Gwybodaeth beichiogrwydd


0 - 8 wythnos

Yn feichiog o 0 i 8 wythnos - eich babi a chi

Eich babi

Wythnosau 1 - 3

Caiff eich wythnosau o feichiogrwydd eu cyfrif o'r diwrnod cyntaf o'ch mislif olaf. Bydd hyn yn meddwl nad ydych chi'n feichiog am y pythefnos cyntaf neu fwy, bydd eich corff yn paratoi am fwrw wy fel arfer. Fe fyddwch chi'n bwrw wy (ofylu)  tua phythefnos ar ôl diwrnod cyntaf eich mislif (yn dibynnu ar hyd eich cylch misol)

Yn ystod y drydedd wythnos ar ôl diwrnod cyntaf o'ch mislif diwethaf, bydd eich wy, sydd wedi'i ffrwythloni, yn symud yn araf ar hyd y tiwb ffalopio tuag at y groth. Mae'r wy yn dechrau fel un gell sengl sydd yn rhannu tro ar ôl tro. Erbyn bydd yr wy wedi cyrraedd y groth, mae wedi tyfu'n dalp o fwy na 100 o gelloedd a elwir yn embryo. Unwaith bydd ef yn y groth, bydd yr embryo yn tyllu mewn i leinin y groth. Gelwir hyn yn 'mewnblannu'.

Wythnos 4

Yn ystod wythnosau 4-5 o feichiogrwydd cynnar, bydd yr embryo'n tyfu ac yn datblygu y tu mewn i leinin y groth.

Mae'r celloedd allanol yn ymestyn i gysylltu â chyflenwad gwaed y fam. Mae'r celloedd mewnol yn ffurfio yn ddwy ac yna yn ddiweddarach yn dair haen. Bydd pob un o'r haenau hyn yn datblygu'n rhannau gwahanol o gorff y babi.

Daw'r haenen fewnol, a elwir yn endoderm yn systemau anadlu a threulio, gan gynnwys yr ysgyfaint, y stumog, y coluddion a'r bledren. Bydd yr haenen ganol, a elwir yn fesoderm yn datblygu i fod y galon, y gwythiennau, y cyhyrau a'r esgyrn. Bydd yr haenen allanol, a elwir yn ectoderm, yn troi i fod yr ymenydd, y system nerfol, lensys y llygaid, haen allanol y danedd, croen ac ewinedd.

Yn ystod yr wythnosau cynnar hyn o feichiogi bydd yr embryo yn cysylltiedig â chwd melynwy sydd yn darparu maeth iddo. O fewn ychydig wythnosau fe fydd y brych wedi ei ffurfio'n llawn a bydd yn dechrau trosglwyddo maeth i'r embryo.

Amgylchynir yr embryo gan hylif y tu fewn i'r cwd amniotig. Yr haenen allanol o'r cwd hwn sydd yn datblygu i fod y brych. Mae celloedd o'r brych yn tyfu'n ddwfn i mewn i ochr y groth gan gyrchu cyflenwad da o waed. Bydd hyn yn sicrhau bod y baban yn derbyn yr holl ocsigen a maeth sydd ei angen arno/i.

Wythnos 5

Y bumed wythnos o feichiogrwydd yw'r amser pryd rydych yn colli eich mislif cyntaf, dim ond nawr bydd y rhan fwyaf o fenywod yn dechrau meddwl efallai eu bod yn feichiog. Eisoes mae system nerfol y baban yn datblygu, ac mae seiliau'r organau mwyaf mewn lle. Erbyn hyn mae'r embyo tua 2mm o hyd.

Wrth i'r ectoderm ddatblygu bydd rhigol yn ffurfio a bydd yr haenen uchaf o'r celloedd yn plygu i ffurfio tiwb gwag a elwir yn diwb nerfol. Bydd hyn yn ffurfio ymennydd a madruddyn cefn y baban. Bydd nam yng nghynffon y tiwb nerfol yn arwain at spina bifida, a nam ym mhen y tiwb yn arwain at anencephali (ble nad yw esgyrn y penglog yn ffurfio'n iawn).

Ar yr un pryd, mae'r galon yn ffurfio yn ystrwythr sydd yn debyg i diwb. Mae gan y baban rhai pibellau gwaed ei hun yn barod ac bydd gwaed yn dechrau cylchredeg. Mae llinyn o'r pibellau gwaed hyn yn cysylltu'r baban a'r fam ac fe ddaw hwn yn llinyn bogail.

Wythnos 6

Erbyn yr adeg y byddwch wedi bod yn feichiog am chwech neu saith wythnos bydd chwydd mawr ble mae'r galon, a thwmp ar ben y tiwb nerfol. Bydd y twmp yma'n datblygu i fod y pen a'r ymenydd. Bydd yr embryo ar ffurf bwa, a bydd ganddo gynffon - bydd yn edrych yn debyg i benbwl bach.

Weithiau gellir gweld y galon yn curo ar sgan uwchsain  trwy'r wain erbyn hyn.

Fe ddaw ddatblygiad y breichiau a choesau i'r amlwg fel chwyddiadau bychain (blagurynnau'r aelodau). Fe ddaw pantau bach ar ochrau'r pen yn glustiau, a mae mannau tewach lle bydd y llygaid. Erbyn hyn gorchuddir yr embryo â haen o groen tryloyw.

Wythnos 7

Erbyn y seithfed wythnos bydd yr embryo wedi tyfu i tua 10mm o hyd o'i gorun i'w ben ôl. Gelwir y mesur hwn yn "hyd corun-cloren". Mae'r ymenydd yn tyfu'n gyflym a chanlyniad hyn yw bod y pen yn tyfu'n gyflymach na gweddill y corff.

Bydd gan yr embryo talcen mawr, ac mae'r llygaid a chlustiau'n dal i ddatblygu. Mae'r glust fewnol yn dechrau datblygu ond ni ddaw'r clustiau allanol i'r amlwg ar ochr y pen am wythnos neu ddwy eto.

Bydd blagurynnau'r aelodau yn dechrau datblygu cartilag,  a ddaw maes o law esgyrn y coesau a'r breichiau. Bydd blagurynnau'r breichiau yn mynd yn hwy a bydd pennau rhain yn lledaenu i ddod yn ddwylo.

Bydd y celloedd nerfol yn parhau i luosi a datblygu wrth i'r system nerfol (ymenydd a madruddyn y cefn) ddechrau ymffurfio.

Wythnos 8

Erbyn wythnos 8 fe elwir y baban yn ffoetws, sydd yn golygu 'epil'.

Mae'r coesau yn tyfu'n hwy a ffurfio cartilag hefyd. Nid yw rhannau gwahanol y goes yn amlwg eto - fe ddatblygir y pengliniau, migyrnnau, cluniau a bysedd y traed tipyn yn hwyrach.

Mae'r ffoetws yn dal y tu mewn i'w gwd amniotig, a dal i ddatblygu mae'r brych, gan ffurfio strwythurau a adnabyddir fel 'chorionic villi' sydd yn helpu dal y llinyn bogail wrth leinin y groth. Ar hyn o bryd fydd y ffoetws yn dal i dderbyn maeth o'r cwd melynwy.

Eich corff

Bydd ffrwythloni fel arfer yn digwydd tua phythefnos ar ôl eich mislif diwethaf,  o gylch yr adeg y byddwch yn ofwleiddio (rhyddhau wy). Yn ystod y pedair wythnos gyntaf o feichiogrwydd mae'n debyg na fyddwch yn sylwi ar unrhyw symptomau. Y peth cyntaf mae'r rhan fwyaf o fenywod yn sylwi arni yw nad yw eu mislif yn cyrraedd fel arfer. Dysgwch mwy am arwyddion a symptomau beichiogrwydd.

Erbyn rydych wyth wythnos yn feichiog mae'n debyg y byddwch wedi colli eich ail fislif. Fodd bynnag, bydd rhai menywod yn profi ychydig o waedu yn ystod wythnosau cyntaf o fod yn feichiog. Rhowch wybod i'ch bydwraig neu feddyg bob amser bydd unrhyw waedu yn digwydd yn ystod beichiogrwydd, yn enwedig os bydd yn parhau a bod poen stumog arnoch.

Bydd eich croth wedi tyfu i faint lemwn erbyn yr amser byddwch wedi bod yn disgwyl am tua saith neu wyth wythnos. Mae'n debyg y byddwch yn teimlo'n flinedig. Efallai y bydd eich bronnau'n teimlo ychydig yn ddolurus ac yn fwy, ac mae'n debyg y byddwch chi eisiau pasio dwr yn amlach nag arfer.

Mae rhai menywod beichiog yn dechrau teimlo'n sâl neu'n flinedig neu yn cael problemau mân corfforol eraill am ychydig wythnosau tua'r adeg hon. Bydd salwch y bore wedi gorffen i'r rhan fwyaf o ferched a byddant yn dechrau teimlo'n well erbyn 14 wythnos.

Pethau i'w hystyried

Cadarnhau eich bod yn feichiog

Y ffordd fwyaf dibynadwy i gadarnhau os ydych yn feichiog yw cymryd prawf beichiogrwydd. Unwaith y byddwch yn meddwl y gallech fod yn feichiog, mae'n bwysig i chi gysylltu â bydwraig neu feddyg i'w gadarnhau a dechrau ar eich gofal cyn-geni.

Cymorth a chyngor i blant yn eu harddegau

Gall ddarganfod eich bod yn feichiog fod yn anodd, ond mae help ar gael.

Problemau cyffredin beichiogrwydd

O salwch bore i waedu o'r wain, darganfyddwch sut i ymdopi â'r symptomau mân a mawr a all digwydd yn ystod beichiogrwydd.

Eich teimladau a pherthynas

Mae beichiogrwydd yn gyfnod o newidiadau corfforol ac emosiynol a all effeithio ar eich perthynas a phobl, felly chwiliwch am gymaiint o wybodaeth a chyngor ag y gallwch i'ch helpu chi i ymdopi.

Gofal cyn-geni

Y ffordd orau i sicrhau eich bod chi a'ch babi yn para'n iach yw gwneud yn siwr eich bod yn cael yr holl ofal sydd ar gael i chi yn ystod beichiogrwydd. Mae hyn yn cynnwys sganiau ac archwiliadau, sgrinio, a gofal deintyddol am ddim.

Beichiogrwydd wythnos wrth wythnos

9, 10, 11, 12 wythnos yn feichiog

13, 14, 15, 16 wythnos yn feichiog

17, 18, 19, 20 wythnos yn feichiog

21, 22, 23, 24 wythnos yn feichiog

25, 26, 27, 28 wythnos yn feichiog

29, 30, 31, 32 wythnos yn feichiog

33, 34, 35, 36 wythnos yn feichiog

37, 38, 39, 40 wythnos yn feichiog

Dros 40 wythnos yn feichiog

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 31/07/2023 08:03:31
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk