Gwybodaeth beichiogrwydd


Damweiniau:beth i wneud

Bydd y rhan fwyaf o blant ifanc yn cael rhai anafiadau a damweiniau. Bydd y rhan fwyaf yn fan anafiadau a damweiniau, ond mae'n synhwyrol gwybod beth i'w wneud os yw'r ddamwain neu'r anaf yn fwy difrifol.

Dechreuwch drwy ddysgu rhywfaint o gymorth cyntaf sylfaenol, neu adolygu'r hyn rydych chi eisoes yn ei wybod. Mae Ambiwlans Sant Ioan a’r Groes Goch Brydeinig yn cynnal cyrsiau cymorth cyntaf.

Os bydd damwain yn digwydd i'ch plentyn

Gall fod yn anodd gwybod pryd i alw ambiwlans a phryd i fynd â'ch plentyn i adran damweiniau ac achosion brys.

Defnyddiwch y canlynol fel canllaw:

Ffoniwch ambiwlans os yw eich plentyn:

  • yn atal anadlu
  • yn cael trafferth anadlu (er enghraifft, efallai y byddwch chi’n sylwi arno yn anadlu'n gyflym, yn fyr ei wynt, yn mynd yn wichlyd iawn neu rydych yn gweld y cyhyrau ychydig o dan gawell ei asennau yn sugno i mewn pan mae’n anadlu i mewn)
  • yn anymwybodol neu'n ymddangos yn anymwybodol o bethau o’i gwmpas
  • â thoriad na fydd yn atal gwaedu neu â chlwyf agored
  • ddim yn deffro
  • yn cael ffit am y tro cyntaf, hyd yn oed os yw’n ymddangos ei fod yn gwella

Ewch â'ch plentyn i adran damweiniau ac achosion brys os oes:

  • twymyn (fever) arno ac mae’n dal i fod yn araf, er ei fod wedi cael paracetamol neu ibuprofen
  • poen difrifol yn ei abdomen (bol)
  • anaf i’w goes neu’i fraich ac nid yw’n gallu ei defnyddio
  • wedi llyncu gwenwyn neu dabledi

Os ydych yn poeni am eich plentyn ac nad ydych yn siŵr a oes angen cymorth meddygol arnyn nhw, ffoniwch GIG 111 Cymru.

Os nad ydych yn siŵr a ddylech symud eich plentyn, gwnewch yn siŵr ei fod yn gynnes, yna ffoniwch ambiwlans.

Os oes gwrthrychau yn nhrwyn neu glustiau plentyn

Os oes gan eich plentyn rywbeth yn sownd yn ei drwyn neu ei glust, gadewch ef yno. Gallwch chi ei wthio ymhellach i mewn os ydych yn ceisio ei dynnu.

Ewch â'ch plentyn i'r adran damweiniau ac achosion brys neu uned mân anafiadau.

Os yw ei drwyn wedi'i flocio, dangoswch i'ch plentyn sut i anadlu drwy ei geg.

Os oes gan eich plentyn batri botwm yn sownd yn ei drwyn neu ei glust, dylid cael ei weld ar frys.

Os oes gan blentyn doriad

Os oes llawer o waedu, pwyswch yn gadarn ar y clwyf gyda brethyn glân, fel tywel te neu glwtyn. Os nad oes un gennych, defnyddiwch eich bysedd.

Os oes gwrthrych yn sownd yn y clwyf, fel darn o wydr, pwyswch o amgylch ymylon y gwrthrych, yn hytrach nag yn uniongyrchol arno.

Pwyswch nes i'r gwaedu stopio. Gall hyn gymryd 10 munud neu fwy. Peidiwch â chlymu unrhyw beth o amgylch yr anaf mor dynn fel ei fod yn atal y cylchrediad.

Os yw'n bosibl, codwch y rhan o’r corff sydd wedi’i anafu. Bydd hyn yn helpu i atal y gwaedu. Peidiwch â'i wneud os ydych chi'n meddwl y gallai asgwrn fod wedi’i dorri. Os gallwch ddod o hyd i ddresin glân, gorchuddiwch y clwyf. Os yw gwaed yn socian drwy'r pad neu'r dresin, gadewch ef yno a rhowch bad neu ddresin arall dros y top.

Mae'n anarferol iawn i glwyf waedu cymaint fel bod gwaed difrifol yn cael ei golli. Nid oes angen ambiwlans fel arfer, ond os yw'r toriad yn dal i waedu neu os oes bwlch rhwng ymylon y clwyf, ewch i adran damweiniau ac achosion bryd neu uned mân anafiadau.

Os ydych chi'n meddwl y gallai fod rhywbeth yn y toriad, fel darn o wydr, ewch i adran damweiniau ac achosion brys.

Os nad yw brechiadau eich plentyn yn gyfredol, gofynnwch i'ch meddyg teulu neu'r ysbyty a ddylai gael pigiad tetanws.

Os yw plentyn wedi llosgi neu wedi’i sgaldio

Rhowch y llosg neu'r sgaldiad o dan ddŵr oer i leihau'r gwres yn y croen. Peidiwch â gwneud hyn am fwy na 10 munud, gan y gall babis a phlant bach fynd yn rhy oer. Os nad oes dŵr rhedeg, rhowch y llosgi neu'r sgaldiad mewn dŵr oer neu unrhyw hylif oer arall, fel llaeth neu ddiod oer arall.

Defnyddiwch rywbeth glân a di-hylif, fel cas gobennydd (pillow) cotwm, tywel lliain te neu clingfilm, i orchuddio'r llosg neu'r sgaldiad. Bydd hyn yn lleihau'r risg o haint. Os yw dillad eich plentyn yn sownd wrth y croen, peidiwch â cheisio eu tynnu oddi arno.

Peidiwch â rhoi menyn, past dannedd, olew neu eli ar losg neu sgaldiad gan y bydd yn rhaid ei lanhau cyn y gellir trin y llosg neu'r sgaldiad. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y llosg neu'r sgaldiad, ewch i'ch meddyg teulu neu ewch i uned mân anafiadau neu adran damweiniau ac achosion brys.

Bydd pothelli (blisters) yn byrstio'n naturiol. Mae angen bandage amddiffynnol ar y croen o dan y pothell. Gofynnwch i'ch fferyllydd neu nyrs practis am gyngor.

Os yw plentyn wedi llyncu sylwedd gwenwynig

Os ydych chi'n meddwl bod eich plentyn wedi llyncu pils neu feddyginiaeth:

  • Oni bai eich bod yn hollol siŵr beth ydyn nhw, treuliwch funud neu ddwy yn chwilio am y pils coll.
  • Os ydych chi'n dal i feddwl bod eich plentyn wedi llyncu rhywbeth, ewch ag ef ar unwaith i'ch meddyg teulu neu uned damweiniau ac achosion brys, pa un bynnag sydd gyflymaf.
  • Cymerwch y set lawn o dabledi gyda chi, fel y gall y meddygon wirio'r labeli a chyfrif faint y gallai eich plentyn fod wedi'i gymryd.
  • Cadwch lygad barcud ar eich plentyn a byddwch yn barod i ddilyn y dilyniant adfywio.
  • Os yw'n bosibl, ysgrifennwch enw beth bynnag rydych chi'n meddwl bod eich plentyn wedi'i lyncu fel y gallwch chi ddweud wrth y meddyg.
  • Peidiwch â rhoi halen a dŵr i'ch plentyn, na gwneud unrhyw beth arall i'w gwneud yn sâl.
  • Ceisiwch beidio â chynhyrfu a pheidiwch â'i ddenu i gerdded o gwmpas i’w gadw'n effro.

Os ydych chi'n meddwl bod eich plentyn wedi llyncu cemegau ar gyfer y cartref neu’r ardd:

  • Tawelwch eich plentyn gymaint ag y gallwch (bydd hyn yn haws os byddwch chi’n cadw'n ddigynnwrf eich hun). Ewch â’ch plentyn i adran damweiniau ac achosion brys ar unwaith.
  • Os yw’n bosibl, ysgrifennwch enw’r hyn rydych yn meddwl bod eich plentyn wedi’i lyncu fel y gallwch chi ddweud wrth y meddyg.
  • Os yw eich plentyn mewn poen neu os oes unrhyw staenio, dolur neu bothelli o amgylch ei geg, mae'n debyg ei fod wedi llyncu rhywbeth cyrydol (corrosive). Rhowch laeth neu ddŵr iddo ei sipian er mwyn lleddfu'r llosgi ac ewch a'r plentyn i’r ysbyty ar unwaith.

Os yw plentyn yn llyncu batri botwm bychan

Mae batris botwm yn fatris bach crwn, arian a geir mewn llawer o deganau a dyfeisiau trydanol.

Os yw eich plentyn yn llyncu batri botwm neu os ydych yn credu y gallai fod wedi llyncu un, ewch â’r plentyn i adran damweiniau ac achosion brys ar unwaith.

Yn ogystal â bod yn berygl tagu, gall batris botwm achosi llosgiadau mewnol, gwaedu mewnol, ac mewn rhai achosion, hyd yn oed farwolaethau.

Gallan nhw hefyd achosi llosgiadau os maen nhw’n mynd yn sownd yn nhrwyn neu glust plentyn.

Mae gan wefan yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant fwy o gyngor am fatris botwm.

Sut i helpu babi sy'n tagu

Os yw plentyn yn teimlo'n sâl neu'n wan ar ôl damwain

Os yw eich plentyn yn edrych yn sal neu mae’n teimlo'n sâl ar ôl damwain, rhowch y plentyn i orwedd i lawr. Cadwch y plentyn yn gynnes gyda gorchudd, ond nid yn rhy boeth.

Os yw eich plentyn yn teimlo fel llewygu (faint), gofynnwch iddo gadw ei ben i lawr neu, yn ddelfrydol, gwnewch yn siŵr ei fod yn gorwedd i lawr. Dylai'r llewyg wella mewn munud neu ddwy.

Os yw plentyn wedi cael ffit neu gonfylsiwn

Os yw eich plentyn yn cael ffit, efallai y byddai’n troi'n las yn sydyn ac yn mynd yn llipa, gyda llygaid sy'n syllu. Weithiau bydd ei lygaid yn rholio a bydd ei goesau a’i freichiau'n gwingo (twitch) a phlycio, neu efallai y bydd yn mynd yn llipa yn sydyn. Bydd yr awgrymiadau canlynol yn eich helpu i ddelio â'r ffit:

  • Cadwch yn dawel.
  • Peidiwch â cheisio ei ddal i lawr.
  • Gwnewch le diogel o'i gwmpas.
  • Rhowch eich plentyn i orwedd ar ei ochr i wneud yn siŵr nad yw'n tagu.
  • Peidiwch â rhoi unrhyw beth yn ei geg. Os ydych chi'n meddwl ei fod yn tagu ar fwyd neu wrthrych, edrychwch yn ei geg a cheisiwch dynnu’r bwyd neu’r gwrthrych.
  • Tynnwch ddillad eich plentyn ac unrhyw orchuddion (a gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei gadw’n oer, ond nid yn rhy oer).
  • Bydd y rhan fwyaf o ffitiau'n gorffen o fewn tri munud. Pan fydd y ffit wedi gorffen, tawelwch feddwl eich plentyn, ei wneud yn gyfforddus a ffoniwch y meddyg.
  • Os nad yw'r ffit wedi gorffen o fewn pum munud, ffoniwch 999. Os yw'n stopio ond mai dyma oedd ffit gyntaf eich plentyn, ewch ag ef i'r adran damweiniau ac achosion brys agosaf i gael ei archwilio.
  • Peidiwch â chynhyrfu. Mae angen i'r ffitiau bara yn hirach na 30 munud er mwyn cael unrhyw risg o niwed i'r ymennydd.
  • Hyd yn oed os nad dyma'r tro cyntaf a bod eich plentyn yn gwella'n gyflym, rhowch wybod i'ch meddyg teulu bod eich plentyn wedi cael ffit.

Er y gall ffitiau edrych yn frawychus, maen nhw’n gyffredin mewn plant dan dair oed. Er bod rhesymau eraill pam mae plentyn yn cael ffit, tymheredd uchel yw'r sbardun mwyaf cyffredin. Dysgwch fwy am Drin tymheredd uchel mewn plant.

Mae ffit sy’n cael ei achosi gan dwymyn, sydd hefyd yn cael ei alw’n gonfylsiwn twymyn (febrile convulsion), yn llawer llai cyffredin ar ôl i blentyn cyrraedd tair oed. Dydy hyn ddim yn digwydd bron o gwbl mewn plant dros bump oed. Nid yw confylsiynau twymyn fel arfer yn gysylltiedig ag epilepsi. Darllenwch fwy am: confylsiwn twymyn

 

Os yw plentyn wedi cael sioc drydanol (electrocution)

Diffoddwch y pŵer cyn mynd at eich plentyn.

Os nad yw hyn yn bosibl, gwthiwch y plentyn i ffwrdd o ffynhonnell y trydan gyda gwrthrych pren neu blastig, fel handlen brwsh.

Ceisiwch dapio ei draed neu gyffwrdd â’i wddf a gweiddi 'helo' neu 'deffra'.

Os na chewch ymateb gan eich plentyn, rhaid i chi ddilyn y camau adfywio.

Os yw plentyn wedi torri asgwrn

Os ydych chi'n meddwl y gallai gwddf neu asgwrn cefn eich plentyn gael ei anafu, ffoniwch ambiwlans. Peidiwch â'i symud. Gallai symud yn ddiangen achosi parlys.

Os oes gan eich plentyn boen a chwydd yn ei goes neu’i fraich, ac mae'n ymddangos bod y goes neu’r fraich yn gorwedd ar ongl ryfedd, mae’n bosibl ei fod wedi torri asgwrn.

Os na allwch chi symud eich plentyn yn hawdd heb achosi poen, ffoniwch ambiwlans.

Os oes rhaid i chi symud eich plentyn, byddwch yn ofalus iawn. Rhowch un llaw uwchben yr anaf a'r llall o dan yr anaf er mwyn ei sefydlogi a'i gefnogi (defnyddiwch flancedi neu ddillad os oes angen). Cysurwch eich plentyn ac ewch ag ef i'r ysbyty.

Os ydych chi'n meddwl bod eich plentyn mewn poen, rhowch boen laddwr iddo fe, hyd yn oed os ydych chi'n mynd i adran damweiniau ac achosion brys. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y label y poen laddwr.


Last Updated: 17/05/2023 10:07:25
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk