Gwybodaeth beichiogrwydd


Fformiwla fabanod

Faint o fformiwla mae fy mabi ei angen?

Ychydig bach o fformiwla mae babis newydd gael eu geni angen i ddechrau. Yn wythnos oed, bydd y rhan fwyaf angen tua 150 i 200ml am bob cilo o’u pwysau bob dydd nes eu bod nhw’n 6 mis oed. Mae pob babi’n wahanol.

Er bod y rhan fwyaf o fabis yn setlo i batrwm bwydo yn y pen draw, mae pa mor aml maen nhw’n bwydo a faint maen nhw eisiau yfed yn newid o fabi i fabi.

Bwydwch eich babi pan fydd o’n dangos ei fod eisiau llaeth. Mae babis yn dueddol o yfed ychydig yn aml, felly efallai na fydd o’n gorffen y botel. Dydy yfed llawer ar un tro ddim yn golygu na fydd eich babi eisiau llaeth eto’n fuan.

Mae faint o fformiwla fydd eich babi’n yfed yn gallu newid pan mae’n sâl, yn dioddef o boen torri dannedd, neu’n tyfu’n sydyn.

Sut ydw i’n gwybod bod fy mabi’n cael digon o fformiwla?

Bydd pwysau’r babi a nifer y cewynnau gwlyb a budr yn dangos bod eich babi’n cael digon o fformiwla neu beidio.

Ychydig ddyddiau ar ôl cael ei eni, dylai eich babi ddechrau gwlychu tua 6 cewyn bob dydd. Dylai’r cewynnau fod yn wlyb sopen a’r pi-pi yn lliw melyn clir neu felyn golau, neu deimlo’n drwm.

Am ychydig ddyddiau ar ôl cael ei eni, bydd pw-pw eich babi yn dywyll a gludiog (‘meconiwm’ ydy hwn). Ar ôl yr wythnos gyntaf dylai eich babi ddechrau gwneud pw-pw melyn golau neu felynfrown.

Fel arfer bydd eich babi’n cael ei bwyso ar ôl cael ei eni ac eto pan fydd yn 5 ac yn 10 diwrnod oed. Ar ôl hynny dim ond unwaith y mis, nes ei fod yn 6 mis oed, mae angen pwyso babanod iach.

Dylai’r wybodaeth yma fynd ar siart yn eich Cofnod Iechyd Plentyn Personol (PCHR) neu’r “llyfr coch”.

Os oes gennych gwestiwn neu os ydych chi’n poeni am bwysau eich babi, siaradwch â bydwraig neu ymwelydd iechyd.

Sut fydda i’n gwybod bod fy mabi sy’n yfed fformiwla yn llwglyd?

Ar ôl ychydig, byddwch yn nabod arwyddion sy’n dangos fod eich babi’n barod i fwydo:

  • bydd eich babi’n dechrau aflonyddu
  • bydd yn dechrau troi ei ben ac agor ei geg (gwreiddio)
  • bydd yn ffeindio rhywbeth i’w sugno – cefn ei law neu fys fel arfer

Ceisiwch fwydo’ch babi cyn iddo ddechrau crio – mae hynny’n arwydd ei fod yn llwglyd iawn.

Beth ydw i angen i fwydo â fformiwla oddi cartref?

Os bydd rhaid bwydo’ch babi oddi cartref, byddwch angen:

  • y mesur iawn o bowdr fformiwla mewn twbyn bach, glân a sych
  • fflasg o ddŵr poeth sydd newydd gael ei ferwi
  • potel fwydo wag wedi’i diheintio (‘sterile’) gyda’r cap a’r cylch cadw yn eu lle

Does dim angen i’r fflasg gael ei diheintio ond mae’n rhaid iddi fod yn lân ac yn cael ei defnyddio dim ond ar gyfer eich babi. Dylai’r dŵr berwedig ladd unrhyw facteria yn y fflasg. Os ydy’r fflasg yn llawn ac wedi’i selio, bydd y dŵr yn aros yn boethach na 70C am oriau.

Gwnewch botelaid ffres dim ond pan fydd eich babi angen yfed. Mae’n rhaid i’r dŵr fod yn dal yn boeth pan fyddwch chi’n ei ddefnyddio er mwyn lladd unrhyw facteria yn y powdr fformiwla.

Cofiwch oeri’r botel (gyda chaead) dan y tap dŵr oer cyn i chi fwydo’r babi. 

Dewis arall yw defnyddio carton o laeth fformiwla parod pan fyddwch oddi cartref.

Sut mae cario potel o fformiwla sydd wedi cael ei baratoi?

Os na fedrwch chi ddilyn y cyngor uchod, neu os byddwch chi angen cario fformiwla wedi’i baratoi (e.e. i feithrinfa), gwnewch y llaeth fformiwla yn y tŷ, ei oeri dan y tap dŵr oer neu mewn powlen o ddŵr oer, a’i oeri am o leiaf 1 awr yng nghefn yr oergell.

Tynnwch y botel allan o’r oergell ychydig cyn i chi adael y tŷ a’i gario mewn bag oer gyda phecyn iâ, a’i ddefnyddio o fewn 4 awr. Os nad oes gennych becyn iâ nac oergell, mae’n rhaid defnyddio’r fformiwla wedi’i baratoi o fewn 2 awr.

Storio a defnyddio fformiwla wedi’i baratoi:

  • mewn oergell – defnyddiwch o fewn 24 awr
  • mewn bag oer gyda phecyn iâ – defnyddiwch o fewn 4 awr
  • ar dymheredd ystafell – defnyddiwch o fewn 2 awr

Ydw i’n gallu defnyddio dŵr potel i wneud fformiwla i fabi?

Dydy dŵr potel ddim yn dda i wneud fformiwla i’ch babi. Dydy o ddim yn ddi-haint (‘sterile’) fel arfer ac mae gormod o halen (sodiwm) neu sylffad yn gallu bod ynddo.


Last Updated: 06/04/2022 07:24:37
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk