Gwlychu'r gwely mewn plant
Mae gwlychu’r gwely yn gyffredin. Mae’n aml yn rhedeg mewn teulu. Gall greu gofid, ond bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn tyfu allan o wlychu’r gwely. Ewch i weld meddyg teulu neu nyrs ysgol am gyngor os bydd angen.
Pethau y gallwch eu gwneud gartref i helpu plentyn sy’n gwlychu’r gwely
Pethau i’w gwneud
- rhowch ddigon o ddŵr i’ch plentyn yfed yn ystod y dydd
- gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn mynd i'r toiled yn rheolaidd, tua 4 - 7 gwaith y dydd, gan gynnwys ychydig cyn amser gwely
- cytunwch gyda’ch plentyn am wobrau sy’n cael eu rhoi am weithredoedd cadarnhaol, fel sticer bob tro y byddan nhw’n defnyddio'r toiled cyn mynd i’r gwely
- defnyddiwch orchudd gwrth-ddŵr ar y fatres a'r duvet
- gwnewch yn siŵr fod yn agos i doiled yn ystod y nos.
Pethau i beidio â’i gwneud
- peidiwch â chosbi eich plentyn - dydy'r plentyn ddim ar fai. Mae’n gallu gwneud pethau yn llawer gwaeth
- peidiwch â rhoi diodydd i'ch plentyn sy'n cynnwys caffein, fel cola, te a choffi - gall hyn wneud y plentyn fynd i’r toiled yn amlach
- peidiwch â deffro na chario eich plentyn yn rheolaidd gyda'r nos i ddefnyddio'r toiled - fydd hyn ddim yn helpu yn y tymor hir.
Mae gwlychu’r gwely mewn plant ifanc yn normal
Mae llawer o blant dan 5 oed yn gwlychu'r gwely.
Gall gymryd peth amser i blentyn ddysgu ac aros yn sych drwy gydol y nos.
Ewch at y meddyg teulu os:
- ydych chi wedi gwneud popeth i helpu’r sefyllfa ond mae’r plentyn yn dal i wlychu'r gwely
- mae eich plentyn wedi dechrau gwlychu'r gwely eto ar ôl bod yn sych am fwy na 6 mis.
Triniaethau gan y meddyg teulu
Bydd y meddyg teulu yn gallu awgrymu opsiynau eraill megis:
- larwm gwlychu’r gwely
- meddyginiaeth i leihau faint o wrin y mae’r plentyn yn ei wneud yn ystod y nos.
Bydd y meddyg teulu yn cadw golwg i weld os ydy’r driniaeth yn helpu. Bydd hefyd yn gallu cynnig cymorth os ydych yn ei chael hi'n anodd delio â’r sefyllfa.
Os nad ydy'r triniaethau hyn yn gweithio, efallai y bydd eich plentyn yn cael ei gyfeirio at arbenigwr.
Rhesymau dros blant yn gwlychu’r gwely
Mae nifer o resymau pam y mae plentyn yn gallu gwlychu'r gwely. Mae nifer o resymau sy’n achosi hyn:
- dim yn teimlo'r angen i wneud pipi wrth gysgu
- gwneud gormod o wrin yn ystod y nos
- straen yn y cartref neu yn yr ysgol.
Gall gwlychu’r gwely hefyd gael ei achosi gan gyflyrau iechyd fel diabetes neu fod yn rhwym.
Mwy o wybodaeth a chyngor ar wlychu’r gwely
Last Updated: 25/05/2023 10:08:31
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk