Gwybodaeth beichiogrwydd


17 - 20 wythnos

Yn feichiog o 17 i 20 wythnos - eich babi a chi

Datblygiad eich babi

Erbyn yr adeg rydych wedi bod yn disgwyl am 17 wythnos, bydd eich babi yn tyfu'n gyflym ac yn pwyso tua 150g.

Mae'r corff yn tyfu'n fwy fel bydd y pen a'r corff yn gymesur a'i gilydd. Mae'r wyneb yn dechrau edrych yn llawer mwy dynol, ac mae'r aeliau a blew'r amrannau yn dechrau tyfu. Mae llygaid eich baban yn gallu symud yn awr, er bod yr amrannau'n dal ar gau, ac mae'r geg yn gallu agor a chau.

Nawr mae'r llinellau ar groen y bysedd yn ffurfio, felly mae gan y babi bysbrint unigol ei hunain yn barod. Mae ewinedd y bysedd a bysedd y traed yn tyfu ac mae gafael gref gan law'r babi.

Bydd y baban yn symud cryn dipyn, ac o bosib bydd yn ymateb i synnau uchel o'r byd tu allan, i swn cerddoriaeth er enghraifft. Ni fyddwch yn teimlo'r symudiadau hyn eto o bosib, yn enwedig os mai hwn yw eich beichiogrwydd cyntaf. Os byddwch chi yn eu teimlo nhw, bydd hi fel cryniad bach neu deimlad o gorddi ysgafn.

Bydd eich baban yn magu ychydig o bwysau ond ni fydd ganddo lawer o fraster ac o'r herwydd petaech chi'n medru gweld eich baban fe fyddai'n edrych bach yn grychiog, er bydd yn dal i fagu pwysau am weddill y beichiogrwyd a bydd yn llenwi ei groen erbyn wythnosau diwethaf cyn yr enedigaeth.

Erbyn wythnos 20 bydd croen eich baban â sylwedd gwyn seimllyd a elwir yn 'vernix', Meddylir bod hwn yn helpu amddiffyn y croen yn ystod yr wythnosau mae ef yn yr hylif amniotig. 

Eich corff hanner ffordd drwy beichiogrwydd

Erbyn wythnos 20, rydych hanner ffordd drwy eich beichiogrwydd. Mae'n debyg y byddwch yn teimlo eich babi yn symud am y tro cyntaf ar ôl bod yn disgwyl am 17 neu 18 wythnos. Mae'r rhan fwyaf o fenywod sy'n disgwyl am y tro cyntaf yn dechrau teimlo'r symudiadau cyntaf rhwng 18 a 20 wythnos.

Ar y dechrau byddwch yn teimlo dychlamu neu fyrlymu, neu symudiadau bach iawn, ychydig fel diffyg traul o bosibl. Yn ddiweddarach, nad ydych yn gallu camgymryd y symudiadau hyn a gallwch hyd yn oed gweld y babi'n cicio. Yn aml gallwch ddyfalu ai llaw ai troed sydd yn gwasgu.

Efallai y byddwch yn datblygu llinell dywyll i lawr canol eich bol a'ch brest. Lliwiad arferol o'r croen yw hyn wrth i'ch bol ymchwyddo i gymhwyso eich twmp sy'n tyfu. Mae colli gwallt arferol yn arafu felly efallai y bydd eich gwallt yn edrych yn fwy trwchus a disglair.

Gall problemau mân cyffredin gynnwys blinder a diffyg cwsg. Mae methu â chysgu yn gyffredin, ond mae llawer y gallwch ei wneud i'ch helpu i gysgu, gan gynnwys defnyddio clustogau i gynnal eich twmp sy'n tyfu.

Mae rhai merched hefyd yn cael cur pen. Mae cur pen yn ystod beichiogrwydd yn gyffredin, ond os ydynt yn rhai llym gallent fod yn arwydd o rywbeth mwy difrifol.

Pethau i'w hystyried

Cadw'n heini

Mae gwneud ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd yn dda i chi a'ch babi. Dewch o hyd i beth sy'n ddiogel a phryd y dylech gymryd gofal.

Bwyta'n iach

Bydd bwyta'n iach tra rydych chi'n disgwyl baban yn helpu'r baban i ddatblygu a thyfu, 'ch cadw'n iach a heini.

Sganiau uwchsain

Fe gewch eich cynnig sawl sgan uwchsain  yn ystod eich beichiogrwydd, gan gynnwys y sgan anghysonder rhwng 18 wythnos a 21 wythnos a chwe diwrnod.

Mae eisiau bod yn wyliadwrus am:

Gwaedu o'r wain

Gall gwaedu o'r wain fod yn arwydd o broblemau difrifol, felly gofynnwch am gymorth.

Cosi difrifol

Gallai cosi difrifol fod yn arwydd o anhwylder prin ar yr afu/iau sef golestasis obstetrig

Pan fydd feichiogrwydd yn mynd o'i le

Os collwch chi'r baban, mae'n bwysig iawn eich bod yn cael yr holl gefnogaeth sudd ei angen arnoch. Mae cymorth ar gael gan eich tim gofalaeth ac mae sefydliadau eraill sy'n gallu helpu. Dysgwch ragor am erthyliad naturiol, beichiogrwydd ectopig a marw-enedigaeth.

Beichiogrwydd wythnos i wythnos

21, 22, 23, 24 wythnos yn feichiog

25, 26, 27, 28 wythnos yn feichiog

29, 30, 31, 32 wythnos yn feichiog

33, 34, 35, 36 wythnos yn feichiog

37, 38, 39, 40 wythnos yn feichiog

Dros 40 wythnos o feichiogrwydd

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 31/07/2023 08:04:44
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk