Pryder gwahanu
Mae babis a phlant bach yn aml yn glynu wrth ei riant ac yn crio os byddwch chi neu eu gofalwyr eraill yn eu gadael, hyd yn oed am gyfnod byr.
Mae pryder gwahanu ac ofn dieithriaid yn gyffredin ymhlith plant ifanc rhwng chwe mis a thair blwydd oed, ond mae'n rhan arferol o ddatblygiad eich plentyn ac maen nhw fel arfer yn tyfu allan ohono.
Pam mae pryder gwahanu yn digwydd
Os oedd eich babi’n arfer bod yn dawel pan fyddech chi’n gadael yr ystafell a’i fod yn hapus i gael ei ddal gan bobl nad oedd yn eu hadnabod, efallai na fyddai’n gwneud synnwyr pan fydd yn dechrau crio pryd bynnag nad ydych chi yno neu pan fydd dieithriaid yn agos.
Ond mae pryder gwahanu yn arwydd bod eich babi nawr yn sylweddoli pa mor ddibynnol ydyw ar y bobl sy'n gofalu amdano. Mae hynny’n gallu cynnwys eu neiniau a theidiau neu weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud yn agos â’u gofal, yn ogystal â’u rhieni.
Wrth iddyn nhw ddod yn fwy ymwybodol o'u hamgylchedd, mae perthynas gref eich babi â'r grŵp bach hwn yn golygu nad yw'n teimlo mor ddiogel heboch chi. Mae eu hymwybyddiaeth gynyddol o'r byd o'u cwmpas hefyd yn gallu gwneud iddyn nhw deimlo'n anniogel neu'n ofidus mewn sefyllfaoedd newydd neu gyda phobl newydd, hyd yn oed os ydych chi yno.
Sut i drin pryder gwahanu
Mae pryder gwahanu yn gallu ei gwneud hi'n anodd gadael eich babi yn y feithrinfa neu yng ngofal rhywun arall. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n ofidus oherwydd ei ddagrau ac yn poeni am yr effaith ar eich babi bob tro y bydd angen i chi ei adael.
Cofiwch, mae'n naturiol i'ch babi deimlo'n bryderus heboch chi, felly does dim rheswm i deimlo'n euog pan fydd angen i chi fwrw ymlaen â rhannau eraill o'ch bywyd. Mewn gwirionedd, mae pryder gwahanu fel arfer yn arwydd o ba mor dda rydych chi wedi bondio â nhw.
Yn lle hynny, gallwch ganolbwyntio ar helpu'ch babi i ddeall a delio â'i deimladau fel ei fod yn teimlo'n fwy diogel. Byddan nhw'n dysgu os byddwch chi'n eu gadael, y byddan nhw'n iawn a byddwch chi'n dod yn ôl. Os yw'ch babi'n ddigon hen, gallwch chi siarad ag ef am yr hyn sy'n digwydd, ble rydych chi'n mynd a phryd y byddwch chi gyda nhw eto.
Trwy adael eich babi gyda gofalwr arall, ni fyddwch yn ei niweidio. Rydych chi mewn gwirionedd yn eu helpu i ddysgu sut i ymdopi heboch chi, ac mae hynny'n gam pwysig tuag at eu hannibyniaeth gynyddol. Peidiwch â bod yn rhy galed arnoch chi'ch hun – mae pryder gwahanu yn gyffredin ac mae'n normal.
Awgrymiadau ar gyfer pryder gwahanu
Dyma awgrymiadau Dr Angharad Rudkin, seicolegydd clinigol, i'ch helpu.
Ewch ati i ymarfer gwahaniad byr oddi wrth eich babi i ddechrau
Gallech ddechrau drwy eu gadael yng ngofal rhywun arall am rai munudau tra byddwch yn mynd i'r siop leol. Gadewch eich babi gyda rhywun y mae'n ei adnabod yn dda fel ei fod yn dal i deimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel yn eich absenoldeb. Gweithiwch yn raddol tuag at wahaniad hirach, ac yna eu gadael mewn lleoliadau llai cyfarwydd.
Siaradwch am yr hyn y byddwch chi'n ei wneud gyda'ch gilydd yn nes ymlaen
Siaradwch â'ch plentyn bach am yr hyn rydych chi'n mynd i'w wneud pan fyddwch chi'n eu gweld nhw eto fel bod ganddyn nhw rywbeth i edrych ymlaen ato gyda chi. Er enghraifft, gallech chi ddweud: "Pan ddaw Mam yn ôl i dy gasglu di, fe awn ni i'r siop gyda'n gilydd i gael bwyd i swper."
Gadewch rywbeth cysurus gyda'ch babi
Efallai y bydd yn gysur i'ch babi gael rhywbeth y mae'n uniaethu â chi gerllaw – fel sgarff gyda'ch arogl arno neu hoff degan. Mae hyn yn gallu tawelu eu meddwl tra byddwch i ffwrdd.
Gwnewch ffarwelio yn amser cadarnhaol
Pan fyddwch chi'n gadael eich babi, waeth pa mor drist neu bryderus y byddwch chi'n teimlo, gwenwch a ffarweliwch yn hyderus ac yn hapus, neu fel arall byddan nhw'n synhwyro eich tensiwn. Trwy roi profiad i'ch babi o ffarwelio ac yna cael aduniadau hapus, rydych chi'n dysgu gwers bywyd bwysig iddynt.
Pryd i gael help ar gyfer pryder gwahanu
Mae'n gwbl naturiol i fabanod a phlant bach grio pan fyddan nhw’n gadael eu prif ofalwr. Ond wrth i fabanod fynd yn hŷn, maen nhw’n gallu deall yn well bod pobl a phethau’n bodoli hyd yn oed pan nad ydyn nhw’n gallu eu gweld.
Hyd nes y bydd hynny'n digwydd, mae'n bwysig nad yw pryder eich babi yn ei atal rhag cael y gorau o brofiadau newydd fel cymdeithasu a dysgu yn y feithrinfa. Ac ni ddylai eich atal rhag mynd i weithio.
Os yw pryder gwahanu eich plentyn yn achosi llawer o ofid iddo, mae wedi cynhyrfu am amser hir ar ôl i chi ei adael, neu ei fod wedi bod yn digwydd ers mwy nag ychydig wythnosau, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd.
Last Updated: 27/06/2023 12:00:51
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by

NHS website
nhs.uk