9 - 12 wythnos
Yn feichiog o 9 i 12 wythnos - eich babi a chi
Eich babi
Wythnos 9
Mae'r wyneb yn ffurfio'n araf. Mae'r llygaid yn fwy ac yn fwy amlwg, ac mae ganddynt liw. Mae'r geg a thafod yno a blasbwyntiau bychain. Mae'r ddwylo a'r traed yn datblygu, gyda rhychau'n dangos ble bydd y bysedd, er nad ydynt wedi gwahanu wrth ei gilydd eto. Mae prif organau mewnol y corff (megis y galon, yr ymenydd, yr ysgyfaint, yr arennau a'r coluddion) yn dal i ddatblygu.
Erbyn y nawfed wythnos o feichiogrwydd, mae'r baban tua 22mm o hyd o'i gorun i'w ben ôl.
Wythnos 10
Mae'r clustiau yn dechrau ymffurfio ar ochrau pen eich baban, a thu fewn i'r pen mae'r tyllau clust yn ffurfio.
Petai hi'n bosib i chi edrych ar wyneb eich baban fe fedrwch chi weld ei wefus uchaf a dwy ffroen fach yn y trwyn. Mae esgyrn yr ên yn ymffurfio ac eisoes mae'r danedd sugno'n bresenol.
Mae'r galon wedi ei lawn ffurfio. Mae hi'n curo 180 o weithiau'r funud - mae hynny dwywaith neu deirgwaith yn gyflymach na'ch calon chi eich hun.
Mae'r baban yn gwneud symudiadau bach a herciog y gellir eu gweld ar sgan uwchsain.
Wythnos 11
Bydd y ffoetws yn tyfu'n gyflym ac mae'r brych yn datblygu'n gyflym hefyd (bydd wedi datblygu'n llawn erbyn tua 12 wythnos).
Bydd esgyrn yr wyneb wedi ffurfio erbyn hyn. Mae'r amrannau ar gau, a ni fyddant yn agor am ychydig fisoedd eto.
Mae'r clustiau yn edrych yn fwy tebyg i glustiau wrth iddyn nhw dyfu. Bydd pen eich baban yn ffurfio tua thraean o'i hyd, ond mae'r corff yn tyfu'n chwim - yn ymsythu a bydd y bysedd yn dechrau gwahanu. Bydd ewinedd arnyn nhw.
Wythnos 12
Dim ond 12 wythnos ar ôl eich mislif diwethaf, mae'r ffoetws wedi'i ffurfio yn llawn. Mae ei organau i gyd, ei gyhyrau, aelodau ac esgyrn yn eu lle, ac mae'r organau rhyw wedi datblygu. O hyn ymlaen, bydd rhaid iddo dyfu ac aeddfedu.
Bydd hi'n rhy gynnar i chi deimlo symudiadau'r baban eto, er bydd yn symud cryn dipyn.
Mae ysgerbwd eich baban wedi ei ffurfio o gartilag, a thua'r adeg yma bydd hyn yn dechrau troi'n asgwrn caled.
Eich corff
Yn ystod y cyfnod yma bydd eich bronnau wedi dod yn fwy, felly ystyriwch wisgo bra sy'n eu cynnal yn iawn. Efallai y byddwch hefyd yn canfod bod eich emosiynau yn amrywio: rydych yn teimlo'n hapus un eiliad ac yn drist yr eiliad nesaf. Peidiwch â phoeni - mae'r teimladau hyn yn normal ac y dylent gilio gydag amser. Dysgwch mwy am deimladau, pryderon a pherthnasau yn ystod beichiogrwydd.
Os nad ydych chi wedi gweld eich bydwraig eto, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'ch tim mamolaeth ar gyfer eich apwyntiad cyntaf ac i ddechrau ar eich gofal cyn-geni. Dylai'r apwyntiad digwydd erbyn yr amser rydych 12 wythnos yn feichiog. Cynigir eich sgan uwchsain cyntaf i chi rwng 8 a 14 wythnos o feichiogrwydd: gall hyn amrywio gan ddibynnu ymhle rydych yn byw.
Pethau i'w hystyried
Gwiriadau a phrofion a ellid cael eu cynnig i chi
Bydd amrywiaeth o wiriadau a phrofion yn cael eu cynnig ichi yn ystod eich ymweliad cyntaf cyn-geni er mwyn monitro eich iechyd a sylwi ar unrhyw broblemau posibl.
Dewis ym mha le i roi genedigaeth
Penderfyniad mawr yw dewis ymhle i gael eich baban. Gall eich bydwraig a'r tim cynenedigol siarad â chi am yr holl opsiynau i'ch helpu i wneud dewis cymwys.
Diet iach am fenyw feichiog
Mae bwyta diet iach a chytbwys yn arbennig o bwysig i fenywod beichiog. Dysgwch am fwyta'n iach a pha fwydydd i'w hosgoi.
Cadwch yn weithgar, ddechreuwch ymarfer corff
Dysgwch am ymarfer corff a chadw'n heini.
Beichiogrwydd wythnos i wythnos
Darganfyddwch beth sy'n digwydd i chi a'ch babi yn ystod:
13, 14, 15, 16 wythnos yn feichiog
17, 18, 19, 20 wythnos yn feichiog
21, 22, 23, 24 wythnos yn feichiog
25, 26, 27, 28 wythnos yn feichiog
29, 30, 31, 32 wythnos yn feichiog
33, 34, 35, 36 wythnos yn feichiog
37, 38, 39, 40 wythnos yn feichiog
Dros 40 wythnos yn feichiog
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.
Last Updated: 31/07/2023 08:07:23
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk