Awgrymiadau hyfforddi poti
Mae defnyddio poti yn sgil newydd i'ch plentyn ei ddysgu. Mae'n well cymryd eich amser a mynd ar gyflymder eich plentyn. Bydd bod yn amyneddgar gyda nhw yn eu helpu i wneud pethau'n iawn, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n rhwystredig weithiau.
Mae'r plant yn gallu rheoli eu pledren (bladder) a'u coluddion (bowel) pan fyddan nhw’n gorfforol barod a phan fyddan nhw am fod yn sych ac yn lân. Mae pob plentyn yn wahanol, felly mae'n well peidio â chymharu'ch plentyn ag eraill.
Cofiwch, mae’r rhan fwyaf o blant yn gallu rheoli eu coluddion cyn eu pledren.
- erbyn 1 oed, mae'r rhan fwyaf o fabis wedi rhoi'r gorau i wneud pŵ yn ystod y nos
- erbyn 2 oed, bydd rhai plant yn sych yn ystod y dydd, ond mae hyn yn dal yn eithaf cynnar
- erbyn 3 oed, mae 9 o bob 10 o blant yn sych bron bob dydd – hyd yn oed wedyn, mae pob plentyn yn cael ambell ddamwain, yn enwedig pan fyddan nhw’n gyffrous, wedi cynhyrfu neu wedi ymgolli mewn rhywbeth arall
- erbyn 4 oed, mae'r rhan fwyaf o blant yn sych iawn yn ystod y dydd
Fel arfer mae'n cymryd ychydig mwy o amser i blant ddysgu cadw'n sych trwy’r nos. Er bod y rhan fwyaf yn dysgu hyn rhwng 3 a 5 oed, mae hyd at 1 o bob 5 o blant 5 oed weithiau'n gwlychu'r gwely.
Pryd i ddechrau hyfforddiant i ddefnyddio’r poti
Cofiwch, allwch chi ddim gorfodi eich plentyn i ddefnyddio poti. Os nad ydynt nhw’n barod, fyddwch chi ddim yn gallu gwneud iddyn nhw ei ddefnyddio. Ymhen amser, byddan nhw eisiau defnyddio un – ni fydd y rhan fwyaf o blant eisiau mynd i’r ysgol mewn clwt/cewyn mwy nag y byddech chi eisiau iddyn nhw wneud hynny.
Yn y cyfamser, y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw annog yr ymddygiad rydych chi ei eisiau.
Mae'r rhan fwyaf o rieni yn dechrau meddwl am hyfforddiant i ddefnyddio’r poti pan fydd eu plentyn rhwng 2 a 2 a hanner, ond nid oes amser perffaith. Mae rhai pobl yn ei chael hi'n haws dechrau yn yr haf, pan fydd llai o ddillad i'w tynnu ac mae dillad wedi’u golchi yn sychu'n gyflymach.
Rhowch gynnig ar hyfforddiant i ddefnyddio’r poti pan nad oes unrhyw amhariadau neu newidiadau mawr i drefn eich plentyn neu'ch teulu. Mae'n bwysig aros yn gyson, fel nad ydych chi'n drysu'ch plentyn.
Os ewch chi allan, ewch â'r poti gyda chi, fel bod eich plentyn yn deall yr hoffech iddyn nhw wneud pi-pi neu bŵ yn y poti bob tro y mae angen iddyn nhw fynd. Gwiriwch bod unrhyw bobl eraill sy'n gofalu am eich plentyn yn gallu helpu gyda hyfforddiant i ddefnyddio’r poti yn yr un ffordd â chi.
Gallwch geisio gweithio allan pryd fydd eich plentyn yn barod. Mae nifer o arwyddion bod eich plentyn yn dechrau datblygu rheolaeth ar y bledren:
- maen nhw’n gwybod pan fydd ganddyn nhw glwt/cewyn gwlyb neu fudr
- maen nhw’n dod i wybod pan fyddan nhw eisiau gwneud pi-pi ac efallai'n dweud wrthych eu bod yn gwneud hynny
- mae o leiaf awr o fwlch rhwng gwlychu (os yw'n llai, efallai y bydd hyfforddiant i ddefnyddio’r poti yn methu, neu o leiaf bydd yn waith caled iawn i chi)
- maen nhw'n dangos eu bod angen gwneud pi-pi trwy gynhyrfu neu fynd i rywle tawel neu gudd
- maen nhw’n gwybod pryd mae angen iddyn nhw wneud pi-pi a gallan nhw ddweud hynny ymlaen llaw
Mae hyfforddiant i ddefnyddio’r poti fel arfer ar ei gyflymaf os yw'ch plentyn ar y cam olaf cyn i chi ddechrau'r hyfforddiant. Os byddwch chi'n dechrau'n gynharach, dylech fod yn barod am lawer o ddamweiniau wrth i'ch plentyn ddysgu.
Mae angen iddyn nhw hefyd allu eistedd ar y poti a chodi ohono pan fyddan nhw wedi gorffen, a dilyn eich cyfarwyddiadau.
Paratoi ar gyfer hyfforddiant i ddefnyddio’r poti
Bydd defnyddio poti yn newydd i'ch plentyn, felly dylech ei helpu i ddod i arfer â'r syniad yn raddol.
Siaradwch am newid clwt/cewyn eich plentyn wrth i chi wneud hynny, fel ei fod yn deall pi-pi a pŵ a beth mae clwt/cewyn gwlyb yn ei olygu. Os byddwch bob amser yn newid eu clwt yn yr ystafell ymolchi pan fyddwch gartref, byddan nhw’n dysgu mai dyna'r man lle mae pobl yn mynd i'r tŷ bach. Mae eich helpu i fflysio'r toiled a golchi eu dwylo hefyd yn syniad da.
Gadewch y poti lle mae eich plentyn yn gallu ei weld ac eglurwch beth yw ei bwrpas. Mae plant yn dysgu trwy wylio a chopïo. Os oes gennych chi blentyn hŷn, efallai y bydd eich plentyn iau yn ei weld yn ei ddefnyddio, a fydd yn help mawr. Mae'n helpu i adael i'ch plentyn eich gweld yn defnyddio'r toiled ac egluro beth rydych chi'n ei wneud. Gall defnyddio teganau eich plentyn i ddangos beth yw pwrpas y poti helpu hefyd.
Fe allech chi weld a yw'ch plentyn yn hapus i eistedd ar y poti am ychydig, dim ond i ddod i arfer ag ef, pan fyddwch chi'n newid ei glwt/cewyn, yn enwedig pan fyddwch chi'n eu gwisgo am y dydd neu'n barod i fynd i'r gwely gyda'r nos.
Sut i ddechrau hyfforddiant i ddefnyddio’r poti
Cadwch y poti yn yr ystafell ymolchi. Os yw hwnnw i fyny'r grisiau, cadwch boti arall lawr grisiau er mwyn i’ch plentyn allu cyrraedd y poti yn hawdd ble bynnag y mae. Y syniad yw gwneud eistedd ar y poti yn rhan o fywyd bob dydd eich plentyn.
Anogwch eich plentyn i eistedd ar y poti ar ôl prydau bwyd, oherwydd mae treulio bwyd yn aml yn arwain at ysfa i wneud pŵ. Mae cael llyfr i edrych arno neu deganau i chwarae gyda nhw yn gallu helpu eich plentyn i eistedd yn llonydd ar y poti.
Os yw eich plentyn yn gwneud pŵ yn rheolaidd ar yr un amser bob dydd, tynnwch ei glwt i ffwrdd ac awgrymwch ei fod yn mynd yn y poti. Os yw'ch plentyn hyd yn oed wedi cynhyrfu ychydig gan y syniad, rhowch y clwt yn ôl ymlaen a gadael ychydig mwy o wythnosau cyn ceisio eto.
Bydd eu hannog i ddefnyddio'r poti i wneud pi-pi yn helpu i feithrin eu hyder pan fyddan nhw’n barod i'w ddefnyddio i wneud pŵ.
Cyn gynted ag y byddwch chi'n gweld bod eich plentyn yn gwybod pryd mae'n mynd i wneud pi-pi, anogwch nhw i ddefnyddio eu poti. Os bydd eich plentyn yn cael damwain fach, mopiwch ef ac arhoswch am y tro nesaf. Mae'n cymryd ychydig o amser iddyn nhw ddeall beth i’w wneud.
Os na fyddwch yn gwneud ffws pan fyddan nhw’n cael damwain, ni fyddan nhw’n teimlo'n bryderus ac yn ofidus, ac maen nhw’n fwy tebygol o fod yn llwyddiannus y tro nesaf. Rhowch nhw mewn dillad sy'n hawdd eu newid ac osgoi teits a dillad gyda sipiau neu lawer o fotymau.
Bydd eich plentyn wrth ei fodd pan fydd yn llwyddo. Bydd ychydig o ganmoliaeth gennych chi'n help mawr. Mae’n gallu bod yn eithaf anodd cael y cydbwysedd yn iawn rhwng rhoi canmoliaeth a gwneud gormod o ffws. Peidiwch â rhoi melysion fel gwobr, ond fe allech chi geisio defnyddio siart sticeri.
Pants hyfforddi a chlytiau/cewynnau tynnu i fyny
Mae pants hyfforddi tafladwy (disposable) neu olchadwy (washable) (a elwir hefyd yn glytiau tynnu i fyny (pull-ups)) yn gallu bod yn ddefnyddiol pan fyddwch chi'n dechrau hyfforddiant i ddefnyddio’r poti a gallan nhw roi hyder i blant pan ddaw'n amser newid clwt/cewyn am bants "go iawn". Nid ydynt yn amsugno pi-pi cystal â chlytiau tafladwy, felly bydd eich plentyn yn ei chael yn haws dweud pan fydd yn wlyb.
Dylai pants hyfforddi fod yn gam tuag at bants arferol, yn hytrach nag yn lle clwt/cewyn. Anogwch eich plentyn i gadw ei bants ymarfer yn sych trwy ddefnyddio'r poti.
Os nad yw'ch plentyn yn barod i roi'r gorau i wisgo clwt/cewyn a'i bod hi'n anodd gwybod pan fydd wedi gwneud pi-pi, gallwch chi roi darn o bapur cegin wedi'i blygu y tu mewn i'w clwt/cewyn. Bydd yn aros yn wlyb a dylai helpu eich plentyn i ddysgu bod pi-pi yn gwneud i chi deimlo'n wlyb.
Hyfforddiant i ddefnyddio’r poti gyda'r nos
Canolbwyntiwch ar hyfforddi eich plentyn i ddefnyddio’r poti yn ystod y dydd cyn i chi ddechrau gadael ei glwt/cewyn i ffwrdd gyda'r nos.
Os yw clwt/cewyn eich plentyn yn sych neu ddim ond ychydig yn llaith pan fydd eich plentyn yn deffro am rai boreau yn olynol, efallai y bydd yn barod ar gyfer hyfforddiant i ddefnyddio’r poti gyda'r nos.
Gofynnwch i'ch plentyn ddefnyddio'r poti y peth olaf cyn iddo fynd i'r gwely a gwnewch yn siŵr ei fod yn agos, er mwyn iddo allu ei ddefnyddio os oes angen iddo wneud pi-pi yn y nos. Mae'n siŵr y bydd ychydig o ddamweiniau, felly mae cynfas dal dŵr i amddiffyn matres eich plentyn yn syniad da.
Yn union fel hyfforddiant i ddefnyddio’r poti yn ystod y dydd, mae'n bwysig canmol llwyddiant eich plentyn. Os nad yw pethau'n mynd yn dda, cadwch y clytiau ymlaen yn y nos am ychydig yn hirach a rhowch gynnig arall arni ymhen ychydig wythnosau.
Defnyddio'r toiled yn lle'r poti
Mae rhai plant yn dechrau defnyddio'r toiled yn lle'r poti yn gynt nag eraill.
Mae sedd hyfforddi plentyn sy'n clipio ar y toiled yn gallu helpu i wneud i'ch plentyn deimlo'n fwy diogel a hyderus ar y toiled. Mae step i'ch plentyn orffwys ei draed arno yn sicrhau bod eich plentyn yn eistedd mewn ffordd dda i wneud pŵ.
Os oes gennych fachgen, anogwch nhw i eistedd i wneud pi-pi. Os byddan nhw angen gwneud pŵ hefyd, bydd eistedd i lawr yn eu hannog i wneud hynny.
Hyfforddiant i ddefnyddio’r poti gyda phlentyn anabl
Mae rhai plant sydd â salwch hirdymor neu anabledd yn ei chael yn fwy anodd dysgu defnyddio poti neu doiled. Mae hyn yn gallu bod yn heriol iddyn nhw ac i chi, ond mae'n bwysig peidio ag osgoi hyfforddiant i ddefnyddio’r poti yn rhy hir.
Mae gan yr elusen Contact ganllaw sef potty training with a disabled child (PDF, 763kb). Ewch i wefan Contact am ragor o gymorth a ffyrdd o gysylltu â rhieni eraill sydd â phlentyn anabl.
Mwy o wybodaeth a chefnogaeth
Gallwch gysylltu ag ERIC, the Children's Bowel and Bladder Charity i gael gwybodaeth am hyfforddiant i ddefnyddio’r poti. Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth ERIC ar 0845 370 8008 o ddydd Llun i ddydd Iau 10am i 2pm, neu e-bostio cwestiwn i helpline@eric.org.uk.
Siaradwch â'ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd i gael rhywfaint o arweiniad. Efallai y byddan nhw’n eich cyfeirio at glinig am gymorth arbenigol.
Last Updated: 05/04/2022 09:04:33
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by

NHS website
nhs.uk