynigir i fabanod yn 1 oed
- brechlyn MMR - cynigir i fabanod yn 1 oed ac ail ddos yn 3 blwydd a 4 mis
- brechlyn meningitis ACWY - cynigir i bobl ifanc yn eu harddegau, myfyrwyr chweched dosbarth a "glas" fyfyrwyr sy'n mynd i'r brifysgol am y tro cyntaf
Trin meningitis
Fel arfer, bydd pobl yr amheuir bod meningitis arnynt yn cael profion yn yr ysbyty i gadarnhau'r diagnosis a gwirio a yw'r cyflwr wedi digwydd o ganlyniad i haint firaol neu facterol.
Fel arfer, mae angen trin meningitis bacterol yn yr ysbyty am o leiaf wythnos. Mae triniaethau'n cynnwys:
- gwrthfiotigau sy'n cael eu rhoi yn syth i mewn i wythïen
- hylifau sy'n cael eu rhoi yn syth i mewn i wythïen
- ocsigen trwy fwgwd wyneb
Mae meningitis firaol yn tueddu i wella ar ei ben ei hun o fewn 7-10 diwrnod, a gellir ei drin gartref yn aml. Gall digon o orffwys a chymryd cyffuriau lladd poen a meddyginiaeth gwrth-salwch helpu lleddfu'r symptomau yn y cyfamser.
Darllenwch fwy am sut caiff meningitis ei drin.
Rhagolwg
Fel arfer, bydd meningitis firaol yn gwella ar ei ben ei hun, ac anaml y mae'n achosi unrhyw broblemau yn yr hirdymor.
Bydd y rhan fwyaf o bobl â meningitis bacterol sy'n cael eu trin yn gyflym hefyd yn gwella'n gyflym, er bod rhai'n cael problemau difrifol, hirdymor. Gall y rhain gynnwys:
- colli clyw neu golli golwg, a allai fod yn rhannol neu'n llwyr
- problemau â'r cof a chanolbwyntio
- ffitiau mynych (epilepsi)
- problemau cydsymud, symud a chydbwysedd
- colli coesau neu freichiau - weithiau mae angen torri coesau neu freichiau sydd wedi eu heffeithio i ffwrdd
At ei gilydd, amcangyfrifir bod hyd at 1 o bob 10 achos o feningitis bacterol yn angheuol.
Darllenwch fwy ynghylch cymhlethdodau meningitis.
Symptomau
Un o brif symptomau meningitis yw brech gochlyd nad yw'n colli lliw pan gaiff gwydr ei rolio drosti, ond nid yw'r frech yn ymddangos mewn llawer o achosion.
Dylech chi gael cyngor meddygol cyn gynted ag y bo modd os byddwch chi'n pryderu amdanoch chi'ch hun neu'ch plentyn. Credwch yn eich greddf a pheidiwch ag aros nes bydd brech yn datblygu.
Ffoniwch 999 am ambiwlans neu ewch i'ch adran Achosion Brys a Damweiniau (A&E) agosaf os byddwch yn credu y gallech chi neu'ch plentyn fod yn ddifrifol wael.
Ffoniwch 111 neu'ch meddygfa i gael cyngor os nad ydych yn siwr os yw'n rhywbeth difrifol neu eich bod yn credu y gallech fod wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd â meningitis.
Brech meningitis
Mae'r frech nodweddiadol sy'n gysylltiedig â meningitis fel arfer yn edrych fel pigiadau pin bach, coch i ddechrau.
Wedyn, mae'n lledaenu dros y corff yn gyflym ac yn troi yn flotiau coch neu borffor.
Os byddwch yn pwyso ochr gwydr clir yn galed yn erbyn y croen ac nid yw'r frech yn newid lliw, mae'n arwydd o gwenwyn gwaed (septisemia) sy'n cael ei achosi gan feningitis a dylech chi gael cyngor meddygol ar unwaith.
Gall fod yn fwy anodd gweld y frech ar groen tywyll. Chwiliwch am smotiau ar ardaloedd mwy gwelw fel cledrau'r dwylo, gwadnau'r traed, y bol, y tu mewn i'r amrannau a thaflod y genau.
Symptomau eraill meningitis
Gall meningitis fod â nifer o symptomau eraill hefyd, gan gynnwys:
- tymheredd uchel (twymyn) dros 37.5C (99.5F)
- teimlo'n sâl a chwydu
- natur flin a diffyg egni
- pen tost / cur pen
- poen yn y cyhyrau a'r cymalau
- anadlu'n gyflym
- dwylo a thraed oer
- croen gwelw, lliw brith
- dryswch
- gwddf stiff
- ddim yn hoffi goleuadau llachar
- cysgadrwydd
- ffitiau
Gallai babanod hefyd:
- wrthod cael eu bwydo
- bod yn aflonydd a ddim eisiau cael eu codi
- cael smotyn meddal chwyddedig ar eu pen (fontanelle)
- bod yn llipa neu'n ddiymateb
- crïo/llefain yn anarferol o uchel
- cael corff stiff
Gall y symptomau hyn ddatblygu mewn unrhyw drefn ac efallai na fydd rhai ohonynt yn ymddangos.
Achosion
Fel arfer, caiff meningitis ei achosi gan haint bacterol neu firaol.
Meningitis firaol yw'r math mwyaf cyffredin a lleiaf difrifol. Mae meningitis bacterol yn brin ond gall fod yn ddifrifol iawn os na chaiff ei drin.
Gall sawl feirws a bacteria gwahanol achosi meningitis, gan gynnwys:
Mae nifer o frechiadau meningitis yn darparu amddiffyniad yn erbyn llawer o'r heintiau sy'n gallu achosi meningitis.
Sut caiff meningitis ei ledaenu
Gall y feirysau a'r bacteria sy'n achosi meningitis gael eu lledaenu trwy'r ffyrdd canlynol:
- tisian
- pesychu
- cusanu
- rhannu offer, cyllyll a ffyrc a brwshys dannedd
Fel arfer, caiff yr haint ei ledaenu gan bobl sy'n cario'r feirysau neu'r bacteria hyn yn eu trwyn neu'u gwddf, ond dydyn nhw ddim yn sâl eu hunain.
Gall yr haint gael ei ledaenu hefyd gan rywun sydd â meningitis, er bod hyn yn llai cyffredin.
Mae'n bosibl cael meningitis fwy nag unwaith.
Pwy sydd â'r risg fwyaf?
Gall unrhyw un o bosibl gael meningitis, ond mae'n fwy cyffredin ymhlith y canlynol:
- babanod a phlant ifanc
- pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc
- pobl oedrannus
- pobl sydd â system imiwnedd wan - er enghraifft, y rheiny sydd â HIV a'r rheiny sy'n cael cemotherapi
Gallwch leihau'r risg o gael meningitis trwy sicrhau eich bod wedi cael yr holl frechiadau.
Triniaeth
Fel arfer, bydd angen i bobl yr amheuir bod meningitis arnynt gael profion yn yr ysbyty, ac efallai bydd angen iddynt aros yn yr ysbyty i gael triniaeth.
Profion yn yr ysbyty
Gellir cynnal sawl prawf i gadarnhau'r diagnosis a gwirio a yw'r cyflwr wedi digwydd o ganlyniad i haint firaol neu facterol.
Gallai'r profion hyn gynnwys:
Gan fod meningitis bacterol yn gallu bod yn ddifrifol iawn, bydd triniaeth â gwrthfiotigau fel arfer yn dechrau cyn cadarnhau'r diagnosis a bydd yn cael ei hatal yn ddiweddarach os bydd profion yn dangos bod y cyflwr wedi cael ei achosi gan feirws.
Triniaeth yn yr ysbyty
Argymhellir triniaeth yn yr ysbyty ym mhob achos o feningitis bacterol, gan fod y cyflwr yn gallu achosi problemau difrifol ac mae angen ei fonitro'n agos.
Gallai fod angen trin meningitis firaol difrifol yn yr ysbyty hefyd.
Mae triniaethau'n cynnwys:
- gwrthfiotigau sy'n cael eu rhoi yn syth i mewn i wythïen
- hylifau'n cael eu rhoi yn syth i mewn i wythïen i atal dadhydradu
- ocsigen trwy fwgwd wyneb os bydd unrhyw broblemau anadlu
- meddyginiaeth steroid i helpu lleihau unrhyw chwyddo o amgylch yr ymennydd, mewn rhai achosion
Gallai fod angen i bobl â meningitis aros yn yr ysbyty am ychydig ddyddiau, ac mewn rhai achosion, efallai bydd angen triniaeth am sawl wythnos.
Hyd yn oed ar ôl mynd adref, gallai gymryd amser hir cyn i chi deimlo fel roeddech o'r blaen.
Gallai fod angen triniaeth ychwanegol a chymorth hirdymor hefyd os bydd unrhyw cymhlethdodau yn sgil meningitis yn digwydd, fel colli clyw.
Triniaeth gartref
Fel arfer, byddwch chi'n gallu mynd adref o'r ysbyty os oes gennych chi neu'ch plentyn feningitis ysgafn a bod profion yn dangos ei fod yn cael ei achosi gan haint firaol.
Bydd y math hwn o feningitis fel arfer yn gwella ar ei ben ei hun heb achosi unrhyw broblemau difrifol. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n well o fewn 7-10 diwrnod.
Yn y cyfamser, gall helpu:
- cael digon o orffwys
- cymryd cyffuriau lladd poen ar gyfer pen tost / cur pen neu boenau cyffredinol
- cymryd meddyginiaeth gwrth-gyfog (gwrth-salwch) ar gyfer unrhyw chwydu
Atal haint rhag lledaenu
Mae'r risg y bydd rhywun â meningitis yn lledaenu'r haint i bobl eraill yn isel ar y cyfan. Ond os credir bod gan rywun risg uchel o gael ei heintio, gellir rhoi dos o wrthfiotig iddo, rhag ofn.
Gallai hyn gynnwys unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad agos hir gyda rhywun sydd wedi datblygu meningitis, fel:
- pobl sy'n byw yn yr un ty
- disgyblion sy'n rhannu ystafell gysgu
- myfyrwyr prifysgol sy'n rhannu neuadd breswyl
- cariad
Fel arfer, ni fydd angen i bobl sydd ddim ond wedi cael cysylltiad bras â rhywun sydd wedi datblygu meningitis gymryd gwrthfiotig.
Cymhlethdodau
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llawn o feningitis, ond gall weithiau achosi problemau difrifol, hirdymor, a gall beryglu bywyd.
Dyma pam mae hi mor bwysig cael cymorth meddygol cyn gynted ag y bo modd os ydych yn credu bod gennych chi neu'ch plentyn symptomau meningitis, a pham mae brechiadau meningitis yn cael eu cynnig i grwpiau penodol.
Amcangyfrifir bod hyd at un person ym mhob dau neu dri pherson sy'n goroesi meningitis bacterol yn cael ei adael ag un broblem barhaol neu fwy.
Mae cymhlethdodau'n llawer mwy prin ar ôl meningitis firaol.
Prif gymhlethdodau
Dyma rai o'r prif gymhlethdodau cyffredin sy'n gysylltiedig â meningitis:
- colli clyw – gallai rhywun golli ei glyw yn rhannol neu'n gyfan gwbl - bydd pobl sydd wedi cael meningitis fel arfer yn cael prawf clyw ar ôl ychydig wythnosau i wirio am unrhyw broblemau
- problemau â'r cof a chanolbwyntio
- problemau cydsymud, symud a chydbwysedd
- anawsterau dysgu a phroblemau ymddygiadol
- ffitiau mynych (epilepsi)
- colli coesau neu freichiau - weithiau mae angen torri coesau neu freichiau i ffwrdd i atal yr haint rhag lledaenu trwy'r corff a chael gwared ar feinwe wedi'i niweidio
- colli golwg – gallai rhywun golli ei olwg yn rhannol neu'n gyfan gwbl
- problemau â'r esgyrn a'r cymalau, fel arthritis
- problemau â'r arennau
At ei gilydd, amcangyfrifir bod hyd at 1 ym mhob 10 achos o feningitis bacterol yn angheuol.
Triniaeth a chymorth
Efallai bydd angen triniaeth ychwanegol a chymorth yn yr hirdymor os byddwch chi neu'ch plentyn yn profi cymhlethdodau meningitis.
Er enghraifft:
- efallai bydd angen mewnblaniad cochleaidd, sef dyfeisiau bach sy'n cael eu gosod y tu mewn i'r clustiau i wella'r clyw, mewn rhai achosion difrifol o golli clyw - darllenwch fwy ynghylch triniaeth ar gyfer colli clyw
- gallai coesau a breichiau prosthetig a chymorth adsefydlu helpu os oedd angen torri unrhyw goesau neu freichiau i ffwrdd - darllenwch fwy ynghylch gwella ar ôl torri coes neu fraich i ffwrdd
- gallai cwnsela a chymorth seicolegol helpu os yw trawma ar ôl cael meningitis yn achosi problemau fel cwsg anesmwyth, gwlychu'r gwely neu ofni meddygon ac ysbytai
Gallai fod yn ddefnyddiol i chi gysylltu â sefydliadau fel y Sefydliad Ymchwil Meningitis a Meningitis Now am gymorth a chyngor am fywyd ar ôl meningitis.
Mae canllaw'r Sefydliad Ymchwil Meningitis, sef recovering from childhood bacterial meningitis and septicaemia (PDF, 6.73Mb) yn cynnwys mwy o wybodaeth am sgîl-effeithiau meningitis ac ôl-ofal.
Brechu
Gall meningitis gael ei achosi gan nifer o wahanol heintiau, felly mae sawl brechiad yn cynnig amddiffyniad yn ei erbyn.
Dylai plant gael y rhan fwyaf o'r rhain fel rhan o amserlen frechu'r GIG. Siaradwch â'ch meddyg teulu os nad ydych yn siwr p'un a ydych chi neu'ch plentyn wedi cael y brechiadau angenrheidiol.
Brechlyn meningitis B
Brechlyn newydd yw meningitis B sy'n cynnig amddiffyniad yn erbyn bacteria meningococaidd grwp B, sy'n un o achosion cyffredin meningitis mewn plant ifanc yn y DU.
Argymhellir y brechlyn ar gyfer babanod wyth wythnos oed, wedi'i ddilyn gan ail ddos pan fyddant yn 16 wythnos, a phigiad cyfnerthol pan fyddant yn flwydd oed.
Darllenwch fwy ynghylch brechlyn meningitis B.
Brechlyn 6-mewn-1
Mae brechlyn 6-mewn-1 yn un o'r brechlynnau cyntaf y bydd eich babi'n ei gael.
Caiff ei roi fel un chwistrelliad i amddiffyn eich babi yn erbyn chwe chlefyd mwyaf difrifol plentyndod, sef:
- difftheria
- tetanws
- y pâs (pertussis)
- polio
- Hib (Haemophilus influenzae math b)
- hepatitis B
Math o facteria sy'n gallu achosi meningitis yw Hib.
Caiff y brechlyn ei roi ar dri achlysur gwahanol, pan fydd babanod yn 8, 12 ac 16 wythnos oed.
Darllenwch fwy am y brechlyn 6-mewn-1.
Brechlyn niwmococol
Mae'r brechlyn niwmococol yn cynnig amddiffyniad yn erbyn heintiau difrifol sy'n cael eu hachosi gan bacteria niwmococol, gan gynnwys meningitis.
Mae babanod yn cael y brechlyn niwmococol fel tri phigiad gwahanol, yn 8 wythnos, yn 16 wythnos ac yn flwydd oed.
Darllenwch fwy am y brechlyn niwmococol.
Brechlyn meningitis C
Mae brechlyn meningitis C yn cynnig amddiffyniad yn erbyn math o facteria sy'n gallu achosi meningitis o'r enw bacteria meningococaidd grwp C.
Cynigir brechlyn meningitis C i fabanod yn rheolaidd pan fyddant yn flwydd oed yn y brechlyn cyfnerthol cyfunol Hib/Men C.
Cynigir brechiad i bobl ifanc yn eu harddegau a myfyrwyr sy'n dechrau yn y brifysgol hefyd yn erbyn bacteria meningococaidd grwp C fel rhan o'r brechlyn meningitis ACWY cyfunol (gweler isod).
Darllenwch fwy ynghylch brechlyn meningitis C.
Brechlyn MMR
Mae brechlyn MMR yn cynnig amddiffyniad yn erbyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela. Gall meningitis ddigwydd weithiau fel cymhlethdod o ganlyniad i'r heintiau hyn.
Fel arfer, rhoddir y brechlyn i fabanod yn flwydd oed. Wedyn, byddant yn cael ail ddos pan fyddant yn dair blwydd a phedwar mis oed.
Darllenwch fwy am y brechlyn MMR.
Brechlyn meningitis ACWY
Mae brechlyn meningitis ACWY yn cynnig amddiffyniad yn erbyn pedwar math o facteria sy'n gallu achosi meningitis - grwpiau meningococaidd A, C, W ac Y.
Dylai pobl ifanc yn eu harddegau, myfyrwyr chweched dosbarth a "glas" fyfyrwyr sy'n mynd i'r brifysgol am y tro cyntaf gael y brechiad.
Darllenwch fwy ynghylch brechlyn meningitis ACWY.
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf:
05/06/2024 13:50:16