Gwybodaeth beichiogrwydd


13 - 16 wythnos

Yn feichiog o 13 i 16 wythnos - eich babi a chi

Eich babi

Wythnos 13

Bydd eich baban yn pwyso oddeutu 25g.

Bydd ofarïau neu geilliau eich baban wedi llawn ddatblygu y tu mewn i'r corff, a bydd yr organau cenhedlu'n ffurfio y tu allan i'r corff. Ble gynt bu ymchwydd rhwng y coesau fe fydd cala (pidyn) neu glitoris yn tyfu, er fel arfer ni fyddwch yn medru darganfod rhyw eich baban ar sgan uwchsain eto.

Wythnos 14

Erbyn wythnos 14 bydd y baban tua 85mm o hyd, o'i ben i'w ben ôl.

Tua'r adeg hon fe fydd y baban yn dechrau llyncu ychydig o'r hylif amniotig, a fydd yn mynd i'w stumog. Bydd yr arennau'n dechrau gweithio, a bydd yr hylif sydd yn cael ei lyncu'n pasio'n ôl i'r hylif amniotig fel troeth.

Wythnos 15

Tua'r adeg hon, bydd eich baban yn dechrau clywed - mae'n bosib y bydd e'n clywed synnau'r byd tu allan yn dawel, ac unrhyw synnau a wnaiff eich system treulio chi, ynghyd â swn eich llais a'ch calon.

Mae'r llygaid hefyd yn datblygu sensitifrwydd i oleuni. Er bod llygaid eich baban ar gau, mae'n bosib y byddan nhw'n sylwi ar olau llachar y tu allan i'ch bola.

Wythnos 16

Gall cyhyrau wyneb y baban symud yn awr ac mae egin ystumiau'n ymddangos ar ei wyneb. Nid oes rheolaeth gan y baban ar hyn eto.

Dal i ddatblygu bydd y system nerfol gan ganiatau i gyhyrau aelodau'ch baban symud. Tua'r adeg hon gall dwylo'ch baban cyrraedd at ei gilydd - gallan nhw ffurfio dwrn neu gydio yn ei gilydd wrth iddyn nhw gyffordd.

Eich corff

Os ydych wedi bod yn teimlo'n sâl ac yn flinedig gyda salwch bore, mae'n debyg y byddwch yn dechrau teimlo'n well erbyn wythnos 13 neu 14.

Mae rhai menywod yn profi cynnydd yn eu blys rhywiol yn ystod y cyfnod yma, o bosibl o ganlyniad i hormonau beichiogrwydd neu lif y gwaed yn cynyddu trwy'r pelfis. Nid yw pob merched yn teimlo fel hyn, ac mae hyn yn berffaith normal. Dysgwch mwy am gael rhyw yn ystod beichiogrwydd.

Byddwch yn sylwi ar dwmp bach yn datblygu fel mae eich croth yn tyfu ac yn symud i fyny. Os ydych wedi bod yn teimlo'r awydd i basio dŵr yn amlach yn ystod y misoedd diwethaf, mae'n oherwydd bod eich croth wedi bod yn pwyso ar eich pledren. Dylai hwn leddfu yn awr.

Ewch i weld eich meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw boen pan fyddwch yn pasio dwr. Gall heintiau troethol ddigwydd yn ystod beichiogrwydd ac mae'n bwysig iddynt gael eu trin yn gyflym er mwyn lleihau'r risg o gael haint ar yr arennau.

Pethau i'w hystyried

Cur pen

Mae dioddef curiau pen yn ystod beichiogrwydd yn gyffredin, ond os ydynt yn rhai llym gallent fod yn arwydd o rywbeth difrifol.

Dannedd a deintgig

Mae angen tyme bach o ofal ychwanegol ar eich dannedd a deintgig yn ystod beichiogrwydd, ac mae gofal deintyddol ar gael am ddim i ferched sy'n feichiog (hyd nes y bydd eich babi yn flwydd oed).

Darganfod pwy sy'n gofalu amdanoch

Mae'n bwysig dod i wybod pwy yw pwy yn y tim mamolaeth, a dysgu mwy am bob un o'u swyddogaethau yn ystod eich beichiogrwydd.

Talebau Cychwyn Iach

Ffeindiwch os ydych yn gymwys am laeth, ffrwythau a llysiau am ddim drwy gynllun Cychwyn Iach.

Beichiogrwydd wythnos i wythnos

Darganfyddwch beth sy'n digwydd i chi a'ch babi yn ystod:

17, 18, 19, 20 wythnos yn feichiog

21, 22, 23, 24 wythnos yn feichiog

25, 26, 27, 28 wythnos yn feichiog

29, 30, 31, 32 wythnos yn feichiog

33, 34, 35, 36 wythnos yn feichiog

37, 38, 39, 40 wythnos yn feichiog

Dros 40 wythnos yn feichiog

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 31/07/2023 08:04:03
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk