Gwybodaeth beichiogrwydd


Bwydo ar y fron ac ysmygu

Drwy stopio cyn neu’n fuan iawn wedi clywed eich bod yn feichiog fe fydd y cyfnod beichiogrwydd yn haws... a bydd y babi hefyd yn llawer iachach.

Mae tua 10.5% o ferched yn dal i ysmygu pan fyddan nhw’n rhoi genedigaeth. Bydd rhoi'r gorau i ysmygu ar ôl i'ch babi gael ei eni yn helpu i'w ddiogelu rhag:

Peidiwch â rhoi'r gorau i fwydo ar y fron os ydych chi’n ysmygu

Fel mam newydd, mae peidio ag ysmygu yn un o’r pethau pwysicaf y gallwch chi eu gwneud i ddiogelu eich iechyd eich hun hefyd.

Ond os ydych chi’n ei chael hi'n anodd rhoi'r gorau i ysmygu, mae'n bwysig peidio â rhoi'r gorau i fwydo ar y fron. Bydd bwydo ar y fron yn dal i amddiffyn eich babi rhag heintiau ac yn darparu maetholion fydd eich babi ddim yn eu cael o laeth fformiwla.

Os nad ydych chi neu'ch partner yn gallu rhoi'r gorau i ysmygu, bydd gwneud eich cartref yn hollol ddi-fwg yn helpu i ddiogelu iechyd eich babi. Efallai y bydd angen i chi ofyn i ffrindiau a theulu beidio ag ysmygu ger eich babi hefyd.

Os ydych chi neu'ch partner yn ysmygu, mae'n bwysig peidio â rhannu gwely gyda'ch babi (cyd-gysgu). Bydd hyn yn cynyddu’r risg o SIDS, yn enwedig os ydych chi’n ysmygu, neu os ydych chi wedi yfed alcohol yn ddiweddar, neu os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth sy'n gwneud i chi gysgu'n fwy trwm.

Cymorth gyda rhoi'r gorau i ysmygu

Rydych chi hyd at bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau i ysmygu'n llwyddiannus gyda chymorth y GIG.

Gallwch gysylltu â Helpa Fi i Stopio ar 0800 250 6885 neu ewch i'r wefan am help i roi'r gorau i ysmygu.

Therapi disodli nicotin (Nicotine Replacement Therapy - NRT) a bwydo ar y fron

Mae nwyddau NRT trwyddedig yn ddiogel i'w defnyddio wrth fwydo ar y fron. Maen nhw’n cynyddu eich siawns o roi'r gorau i ysmygu, yn enwedig os ydych chi hefyd yn cael cymorth gan rywle arall fel Helpa Fi i Stopio.

Mae NRT ar gael am ddim ar bresgripsiwn tra byddwch chi’n feichiog ac am flwyddyn ar ôl i'ch babi gael ei eni. Mae sawl math ar gael gan gynnwys defnyddio patsh, gum, lozenges, chwistrell trwyn ac anadlydd (inhalator).

Dydy’r meddyginiaethau rhoi'r gorau i ysmygu Champix a Zyban ddim yn cael eu hargymell ar gyfer merched sy'n bwydo ar y fron.

E-sigaréts a bwydo ar y fron

Er bod defnyddio e-sigaréts yn llawer mwy diogel nag ysmygu, nid yw'n gwbl ddi-risg. Yn ogystal â nicotin, gall hylif ac anwedd e-sigaréts gynnwys sylweddau gwenwynig, er bod y rhain yn bennaf ar lefelau llawer is nag mewn mwg sigaréts.

Ar hyn o bryd dydy e-sigaréts ddim wedi cael eu trwyddedu fel meddyginiaeth. Mae mamau newydd yn cael eu cynghori i ddefnyddio nwyddau NRT trwyddedig i gael help i roi'r gorau i ysmygu ac aros yn ddi-fwg.

Ond, os byddwch chi’n dewis defnyddio e-sigarét i'ch helpu i aros yn ddi-fwg, mae'n dal yn well parhau i fwydo ar y fron gan y bydd y manteision yn fwy nag unrhyw niwed posibl.

Cysylltiadau

Llyfryn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i dderbyn mwy o wybodaeth am fwydo ar y fron.


Last Updated: 25/05/2023 10:39:04
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk