Gwybodaeth beichiogrwydd


Cyfuno fron a photel

Mae’n gallu cymryd hyd at chwe wythnos i fam a babi sefydlu patrwm bwydo ar y fron llwyddiannus.

Unwaith y byddwch chi a’ch babi wedi sefydlu patrwm llwyddiannus, fel arfer mae'n bosibl cynnig poteli o laeth o’r fron neu fformiwla i'ch babi ochr yn ochr â bwydo ar y fron.

Bwydo cymysg neu gyfunol yw’r enw sy’n cael ei roi am hyn weithiau.

Pam cyfuno bwydo o’r fron a bwydo â photel?

Efallai y byddwch chi eisiau cyfuno bwydo ar y fron gyda bwydo â photel os ydych chi:

  • yn bwydo ar y fron ac eisiau defnyddio potel i gynnig rhywfaint o laeth eich bron i’ch babi
  • eisiau bwydo ar y fron yn ogystal â rhoi poteli fformiwla i’ch babi
  • yn bwydo eich babi â photel ac eisiau dechrau bwydo ar y fron
  • angen gadael eich babi ac eisiau gwneud yn siŵr bod ganddo laeth tra byddwch i ffwrdd

Mae'n debyg y bydd cyflwyno llaeth fformiwla yn lleihau faint o laeth y fron rydych chi'n ei gynhyrchu.

Mae yna hefyd ychydig bach o dystiolaeth i ddangos efallai na fydd babanod yn bwydo ar y fron hefyd oherwydd eu bod yn dysgu defnyddio math gwahanol o weithred sugno wrth y botel nag ar y fron.

Cyflwyno llaeth fformiwla

Mae cyfuno bwydo ar y fron â llaeth fformiwla yn well i'ch babi na newid i fformiwla yn unig. Mae’n golygu y gallwch chi a'ch babi barhau i fwynhau manteision bwydo ar y fron.

Os byddwch chi’n dewis cyflwyno fformiwla i fabanod:

  • mae'n well ei wneud yn raddol i roi amser i'ch corff leihau faint o laeth y mae'n ei wneud. Bydd hyn hefyd yn rhoi amser i gorff eich babi addasu o gael llaeth y fron i gael llaeth fformiwla
  • os ydych chi'n mynd yn ôl i'r gwaith, dechreuwch ychydig wythnosau ymlaen llaw i roi amser i'r ddau ohonoch chi ailaddasu
  • os yw eich babi'n chwe mis oed neu fwy ac yn gallu yfed llaeth o gwpan, efallai na fydd angen i chi gyflwyno potel

Rhoi’r botel gyntaf i'ch babi

Mae babi yn defnyddio gwahanol gamau sugno wrth yfed o botel a gall gymryd amser i fabi sy'n bwydo ar y fron ddysgu hyn.

  • Fel arfer mae'n helpu i roi'r poteli cyntaf pan fydd eich babi'n hapus ac wedi ymlacio – nid pan fydd yn llwglyd iawn.
  • Gall helpu os bydd rhywun arall yn rhoi'r botel gyntaf, fel nad yw eich babi yn agos atoch chi ac yn arogli llaeth eich bron.
  • Daliwch ati ond peidiwch â gorfodi'ch babi i fwydo. Does dim rhaid i'ch babi orffen yr holl laeth yn y botel. Gadewch i’ch babi ddweud wrthych chi pan fydd e wedi cael digon.

Ailgychwyn bwydo ar y fron

Os ydych chi am ddechrau bwydo ar y fron yn fwy a rhoi llai o boteli i'ch babi, mae'n syniad da gofyn i'ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch cefnogwr bwydo ar y fron am gymorth.

Gall yr awgrymiadau hyn helpu hefyd:

  • Dal a cwtsio’ch babi gymaint â phosibl, yn ddelfrydol croen-i-groen. Bydd hyn yn annog eich corff i wneud llaeth a'ch babi i fwydo.
  • Tynnwch laeth o’ch bron yn rheolaidd. Mae tynnu llaeth o’r fron yn rhyddhau'r hormon prolactin, sy'n ysgogi eich bronnau i wneud llaeth. Mae tua wyth gwaith y dydd, gan gynnwys un yn y nos, yn ddelfrydol. Efallai y bydd yn haws tynnu’r llaeth â llaw i ddechrau – gall eich bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch cefnogwr bwydo ar y fron ddangos i chi sut i wneud hyn. Gallwch hefyd ddarllen mwy am dynnu llaeth â llaw.
  • Rhowch gynnig ar fwydo â photel wrth ddal eich babi croen-i-groen ac yn agos at eich bronnau.
  • Os yw'ch babi'n mynd ar y fron yn llwyddiannus, bwydwch ychydig ac yn aml. Peidiwch â phoeni os nad yw eich babi'n bwydo'n hir i ddechrau.
  • Dewiswch amseroedd pan fydd eich babi wedi ymlacio, yn effro ac nid yn rhy lwglyd, a pheidiwch â gorfodi eich babi i aros ar y fron.
  • Ceisiwch leihau nifer y poteli'n raddol, wrth i'ch cyflenwad llaeth gynyddu.
  • Ystyriwch ddefnyddio cymorth llaetha (atchwanegwr). Mae tiwb bach yn cael ei dapio wrth ymyl eich teth ac yn pasio llaeth i geg eich babi fel y gall eich babi gael llaeth drwy'r tiwb yn ogystal ag o'ch bron. Mae hyn yn helpu i gefnogi eich babi wrth iddo ddod i arfer â'r fron. Bydd eich bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch cefnogwr bwydo ar y fron yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi.

Help a chefnogaeth gyda bwydo cymysg

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon am gyfuno bwydo ar y fron a photel:

  • siarad â'ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch cefnogwr bwydo ar y fron
  • ffoniwch y Llinell Gymorth Bwydo ar y Fron Genedlaethol ar 0300 100 0212 (9.30am i 9.30pm, bob dydd)

Last Updated: 13/06/2023 10:21:45
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk