Problemau coes a traed
Pan fydd plant yn dechrau cerdded am y tro cyntaf, mae’n gwbl normal iddyn nhw gerdded â’u traed ar wahân a’u breichiau am allan i’w helpu nhw i gadw balans.
Mae hefyd yn gyffredin i goesau plant ifanc fod ar siâp bwa neu’n gam ac weithiau bydd bysedd y traed wedi’u troi i mewn neu allan wrth gerdded.
Mae’r rhan fwyaf o broblemau bach traed plant yn cywiro eu hunain ond siaradwch â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd os ydych chi’n poeni am unrhyw un o’r pethau canlynol.
- Coesau bwa – cyn 18 mis oed, mae bwlch bach rhwng pengliniau neu figyrnau plant pan fyddan nhw’n sefyll yn beth cyffredin iawn. Os ydy’r bwlch yn amlwg iawn neu os nad ydy o’n cywiro ei hun, tsieciwch efo’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd. Mae’n gallu bod yn arwydd o’r llech (‘rickets’), er bod hyn yn anghyffredin iawn.
- Coesau cam – pan fydd plentyn yn sefyll, ei bengliniau’n cyffwrdd ei gilydd a bwlch rhwng ei figyrnau. Mae coesau cam yn cywiro eu hunain erbyn i’r plentyn gyrraedd ei 7 oed.
- Bysedd traed wedi’u troi i mewn – fel arfer yn cywiro ei hun erbyn i’r plentyn gyrraedd ei 8 oed. Does dim angen triniaeth fel arfer.
- Bysedd traed wedi’u troi am allan – unwaith eto, fel arfer yn cywiro ei hun. Does dim angen triniaeth fel arfer.
- Traed fflat – os oes gan eich plentyn draed fflat, peidiwch â phoeni. Os bydd gan draed eich plentyn fwa wrth iddo sefyll ar flaenau’i draed, fydd dim angen triniaeth fel arfer. Mae traed fflat yn cywiro eu hunain erbyn i’r plentyn gyrraedd ei 6 oed fel arfer.
- Cerdded ar flaenau’r traed – mae’n beth cyffredin i blant 3 oed ac iau gerdded ar flaenau eu traed. Os ydych chi’n poeni am unrhyw beth, siaradwch â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd.
Dewis esgidiau cyntaf
Hyd at 5 oed, mae traed plant yn tyfu’n gyflym iawn ac mae’n bwysig bod yr esgyrn yn tyfu’n syth.
Pan fydd babi’n cael ei eni, bydd esgyrn bysedd y traed yn feddal. Os bydd esgidiau neu sanau tynn yn gwasgu’r traed, fyddan nhw ddim yn sythu a thyfu’n iawn.
Fydd eich plentyn ddim angen esgidiau iawn nes y bydd o’n cerdded ar ei ben ei hun. Hyd yn oed wedyn, gallwch chi gadw esgidiau i ddim ond cerdded y tu allan, o leiaf ar y dechrau. Mae’n bwysig gwisgo esgidiau a sanau o’r maint cywir.
Mae esgidiau gyda chareiau, bwcl neu felcro yn dda am eu bod nhw’n dal y sawdl yn ei lle ac yn stopio’r droed rhag llithro ymlaen a gwneud drwg i fysedd y traed. Os bydd sawdl esgid yn dod i ffwrdd pan fydd eich plentyn yn sefyll ar flaenau’i draed, mae’r esgid yn rhy fawr.
Os yn bosibl, prynwch esgidiau o ddeunyddiau naturiol fel lledr, cotwm neu gynfas, fel bod yr aer yn symud. Mae esgidiau plastig yn gwneud traed yn chwyslyd, yn gallu rhwbio ac achosi heintiau ffwngaidd. Sanau cotwm sydd orau.
Gofal traed ac ewinedd
Ar ôl golchi traed eich plentyn, sychwch rhwng y bysedd yn dda. Wrth dorri ewinedd y traed, torrwch yn syth ar draws rhag i’r ewinedd dyfu i mewn i’r croen (‘ingrowing toenail’).
Last Updated: 12/07/2023 10:37:53
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by

NHS website
nhs.uk