Thyroid, gorweithgar

Cyflwyniad

Mae thyroid gorweithredol (sydd hefyd yn cael ei alw'n orthyroidedd) yn gyflwr hormonaidd cymharol gyffredin sy'n digwydd pan fydd gormod o hormon thyroid yn y corff.

Mae lefelau gormodol o hormonau thyroid wedyn yn gallu cyflymu metaboledd y corff gan sbarduno ystod o symptomau, fel:

Mae difrifoldeb, amlder ac ystod y symptomau yn gallu amrywio o un unigolyn i'r llall.

Darllenwch fwy ynghylch symptomau chwarren thyroid gorweithredol.

Beth sy'n achosi chwarren thyroid gorweithredol?  

Mae'r chwarren thyroid i'w chael yn y gwddf. Mae'n cynhyrchu hormonau sy'n cael eu rhyddhau i lif y gwaed er mwyn rheoli twf a metaboledd y corff. Yr enw ar yr hormonau hyn yw thyrocsin a thriiodothyronin.

Maent yn effeithio ar brosesau fel cyfradd curiad y galon a thymheredd y corff, ac maent yn helpu i droi bwyd yn ynni i gadw'r corff i weithio.

Mewn gorthyroidedd, mae'r chwarren thyroid yn cynhyrchu gormod o thyrocsin neu thriiodothyronin, sy'n cyflymu metaboledd y corff.

Mae llawer o achosion gwaelodol posibl, a'r mwyaf cyffredin ohonynt yw clefyd Graves, lle mae system imiwnedd y corff yn targedu'r chwarren thyroid ac yn achosi iddi gynhyrchu gormod o'r hormonau thyroid.

Darllenwch fwy ynghylch achosion chwarren thyroid gorweithredol.

Triniaeth

Mae thyroid gorweithredol fel arfer yn ymateb yn dda i driniaeth, a gall y rhan fwyaf o bobl reoli eu symptomau.

Dyma'r tair triniaeth sy'n cael eu defnyddio amlaf ar gyfer chwarren thyroid gorweithredol:

  • thionamides - grwp o feddyginiaethau sy'n atal y chwarren thyroid rhag cynhyrchu gormod o hormon thyroid
  • beta-atalyddion - meddyginiaeth i leddfu llawer o symptomau chwarren thyroid gorweithredol dros dro er nad yw'n targedu'r chwarren thyroid ei hun
  • triniaeth radio-ïodin - sylwedd ymbelydrol o'r enw iodin sy'n helpu i leihau'r chwarren thyroid, gan leihau ei gweithgarwch (mae'r ymbelydredd sydd wedi'i gynnwys mewn ïodin yn ddos isel iawn, ac nid yw'n bygwth iechyd)

Mewn nifer fach o achosion, efallai bydd angen llawdriniaeth i dynnu rhywfaint o'r chwarren thyroid, neu'r cyfan ohoni.

Yn aml, mae triniaeth yn achosi i'r chwarren thyroid beidio â chynhyrchu digon o hormonau (yr enw am hyn yw chwarren thyroid tanweithredol neu isthyroidedd). Fodd bynnag, nid yw thyroid tanweithredol fel arfer yn ddifrifol, a gellir trin y cyflwr yn hawdd.

Darllenwch fwy ynghylch trin chwarren thyroid gorweithredol.

Cymhlethdodau

Bydd tuag 1 o bob 20 o bobl â chlefyd Graves yn datblygu symptomau sy'n effeithio ar eu llygaid, fel:

Mae hyn yn cael ei alw'n offthalmopathi Graves, a dylai gael ei weld gan feddyg sy'n arbenigo mewn trin cyflyrau'r llygaid (offthalmolegydd).

Cymhlethdod mwy prin a mwy difrifol yw fflamychiad (flare-up) sydyn a difrifol o symptomau sy'n cael ei alw'n storm thyroid. Gall storm thyroid fygwth bywyd gan ei fod yn achosi dadhydradiad difrifol a phroblemau difrifol ar y galon.

Darllenwch fwy ynghylch cymhlethdodau chwarren thyroid gorweithredol.

Ar bwy mae'n effeithio

Mae menywod 10 gwaith yn fwy tebygol o gael chwarren thyroid gorweithredol na dynion.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd symptomau yn dechrau rhywbryd rhwng 20 a 40 oed, er eu bod yn gallu dechrau ar unrhyw oedran, gan gynnwys mewn plentyndod.

Mae chwarren thyroid gorweithredol yn digwydd amlaf ymhlith pobl wyn a phobl Asiaidd ac yn llai aml ymhlith pobl Affricanaidd-Garibïaidd. 

Symptomau

Mae thyroid gorweithredol (gorthyroidedd) yn achosi llawer o symptomau, er ei bod yn annhebygol iawn y byddech fyth yn datblygu pob un ohonynt.

Symptomau gorthyroidedd

Os oes gorthyroidedd gennych, efallai y bydd gennych rai o'r symptomau canlynol:

Os oes gennych diabetes, efallai hefyd y byddwch yn sylwi bod gorthyroidedd yn gwneud eich symptomau diabetes, fel syched a blinder mawr iawn, yn waeth.

Arwyddion o orthyroidedd

Os oes gennych orthyroidedd, efallai y byddwch yn sylwi ar rai o'r arwyddion corfforol canlynol:

  • chwydd yn eich gwddf wedi'i achosi gan chwarren thyroid chwyddedig (goitr)
  • cyfradd curiad eich calon yn afreolaidd a/neu'n anarferol o gyflym
  • cryndod (crynu neu ysgwyd)
  • croen llaith, cynnes,
  • cochni ar gledrau'r dwylo
  • eich ewinedd yn llacio yng ngwely'r ewin
  • croen coslyd gyda chwyddiadau coslyd (wrticaria),
  • colli gwallt mewn mannau (alopesia)
  • gwingo yn eich wyneb a'ch coesau a'ch breichiau.

Pryd i gael cyngor meddygol

Ewch i weld eich meddyg teulu os bydd gennych unrhyw un o'r symptomau uchod. Efallai nad ydynt yn digwydd o ganlyniad i chwarren thyroid gorweithredol, ond bydd angen ymchwilio iddynt ymhellach.

Gallai fod yn ddefnyddiol i chi wneud rhestr o'ch symptomau oherwydd gall hyn yn aml fod yn ddefnyddiol wrth bennu'r diagnosis cywir. 

Achosion

Bydd thyroid gorweithredol (gorthyroidedd) yn digwydd pan fydd eich chwarren thyroid yn cynhyrchu gormod o'r hormonau thyroid thyrocsin neu thriiodothyronin.

Gall cynhyrchiad gormodol yr hormonau thyroid gael ei achosi gan nifer o gyflyrau, sydd wedi'u hamlinellu isod.

Clefyd Graves

Clefyd Graves yw achos mwyaf cyffredin thyroid gorweithredol. Gall redeg mewn teuluoedd a gall ddigwydd i bobl o bob oedran, er ei fod yn fwyaf cyffredin ymysg menywod rhwng 20 a 40 mlwydd oed. Rydych hefyd yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd Graves os ydych yn ysmygu.

Mae clefyd Graves yn gyflwr hunanimiwn, pan fydd eich system imiwnedd yn camgymryd rhywbeth yn y corff am sylwedd gwenwynig ac yn ymosod arno.

Gyda chlefyd Graves, mae'n ymosod ar y chwarren thyroid sy'n arwain at orgynhyrchu'r hormonau thyroid.

Nid yw'n hysbys beth sy'n sbarduno'r system imiwnedd i wneud hyn. Fel llawer o gyflyrau hunanimiwn, credir y gallai cyfuniad o ffactorau genetig ac amgylcheddol fod yn gysylltiedig. 

Os oes gennych glefyd Graves, mae'n bosibl y bydd eich llygaid yn cael eu heffeithio hefyd, gan achosi anghysur a golwg dwbl. Gelwir hyn yn offthalmopathi Graves. Efallai y sylwch bod eich llygaid yn 'sefyll allan', neu'n ymddangos yn fwy amlwg.

Gweler cymhlethdodau chwarren thyroid gorweithredol i gael mwy o wybodaeth am offthalmopathi Graves.

Nodiwlau thyroid

Mae'n bosibl i lympiau ddatblygu yn eich chwarren thyroid, a elwir yn nodiwlau. Nid yw'n hysbys pam mae'r nodiwlau hyn yn datblygu, ond fel arfer, nid ydynt yn ganseraidd (anfalaen).

Fodd bynnag, mae'r nodiwlau'n gallu cynnwys meinwe thyroid annormal sy'n gallu effeithio ar gynhyrchu thyrocsin neu driiodothyronin, gan achosi thyroid gorweithredol. Mae nodiwlau sy'n cynnwys meinwe thyroid annormal yn cael eu disgrifio'n wenwynig.

Mae nodiwlau thyroid gwenwynig yn gyfrifol am ryw 1 o bob 20 o achosion o orthyroidedd.

Atchwanegiadau ïodin

Mae'r ïodin sydd wedi'i gynnwys yn y bwyd yr ydych yn ei fwyta'n cael ei ddefnyddio gan eich chwarren thyroid i gynhyrchu'r hormonau thyroid, thyrocsin a thriiodothyronin. Fodd bynnag, mae cymryd gormod o ïodin ychwanegol mewn atchwanegiadau yn gallu gwneud i'ch chwarren thyroid gynhyrchu gormod o thyrocsin neu driiodothyronin.

Mae hyn yn cael ei alw'n orthyroidedd yn sgil ïodin, sydd weithiau'n cael ei alw'n ffenomenon Jod-Basedow. Fel arfer, ni fydd hyn yn digwydd oni bai bod gennych eisoes nodiwlau yn eich chwarren thyroid.

Amiodarone

Mae amiodarone yn fath o feddyginiaeth sy'n cael ei alw'n feddyginiaeth gwrth-arhythmig, sy'n helpu i reoli curiad calon afreolaidd (ffibriliad atrïaidd). Os oes gennych nodiwlau nad ydynt yn wenwynig yn eich chwarren thyroid, gall cymryd amiodarone achosi gorthyroidedd gan ei fod yn cynnwys ïodin.

Gall amiodarone achosi math o orthyroidedd sydd fel arfer yn fwy difrifol ac yn anos ei drin trwy effaith niweidiol ar feinwe thyroid. Caiff y math hwn o orthyroidedd ei alw'n orthyroidedd yn sgil amiodarone.

Canser ffoliglaidd y thyroid

Mewn achosion prin, gallech ddatblygu thyroid gorweithredol o ganlyniad i canser y thyroid sy'n dechrau yn eich ffoliglau thyroid. Gall hyn ddigwydd os yw'r celloedd canser yn eich chwarren thyroid yn dechrau cynhyrchu thyrocsin, neu driiodothyronin. Caiff hyn ei alw'n ganser gweithredol y thyroid hefyd.

 

Diagnosis

Dylech fynd i weld eich meddyg teulu os ydych yn tybio bod gennych chwarren thyroid gorweithredol (gorthyroidedd).

Bydd eich diagnosis yn seiliedig ar eich symptomau a chanlyniadau prawf gwaed sy'n gallu asesu pa mor dda mae eich chwarren thyroid yn gweithio. Mae'r prawf gwaed hwn yn cael ei alw'n brawf gweithrediad thyroid.

Prawf gweithrediad thyroid

Bydd eich meddyg teulu'n cymryd sampl o'ch gwaed ac yn ei phrofi am lefelau o:

  • hormon ysgogi thyroid (TSH)
  • thyrocsin a thriiodothyronin (yr hormonau thyroid)

Mae TSH yn cael ei wneud yn y chwarren bitwidol yn eich ymennydd ac mae'n rheoli cynhyrchiad thyrocsin a thriiodothyronin.

  • Pan fydd lefel y thyrocsin a'r thriiodothyronin yn eich gwaed yn normal, bydd eich chwarren bitwidol yn rhyddhau lefel normal o TSH. Pan fydd gormod o hormon thyroid yn cael ei gynhyrchu, mae'r chwarren bitwidol yn rhoi'r gorau i ryddhau TSH.
  • Pan fydd lefel y thyrocsin neu'r thriiodyothyronin yn disgyn, bydd y chwarren bitwidol yn cynhyrchu mwy o TSH i hybu'r lefelau.

Os oes gennych thyroid gorweithredol, bydd y prawf gweithrediad thyroid yn dangos bod y lefelau TSH yn eich gwaed yn gyson is na'r hyn sy'n normal. Mae lefelau isel o TSH yn golygu bod eich chwarren thyroid yn orweithredol a'i bod yn debygol o fod yn gwneud gormod o hormonau thyroid. Dyma ran gyntaf y prawf gweithrediad thyroid.

Wedyn, bydd eich meddyg teulu yn profi'ch gwaed am lefelau thyrocsin a thriiodothyronin. Os oes gennych thyroid gorweithredol, bydd gennych lefelau uwch na normal o'r ddau hormon hyn.

Pennu'r achos gwaelodol

Os yw profion yn cadarnhau bod gennych chwarren thyroid gorweithredol, efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio ar gyfer rhagor o brofion i bennu'r achos gwaelodol.

Prawf sy'n cael ei ddefnyddio yn aml yw sgan thyroid isotop pan fyddwch yn llyncu ychydig bach o sylwedd ymbelydrol (isotop), technetiwm gan amlaf, ar ffurf capsiwl neu hylif.

Wedyn, defnyddir sgan i fesur faint o'r isotop sydd wedi cael ei amsugno gan eich chwarren thyroid.

Os yw'r chwarren thyroid yn amsugno llawer o'r isotop, mae'n debygol mai'r achos gwaelodol yw clefyd Graves neu nodiwlau thyroid.

Ac os na fydd y chwarren thyroid yn amsugno llawer o'r isotop, efallai mai'r canlynol yw'r achos gwaelodol:

  • cochni a chwyddo (llid) yn y chwarren thyroid (thyroditis) sy'n cael ei achosi'n aml pan fydd eich system imiwnedd yn ymosod ar feinwe'r thyroid trwy gamgymeriad, a chan haint, sy'n llai cyffredin
  • cael gormod o ïodin yn eich diet
  • ac, mewn achosion prin, canser y thyroid

Chwarren thyroid gorweithredol isglinigol

Mewn rhai achosion, gallai profion ddangos bod gennych lefelau uchel o hormon thyroid ond nad oes gennych symptomau.

Caiff hyn ei alw'n chwarren thyroid gorweithredol isglinigol. Os byddwch yn cael diagnosis o thyroid gorweithredol isglinigol, efallai na fydd angen triniaeth arnoch.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r lefel is o hormon ysgogi thyroid (TSH) yn eich gwaed yn mynd yn ôl i fod yn normal ymhen rhai misoedd, a bydd eich gorthyroidedd isglinigol yn gwella ar ei ben ei hun.

Fodd bynnag, bydd angen prawf gweithrediad thyroid arall arnoch er mwyn gallu monitro eich cyflwr.

Triniaeth

Os byddwch yn cael diagnosis o chwarren thyroid gorweithredol (gorthyroidedd), bydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio at arbenigwr mewn cyflyrau hormonaidd (endocrinolegydd) i gynllunio eich triniaeth.

Mae'r triniaethau sy'n cael eu defnyddio amlaf ar gyfer thyroid gorweithredol wedi eu hamlinellu isod. 

Thionamides

Mae thionamides fel carbimazole a methimazole, yn driniaeth gyffredin. Maent yn fath o feddyginiaeth sy'n atal eich chwarren thyroid rhag cynhyrchu gormod o thyrocsin neu driiodothyrocsin.

Gan fod thionamides yn effeithio ar gynhyrchiad yr hormon thyroid yn hytrach na'u lefelau presennol, bydd angen i chi eu cymryd am nifer o wythnosau cyn i chi sylwi ar welliant (rhwng pedair ac wyth wythnos fel arfer).

Pan fydd yr hormonau thyroid a gynhyrchir dan reolaeth, gallai eich arbenigwr leihau'r feddyginiaeth yn raddol.

Efallai bydd angen i chi barhau i gymryd thionamides am gyfnod hir, nes bod y cyflwr dan reolaeth.

Bydd tua 1 o bob 20 o bobl yn cael sgîl-effeithiau pan fyddant yn dechrau cymryd thionamides, fel:

  • brech goslyd ar y croen
  • poen yn y cymalau
  • tymheredd uchel (twymyn) o 38C neu'n uwch (100.4F)

Dylai'r sgîl-effeithiau hyn basio pan fydd eich corff wedi arfer ag effeithiau'r feddyginiaeth.

Mewn achosion prin (tua 1 o bob 500), mae thionamides yn achosi gostyngiad sydyn mewn celloedd gwaed gwyn (agranwlosytosis), sy'n gallu eich gwneud yn agored iawn i haint.

Mae symptomau agranwlosytosis yn cynnwys:

Os ydych yn cymryd thionamides ac yn cael unrhyw un o'r symptomau uchod, yna ffoniwch eich meddyg teulu ar unwaith i gael cyngor. Os nad oes modd gwneud hyn, ffoniwch GIG 111 Cymru (os ar gael yn eich ardal) neu 0845 46 47 neu eich gwasanaeth lleol y tu allan i oriau.

Beta-atalyddion

Mae beta-atalyddion, fel propranolol neu atenolol yn gallu lleddfu rhai o symptomau thyroid gorweithredol, gan gynnwys cryndod (crynu ac ysgwyd), curiad calon cyflym a gorfywiogrwydd.

Gallai eich arbenigwr roi beta-atalydd i chi ar bresgripsiwn tra bydd diagnosis yn cael ei wneud o'r cyflwr neu nes bydd thionamide yn cadw eich chwarren thyroid dan reolaeth. Fodd bynnag, nid yw beta-atalyddion yn addas os oes gennych asthma.

Weithiau gall beta-atalyddion achosi sgîl-effeithiau, gan gynnwys:

  • teimlo'n sâl
  • teimlo'n flinedig yr holl amser (lludded)
  • dwylo a thraed oer
  • trafferth yn cysgu, weithiau gyda hunllefau

Triniaeth radio-ïodin

Mae triniaeth radio-ïodin yn fath o radiotherapi a ddefnyddir i drin y rhan fwyaf o fathau o thyroid gorweithredol. Mae ïodin ymbelydrol yn lleihau eich chwarren thyroid, gan leihau faint o hormon thyroid y mae'n gallu ei gynhyrchu.

Rhoddir triniaeth radio-ïodin naill ai fel diod neu gapsiwl i'w lyncu. Mae'r dos o ymbelydredd yn y radio-ïodin yn isel iawn ac nid yw'n niweidiol.

Nid yw triniaeth radio-ïodin yn addas os ydych yn feichiog neu'n bwydo ar y fron, ac efallai nad yw'n addas os oes gennych broblemau â'ch llygaid, fel golwg dwbl neu lygaid amlwg (chwyddedig).

Dylai menywod osgoi beichiogi am o leiaf chwe mis ar ôl cael triniaeth radio-ïodin. Ni ddylai dynion genhedlu plentyn am o leiaf pedwar mis ar ôl cael triniaeth radio-ïodin.

Dim ond un dos o driniaeth radio-ïodin sydd ei angen ar y rhan fwyaf o bobl. Os bydd angen dos dilynol arall, mae'n cael ei roi 6-12 mis ar ôl y dos cyntaf gan amlaf.

Gellir rhoi cwrs byr o driniaeth thionamides am ychydig o wythnosau cyn triniaeth radio-ïodin, oherwydd gall hyn arwain at leddfu symptomau yn gyflymach.

Thionamides neu radio-ïodin?

Mewn rhai achosion, gellid argymell triniaeth benodol yn seiliedig ar ffactorau fel eich oedran, eich symptomau a faint o hormon thyroid ychwanegol sydd yn eich gwaed, ond gallech gael cynnig dewis rhwng cwrs hirdymor o thionamides neu driniaeth radio-ïodin mewn rhai amgylchiadau.

Mae manteision ac anfanteision i'r naill driniaeth a'r llall.

Mae manteision thionamides yn cynnwys:

  • maent yn hawdd i'w cymryd ac nid oes yn rhaid i chi fynd i'r ysbyty i'w cymryd
  • mae llai o risg y bydd eich chwarren thyroid yn mynd yn danweithredol o ganlyniad i driniaeth

Mae anfanteision thionamides yn cynnwys:

  • mae llai o bosibilrwydd o welliant llwyr na gyda thriniaeth radio-ïodin
  • mae risg uwch o sgîl effeithiau

Mae manteision triniaeth radio-ïodin yn cynnwys:

  • mae triniaeth fel arfer yn arwain at welliant llwyr

Mae anfanteision triniaeth radio-ïodin yn cynnwys:

  • mae posibilrwydd o ryw 6 o bob 10 y bydd eich chwarren thyroid yn mynd yn danweithredol o ganlyniad i driniaeth
  • nid yw triniaeth radio-ïodin fel arfer yn addas ar gyfer pobl sydd â symptomau ychwanegol sy'n effeithio ar eu llygaid (offthalmopathi Graves)
  • rhaid i fenywod osgoi beichiogi am o leiaf chwe mis ac ni ddylai dynion genhedlu plentyn am o leiaf pedwar mis ar ôl triniaeth

Dylech drafod manteision ac anfanteision y ddau fath o driniaeth gyda'r arbenigwr sydd â gofal amdanoch.

Llawdriniaeth

Mae llawdriniaeth i dynnu naill ai rhan o'r chwarren thyroid, neu'r cyfan ohoni, yn cael ei galw yn thyroidectomi cyfan, neu rannol. Mae'n wellhad parhaol ar gyfer thyroid gorweithredol rheolaidd.

Gall eich arbenigwr argymell llawdriniaeth os yw eich chwarren thyroid yn chwyddedig iawn (goitr mawr) a'i bod yn achosi problemau yn eich gwddf.

Mae rhesymau eraill am gael llawdriniaeth yn cynnwys:

  • ni ellir trin yr unigolyn gyda thriniaeth radio-ïodin gan ei bod yn feichiog ac nid yw'n gallu neu mae'n amharod i gymryd thionamides
  • mae gan yr unigolyn fath difrifol o offthalmopathi Graves
  • mae'r symptomau yn dod yn ôl (ail bwl) ar ôl cwrs llwyddiannus blaenorol o driniaeth gyda thionamides

Argymhellir gan amlaf y dylid tynnu'r cyfan o'r chwarren thyroid gan fod hyn yn golygu na fydd posibilrwydd o gael ail bwl.

Fodd bynnag, bydd angen i chi gymryd meddyginiaeth am weddill eich bywyd i wneud iawn am y ffaith nad oes gennych chwarren thyroid - bydd y meddyginiaethau hyn yr un fath â'r rhai a ddefnyddir ar gyfer trin chwarren thyroid tanweithredol.  

Cymhlethdodau

Mae sawl cymhlethdod posibl sy'n gallu digwydd os oes gennych thyroid gorweithredol (gorthyroidedd), yn enwedig os na chaiff y cyflwr ei drin.

Offthalmopathi Graves

Os oes gennych glefyd Graves, efallai bod gennych broblemau â'ch llygaid. Caiff hyn ei adnabod fel offthalmopathi Graves, a chredir ei fod yn cael ei achosi pan fydd y system imiwnedd yn ymosod ar feinweoedd y llygaid trwy gamgymeriad. Mae'n effeithio ar ryw 1 o bob 20 o bobl sydd â chlefyd Graves.

Mae symptomau offthalmopathi Graves yn cynnwys:

  • mae eich llygaid yn teimlo'n sych a grudiog
  • sensitifrwydd i olau (ffotoffobia)
  • cynhyrchu gormod o ddagrau
  • golwg dwbl
  • colli rhywfaint o'ch golwg
  • teimlad o bwysedd y tu ôl i'r llygaid

Mewn achosion mwy difrifol, gall eich llygaid chwyddo yn amlwg o socedi'r llygaid.

Os byddwch yn datblygu offthalmopathi Graves, mae'n siwr y byddwch yn cael eich cyfeirio at arbenigwr y llygaid (offthalmolegydd) am driniaeth.

Mae opsiynau triniaeth yn cynnwys:

  • diferion llygaid i leddfu'r symptomau
  • sbectol haul i amddiffyn y llygaid yn erbyn effeithiau goleuadau llachar
  • corticosteroids i leihau llid

Beichiogrwydd a thyroid gorweithredol

Mae rhai menywod yn feichiog pan fyddant yn cael diagnosis o chwarren thyroid tanweithredol i ddechrau. Hefyd, mae bod yn feichiog yn gallu arwain at ail bwl o symptomau, yn enwedig i rywun sydd â hanes o glefyd Graves.

Mae menywod beichiog sydd â thyroid gorweithredol yn wynebu risg cynyddol o ddatblygu cymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth, fel camesgoriad ac eclampsia.

Maent hefyd yn wynebu mwy o risg o esgor yn gynnar a chael baban sydd â phwysau isel pan gaiff ei eni.

Bydd angen triniaeth arbenigol arno er mwyn gallu rheoli'r cyflwr gan ddefnyddio meddyginiaethau na ddylai effeithio ar y baban. Mae hyn yn debygol o fod yn feddyginiaeth o'r enw propylthiouracil.

Thyroid tanweithredol

Mewn llawer o achosion, mae triniaeth yn achosi i'r chwarren thyroid ryddhau lefelau o hormonau sy'n rhy isel. Caiff hyn ei adnabod fel cael chwarren thyroid tanweithredol neu orthyroidedd.

Sgîl effaith dros dro i driniaeth fydd hyn weithiau, ond gall fod yn barhaol yn aml.

Mae symptomau chwarren thyroid tanweithredol yn cynnwys:

Caiff chwarren thyroid gorweithredol ei thrin gan ddefnyddio meddyginiaethau i helpu atgynhyrchu effeithiau'r hormonau thyroid. Darllenwch fwy ynghylch trin chwarren thyroid tanweithredol.

Storm thyroid

Mae gorthyroidedd na wnaed diagnosis ohono, neu nad yw'n cael ei reoli'n dda, yn gallu achosi adwaith prin ond difrifol o'r enw storm thyroid. Mae'n effeithio ar ryw 1 o bob 100 o bobl sydd â chwarren thyroid gorweithredol.

Fflamychiad difrifol a sydyn o symptomau yw storm thyroid, sy'n cael ei achosi gan y metaboledd yn gorweithio, yn aml oherwydd sbardunau fel:

  • haint
  • beichiogrwydd
  • nid ydych yn cymryd eich meddyginiaeth yn unol â'r cyfarwyddyd
  • niwed i'r chwarren thyroid, fel ergyd i'r gwddf

Mae symptomau storm thyroid yn cynnwys:

  • curiad calon cyflym iawn (dros 140 curiad y funud)
  • twymyn (tymheredd yn uwch na 38.5 C/100F)
  • dadhydradiad, gyda dolur rhydd a chwydu
  • clefyd melyn - arlliw melyn ar eich croen a'ch llygaid
  • cynnwrf a dryswch difrifol
  • lledrithiau - gweld neu glywed pethau nad ydynt yn real
  • seicosis - nid ydych yn gallu dweud y gwahaniaeth rhwng realiti a'ch dychymyg
  • chwysu gormodol
  • poen yn y frest
  • gwendid yn y cyhyrau

Mae storm thyroid yn argyfwng meddygol. Os ydych yn credu bod rhywun yn eich gofal yn dioddef o'r cymhlethdod hwn, mae angen i chi ffonio 999 am ambiwlans.  



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 12/06/2023 14:58:13