Gwybodaeth beichiogrwydd


21 - 24 wythnos

Yn feichiog o 21 i 24 wythnos - eich babi a chi

Eich babi

Erbyn wythnos 21 fe fydd eich baban yn pwyso tua 350g. O'r adeg yma ymlaen fe fydd eich baban yn pwyso'n fwy na'r brych (oedd hyd yma, yn drymach na'ch baban). Bydd y brych yn dal i dyfu ar hyd yr amser, ond nid cyn gynted â'ch baban.

Tua'r adeg hon bydd y baban wedi'i orchuddio mewn blew meddal, mân iawn a elwir lanugo. Nid yw pwrpas hyn yn hysbys, ond credir y gallai fod i gadw'r baban ar y tymheredd cywir. Mae'r lanugo yn diflannu, fel arfer, cyn yr enedigaeth.

Bydd eich baban yn dechrau ymdopi patrwm o gysgu a deffro, na fydd o reidrwydd yr un a'ch un chi. Wrth ichi fynd i'r gwely yn y nos, wedi ymlacio a cheisio cysgu , mae'n bosib bydd eich baban yn llawn effro ac yn symud.

Erbyn wythnos 24 bydd gan y baban siawns o oroesi os yw ef neu hi yn cael ei eni. Ni all rhan fwyaf o fabanod a enir cyn yr adeg hon byw oherwydd nad yw eu hysgyfaint nac organau hanfodol eraill wedi'i datblygu'n ddigonol. Mae'r gofal sydd bellach ar gael yn unedau newydd-anedig yn golygu bod mwy o fabanod a enir yn gynnar yn goroesi. Ond bydd babanod sydd yn cael eu geni tua'r adeg hon â mwy o risg o anabledd. Dysgwch mwy am esgor a genedigaeth gynamserol.

Eich corff

Bydd eich croth yn dechrau tyfu yn gyflym a byddwch wir yn dechrau erbyn yn feichiog. Efallai y byddwch yn teimlo'n fwy llwglyd nag o'r blaen - ceisiwch gadw at ddiet synhwyrol, cytbwys, a gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod pa fwydydd i'w hosgoi.

Nid yw pawb yn cael marciau ymestyn (stretch marks), ond os byddwch yn eu datblygu mae'n debyg y byddant yn dechrau dod yn amlwg pan fyddwch tua 22 i 24 wythnos. Gallent ymddangos ar eich stumog, bronnau a chluniau. I ddechrau maent yn edrych yn goch ac yna'n diflannu i liw llwyd ariannaidd. Efallai y bydd eich bronnau yn dechrau gollwng ychydig o laeth, mae hyn yn normal.

Arwyddion perygl i edrych amdanynt

Mae gan fwydo ar y fron nifer o fanteision i chi a'ch baban. Dysgwch mwy am bwydo ar y fron.

Gall problemau mân cyffredin cynnwys poen yn y cefn, diffyg traul a chlwyf y marchogion. Dysgwch sut i ddiogelu eich cefn, leddfu neu atal diffyg traul a llosg cylla, ac ymdopi â chlwyf y marchogion.

Mae eisiau bod yn wyliadwrus am:

Gwaedu o'r wain

Gall gwaedu o'r wain fod yn arwydd o broblemau difrifol, felly gofynnwch am gymorth.

Cosi difrifol

Gallai cosi difrifol fod yn arwydd o anhwylder prin ar yr afu/iau sef golestasis obstetrig.

Pan fydd feichiogrwydd yn mynd o'i le

Mae'n bwysig iawn eich bod yn cael yr holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch. Mae cymorth ar gael gan eich tim gofalaeth ac mae sefydliadau eraill sy'n gallu helpu. Dysgwch mwy am erthyliad naturiol, beichiogrwydd ectopig a marw-enedigaeth.

Beichiogrwydd wythnos i wythnos

Darganfyddwch beth sy'n digwydd i chi a'ch baban yn ystod:

25, 26, 27, 28 wythnos yn feichiog

29, 30, 31, 32 wythnos yn feichiog

33, 34, 35, 36 wythnos yn feichiog

37, 38, 39, 40 wythnos yn feichiog

Dros 40 wythnos o feichiogrwydd

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 31/07/2023 08:05:12
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk