Gwybodaeth beichiogrwydd


Setlo plentyn sy'n crio

Mae pob babi yn crio, a rhai yn crio mwy nag eraill. Crio yw ffordd eich babi o ddweud wrthych chi ei fod angen cysur a gofal.

Weithiau mae’n hawdd deall beth mae babi eisiau ond weithiau dydy hi ddim yn bosibl gwybod.

Y rhesymau mwyaf cyffredin dros grio ydy:

  • eisiau bwyd
  • cewyn budr/gwlyb
  • wedi blino
  • eisiau cwtsh
  • gwynt
  • teimlo’n rhy boeth neu’n rhy oer
  • wedi diflasu
  • wedi cyffroi

Weithiau bydd eich babi’n crio llawer a bydd hi’n anodd iawn ei gysuro. Yn gynnar gyda’r nos fydd hyn yn digwydd fel arfer.

Mae hyn yn gallu bod yn anodd i chi. Dyma’r amser mwyaf blinedig i dad a mam ac mae’n anodd ymdopi weithiau.

Mae babis yn crio mwy nag erioed pan fyddan nhw’n 4-8 wythnos oed. Fesul tipyn byddan nhw’n crio llai.

Tawelu babi sy’n crio

Trïwch rai o’r syniadau yma i gysuro’ch babi. Efallai bydd rhai yn gweithio’n well na’r lleill:

  • Gadewch i’ch babi sugno ar eich bron os ydych chi’n bwydo ar y fron.
  • Mae sŵn tawel yn y cefndir yn gallu helpu i dynnu sylw eich babi.
  • Mae rhai babis hŷn yn hoffi defnyddio blanced gysur (‘comforter’).
  • Daliwch eich babi neu ei roi mewn sling. Cerddwch o gwmpas yn ysgafn, siglo a dawnsio, siarad a chanu.
  • Siglwch eich babi yn ôl ac ymlaen yn y pram, neu ewch allan am dro neu yn y car. Mae llawer o fabis yn hoffi cysgu mewn car. Hyd yn oed os bydd eich babi yn deffro pan fyddwch chi’n stopio’r car, o leiaf byddwch chi wedi cael seibiant.
  • Ffeindiwch rywbeth iddo wrando neu edrych arno, e.e. cerddoriaeth ar y radio, CD, ratl, neu degan sy’n symud uwchben y crud.
  • Mwythwch gefn eich babi yn gadarn ac yn rhythmig, gan ei ddal yn eich erbyn neu’n gorwedd ar ei fol ar eich glin.
  • Tynnwch ddillad eich babi a’i fwytho’n ysgafn ac yn gadarn. Peidiwch â defnyddio olew nac eli nes bod eich babi’n fis oed. Siaradwch yn dawel wrth wneud hyn, mewn ystafell gynnes. Mae gan rai canolfannau iechyd a chlinigau ddosbarth tylino babis (‘baby massage’). Holwch eich bydwraig neu ymwelydd iechyd am hyn.
  • Bath cynnes – mae hyn yn tawelu rhai babis yn syth, ond mae rhai yn crio mwy.
  • Weithiau mae gormod o siglo a chanu yn cadw babi yn effro. Mae rhoi eich babi i lawr ar ôl cael llaeth yn gallu ei helpu i setlo.
  • Gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd am ‘tips’.

Crio wrth fwydo

Mae rhai babis yn crio ac yn methu setlo ar amser bwydo. Os ydych chi’n bwydo ar y fron, trïwch newid sut mae eich babi’n gorwedd neu’n cydio ar y fron (‘attachment’) i’w helpu i setlo.

Ewch i grŵp bwydo ar y fron os oes un yn lleol.

Gallwch chi hefyd ofyn i’ch ymwelydd iechyd am help.

Weithiau mae crio wrth fwydo yn gallu bod yn symptom o gyfog (‘reflux’) – dod â llaeth yn ôl i fyny ar ôl bwydo sy’n rhywbeth normal mewn babis.

Gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd neu feddyg teulu am help.

Babi sy’n crio llawer iawn

Mae llawer o bethau sy’n gallu gwneud i fabi grio gormod.

Mae’n gallu bod yn flinedig iawn i chi os ydych chi wedi trïo popeth i gysuro’ch babi.

Colic

Mae crio llawer yn gallu dangos bod gan eich babi golic. Mae pawb yn gwybod am golic ond does neb yn gwybod pam mae’n digwydd.

Mae rhai meddygon yn meddwl mai poen bol ydy colic. Mae’r crio’n swnio’n ddiflas ac yn ddolurus. Mae’n stopio am eiliad, cyn dechrau eto, efallai oherwydd bod tonnau o boen stumog yn dod bob hyn a hyn.

Mae’r crio yn gallu para am oriau. Efallai na fedrwch chi wneud dim heblaw rhoi cysur i’ch babi ac aros i’r crio stopio.

Crio a salwch

Os ydy eich babi yn crio llawer a neb yn gallu ei gysuro na thynnu ei sylw, neu os ydy’r sŵn crio yn wahanol i’r arfer, efallai bod eich babi yn teimlo’n sâl.

Neu efallai bod eich babi’n sâl os yw’n crio a bod ganddo symptomau eraill, e.e. tymheredd uchel. Os felly, ffoniwch eich ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.

Ffoniwch 999 a gofyn am ambiwlans os ydy eich babi:

  • yn cael ffit (atafaeliad – ‘seizure’ – neu gonfylsiwn)
  • â chroen glas, efo smotiau neu ‘rash’, yn welw (llwyd) neu’r croen yn olau iawn
  • yn anadlu’n gyflym neu’n gwneud sŵn yn y gwddf wrth anadlu, neu’n gweithio’n galed i anadlu, efallai yn tynnu ei stumog  i mewn o dan ei asennau (‘ribs’)
  • yn chwydu yn dreisgar yn aml (chwydu oherwydd y pigiad)
  • â thymheredd uchel, ond y dwylo a’r traed yn oer
  • â brech (‘rash’) lliw porffor-goch smotiog ar unrhyw ran o’r corff – mae hyn yn gallu dangos fod llid yr ymennydd (‘meningitis’) ar eich babi

Trystiwch sut rydych chi’n teimlo. CHI sy’n gwybod pan fydd eich babi yn bihafio’n wahanol neu rywbeth pryderus yn digwydd.

Cael help gyda babi sy’n crio

Siaradwch â ffrind, ymwelydd iechyd neu feddyg teulu, neu ffonio Cry-sis ar 0800 448 0737, rhwng 9am a 10pm, 7 diwrnod yr wythnos.

Mae Cry-sis yn gallu dweud sut y gallwch chi siarad â rhieni eraill sydd wedi cael yr un problemau gyda’u babis.

Gallwch hefyd wybod mwy a chael help ar wefan Cry-sis.  

Os ydych chi am fynd i siarad â’ch ymwelydd iechyd neu’r meddyg teulu, cyn mynd ysgrifennwch pa mor aml a phryd mae eich babi’n crio.

E.e. ar ôl bwydo, neu yn y nos. Mae hyn yn gallu helpu eich ymwelydd iechyd neu feddyg teulu i weld a oes rheswm am y crio.

Mae hyn hefyd yn gallu eich helpu chi i nabod pryd fyddwch chi eisiau mwy o help efo’ch rwtîn arferol.

Efallai y byddwch chi weithiau wedi cael llond bol am eich bod wedi blino’n ofnadwy ac yn teimlo’n ddig iawn. Mae hyn yn digwydd i lawer o rieni, felly peidiwch â theimlo embaras – gofynnwch am help.

Efallai does neb ar gael i helpu am ychydig o amser ac mae’r crio’n gwneud i chi deimlo dan straen mawr. Rhowch eich babi yn ei got neu bram, gwnewch yn siŵr ei fod yn saff, caewch y drws, ewch i ystafell arall a cheisio ymlacio (‘relax’).

Penderfynwch am faint o amser – e.e. 10 munud – wedyn ewch yn ôl at eich babi.

Peidiwch byth ag ysgwyd eich babi

Does dim ots pa mor flin/crac rydych chi’n teimlo, peidiwch byth ag ysgwyd eich babi. Mae ysgwyd yn symud y pen yn gas. Gall hyn wneud drwg mawr iawn i’r ymennydd (‘brain damage’).


Last Updated: 27/06/2023 11:03:24
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk