Edrych ar ôl dannedd eich plentyn
Dechreuwch frwsio dannedd eich babi cyn gynted ag y byddan nhw’n dechrau torri trwy’r gyms. Defnyddiwch frwsh dannedd babi gydag ychydig bach o bast dannedd fflworid.
Peidiwch â phoeni os na fyddwch chi’n llwyddo i frwsio llawer ar y dechrau. Y peth pwysig ydy helpu eich babi i arfer brwsio ei ddannedd bob dydd. Gallwch helpu drwy ddangos esiampl dda a gadael iddyn nhw eich gweld chi yn brwsio eich dannedd eich hun.
‘Tips’ brwsio dannedd babis
- Defnyddiwch ychydig bach, bach o bast dannedd ar gyfer babis a phlant bach hyd at 3 oed, a maint pysen i blant 3 i 6 oed.
- Fesul dipyn, dechreuwch frwsio dannedd eich plentyn yn well, gan fynd dros y dannedd i gyd. Gwnewch hyn o leiaf ddwywaith y dydd: cyn mynd i’r gwely ac unrhyw bryd arall sy’n siwtio eich rwtîn.
- Dydy pob plentyn ddim yn hoffi brwsio dannedd, felly efallai y bydd yn rhaid i chi ddal ati. Gwnewch hi’n gêm, neu brwsiwch eich dannedd eich hun ar yr un pryd ac wedyn helpu eich plentyn i orffen eu dannedd nhw.
- Y ffordd hawsaf o frwsio dannedd babi ydy ei roi i eistedd ar eich glin gyda’i ben yn pwyso ar eich brest. Sefwch y tu ôl i blentyn hŷn a phlygu ei ben ychydig am yn ôl.
- Brwsiwch y dannedd mewn cylchoedd bach, gan fynd dros y dannedd i gyd a chael eich plentyn i boeri’r past dannedd allan wedyn. Does dim angen rinsio â dŵr neu bydd y fflworid yn golchi i ffwrdd.
- Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn ddim yn rhoi gormod o bast dannedd ar y brwsh, na bwyta na llyfu past dannedd o’r tiwb.
- Daliwch i helpu eich plentyn i frwsio ei ddannedd nes byddwch yn siŵr ei fod o’n gallu gwneud hynny’n ddigon da ei hun – nes ei fod yn 7 oed o leiaf, fel arfer.
Mynd â’ch plentyn at y deintydd
Mae plentyn yn cael mynd at y deintydd am ddim ar y GIG. Ewch â’ch plentyn gyda chi pan fyddwch chi’n mynd am apwyntiadau deintydd er mwyn iddo arfer â’r syniad.
Defnyddiwch y chwiliad gwasanaeth, i ddod o hyd i ddeintydd neu holwch yn eich clinig lleol, neu cysylltwch â GIG 111 Cymru.
Siwgr a dannedd drwg
Mae siwgr yn pydru (‘decay’) dannedd. Mae faint o siwgr sydd mewn bwyd a diod felys yn bwysig - ond mae pa mor hir a pha mor aml mae siwgr y cyffwrdd dannedd yn bwysig hefyd.
Mae lolipops a diodydd melys mewn potel fformiwla yn ddrwg iawn achos maen nhw’n socian y dannedd mewn siwgr am amser hir. Mae asid mewn sudd ffrwythau a sgwash yn gallu bod yn ddrwg i ddannedd hefyd.
Mae siwgr naturiol mewn ffrwythau a llaeth yn llai tebygol o bydru dannedd.
Mae swcros, glwcos, decstros, maltos, ffrwctos a startsh wedi'i hydroleiddio i gyd yn siwgrau. Mae siwgr gwrthdro neu surop, mêl, siwgr amrwd, siwgr brown, siwgr cansen, siwgr muscovado a suddion ffrwythau crynodedig hefyd yn siwgrau.
Deiet gyda llai o siwgr i’ch plentyn
‘Tips’ ar sut i wneud yn siŵr bod deiet eich plentyn heb lawer o siwgr nac yn pydru dannedd:
- Dim diodydd gyda siwgr ynddyn nhw – y diodydd gorau i blant bach ydy llaeth a dŵr.
- Mae’n iawn defnyddio potel gyda llaeth y fron, llaeth fformiwla, neu ddŵr wedi’i ferwi a’i oeri. Mae rhoi sudd neu ddiod llawn siwgr yn gallu gwneud i ddannedd bydru.
- Pan fydd eich babi yn 6 mis oed, gallwch ddechrau rhoi diod mewn cwpan heb falf.
- Pan fydd eich babi yn dechrau bwyta bwyd solet, trïwch ei ddysgu i fwyta bwyd sawrus (‘savoury’) a diodydd heb siwgr. Darllenwch labeli bwyd babi i weld a oes siwgr mewn bwydydd parod (rhai sawrus hefyd), rysgs a diodydd babis.
- Os ydych chi’n dewis rhoi bwyd melys neu sudd ffrwythau i’ch plentyn, rhowch nhw dim ond ar amser bwyd. Rhowch 1 rhan o sudd i 10 rhan o ddŵr. Ddylai eich plentyn ddim yfed mwy nag 1 diod sudd ffrwythau (150ml) y dydd fel rhan o’i 5 y dydd.
- Peidiwch â rhoi bisgedi na melysion i’ch plentyn. Gofynnwch i’ch teulu a ffrindiau wneud yr un peth. Cynigiwch bethau fel sticeri, sleidiau gwallt, creonau, llyfrau lliwio neu sebon chwythu swigod yn lle hynny. Efallai eu bod nhw’n costio mwy na melysion ond maen nhw’n para’n hirach.
- Amser gwely neu yn y nos, rhowch ddim ond llaeth y fron, llaeth fformiwla neu ddŵr berw wedi’i oeri i’ch plentyn.
- Os bydd eich plentyn angen moddion, gofynnwch i’ch fferyllydd neu feddyg teulu am foddion heb siwgr.
- Gwnewch yn siŵr fod deiet eich teulu cyfan yn ddeiet di-siwgr.
Mae swcros, glwcos, decstros, maltos, ffrwctos a startsh wedi’i hydroleiddio i gyd yn siwgr. Mae siwgr gwrthdroëdig (‘invert’) neu surop, mêl, siwgr amrwd, siwgr brown, siwgr cansen, siwgr muscovado a sudd ffrwythau wedi ei dewychu (‘concentrated’) hefyd yn siwgr.
Rhoi dymi neu beidio i fy mabi?
Mae’n iawn rhoi dymi i’ch babi ond trïwch beidio defnyddio un ar ôl i’ch babi gyrraedd ei 12 mis oed. Mae defnyddio dymis ar ôl hyn yn gallu achosi ‘brathiad agored’ – y dannedd yn symud i wneud lle i’r dymi. Maen nhw hefyd yn gallu effeithio ar sut mae eich plentyn yn siarad.
Trïwch ddysgu eich plentyn i beidio â siarad na gwneud sŵn gyda dymi neu ei fawd yn ei geg, a pheidiwch â rhoi dymis mewn unrhyw beth melys fel siwgr neu jam.
Last Updated: 12/07/2023 11:11:12
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk