Gwybodaeth beichiogrwydd


Trin tymheredd isel

Yn arferol, mae tymheredd plentyn tua 36.4° C ond gall hyn amrywio ychydig.  Fel rheol, ystyrir bod tymheredd uchel neu dwymyn (fever) yn dymheredd o 38° C neu’n uwch.

Efallai y bydd gan eich babi dymheredd uchel os yw:

  • yn teimlo'n boethach nag arfer wrth ei gyffwrdd – ar ei dalcen, cefn neu stumog
  • yn chwysu ac yn teimlo’n chwyslyd
  • â bochau cochion

Os ydych chi'n meddwl bod gan eich babi dymheredd uchel, mae'n well cymryd tymheredd y plentyn gyda thermomedr.  Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu a oes angen cyngor meddygol arnoch chi.

Sut ydw i’n cymryd tymheredd fy mhlentyn?

Yn ddelfrydol, mae angen thermomedr digidol arnoch chi i gael darlleniad cyflym a chywir.

Gallwch chi brynu'r rhain ar-lein neu o fferyllfeydd a'r rhan fwyaf o’r siopau mawr.

I gymryd tymheredd eich plentyn:

  1. Daliwch y plentyn yn gyfforddus ar eich pen-glin. Rhowch y thermomedr dan ei gesail – gwnewch hyn bob amser gyda phlant dan bump oed
  2. Daliwch y plentyn yn ofalus ond yn gadarn, daliwch ei fraich yn erbyn ei gorff i gadw'r thermomedr yn ei le am y cyfnod sy’n cael ei roi yn y cyfarwyddiadau. Mae hyn tua 15 eiliad fel arfer. Mae rhai thermomedrau digidol yn gwneud sŵn pan fyddan nhw’n barod tra bod rhai eraill yn gwneud ‘beep’.
  3. Bydd y darlleniad o’r tymheredd yn cael ei ddangos ar y thermomedr

Sut alla i wneud yn siŵr bod y darlleniad yn gywir?

Os ydych chi’n defnyddio thermomedr digidol yng nghesail eich plentyn ac yn dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr yn ofalus, dylech chi gael darlleniad cywir.

Mae yna un neu ddau o bethau sy’n gallu newid y darlleniad ychydig, er enghraifft, os yw eich plentyn:

  • wedi'i lapio'n dynn mewn blanced
  • wedi bod mewn ystafell gynnes iawn
  • wedi bod yn actif iawn
  • wedi bod yn cofleidio potel dŵr poeth
  • wedi bod yn gwisgo llawer o ddillad
  • wedi cael bath.

Os yw hyn yn wir, gadewch i’r plentyn oeri am ychydig funudau, ond peidiwch â gadael i’r plentyn fynd yn oer neu ddechrau crynu, yna cymerwch ei dymheredd eto i weld a oes unrhyw newid.

Mathau eraill o thermomedr

Gallwch chi brynu sawl math gwahanol o thermomedr, ond efallai na fyddan nhw mor gywir â thermomedr digidol ar gyfer cymryd tymheredd babi neu blentyn bach.

  • thermomedr clust (tympanig) - mae’r rhain yn cymryd tymheredd eich plentyn o’r glust ac maen nhw’n gyflym ond yn ddrud; gallan nhw roi darlleniadau camarweiniol os nad ydyn nhw wedi’u gosod yn gywir yn y glust, sy’n fwy tebygol o ddigwydd gyda babi gan fod tyllau eu clust mor fach.
  • thermomedr stribed - mae'r rhain yn cael eu dal ar dalcen y plentyn. Dydy’r rhain fodd bynnag ddim yn rhoi darlleniadau cywir.  Maen nhw’n dangos tymheredd y croen, yn hytrach na'r corff

Ni ddylech byth ddefnyddio thermomedr gwydr hen ffasiwn sy'n cynnwys mercwri. Gall y rhain dorri, gan ryddhau gwydr a mercwri gwenwynig iawn. Dydyn nhw bellach ddim yn cael eu defnyddio mewn ysbytai a dydych chi ddim yn gallu eu prynu mewn siopau.

Os yw eich plentyn yn dod i gysylltiad â mercwri, bydd angen i chi gael cyngor meddygol ar unwaith.

Beth sy'n achosi tymheredd uchel mewn plant?

Mae tymheredd uchel fel arfer yn arwydd bod corff eich plentyn yn ceisio ymladd haint.

Mae rhai babanod a phlant ifanc yn cael tymheredd uchel ar ôl cael eu brechiad.  Dylai hyn glirio'n eithaf cyflym heb driniaeth. Os ydych chi’n poeni yna siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu eich meddyg teulu.

Beth ddylwn ei wneud os oes gan fy mabi dymheredd uchel?

Fel arfer gallwch chi ofalu am eich babi neu eich plentyn gartref pan fydd tymheredd uchel ar y plentyn. Gwnewch yn siŵr fod y plentyn yn cael digon o ddiod. Bydd hyn yn osgoi dadhydradu. Os ydych chi'n bwydo ar y fron, cynigiwch ddigon o laeth i'r babi.

Cofiwch gysylltu â’r meddyg teulu bob amser neu ffoniwch GIG 111 Cymru:

  • os oes gan eich plentyn arwyddion eraill o salwch, fel brech, yn ogystal â thymheredd uchel
  • os ydy tymheredd eich babi yn 38° C neu'n uwch os yw o dan 3 mis oed
  • os ydy tymheredd eich babi yn 39° C neu'n uwch os ydy’r babi rhwng 3 - 6 mis oed

Os oes angen i chi siarad â rhywun y tu allan i oriau arferol y feddygfa, gallwch ffoniwch GIG 111 Cymru.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 25/07/2023 07:43:13
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk