Corff ar ôl beichiogrwydd
Mae cael babi yn newid eich corff. Dyma ychydig o gyngor i'ch helpu i deimlo'n gyfforddus gyda'ch corff.
Problemau corfforol ar ôl beichiogrwydd
Efallai y bydd problemau corfforol ar ôl cael babi.
Gallan nhw fod yn gysylltiedig â beichiogrwydd neu enedigaeth, neu'r pethau rydych chi'n eu gwneud wrth ofalu am blentyn ifanc, fel codi a phlygu.
Ar gyfer rhai problemau, gallwch wneud llawer i helpu'ch hun. Er enghraifft, os oes gennych bledren sy'n gollwng (anymataliaeth - incontinence) neu deimlad trwm rhwng eich fagina a'ch anws, efallai y bydd angen i chi gryfhau'r cyhyrau o amgylch eich pledren trwy wneud ymarferion llawr y pelfis.
Hefyd, os oes gennych boen cefn, efallai y bydd angen i chi ddysgu sut i ofalu am eich cefn a gwneud rhai ymarferion i'w gryfhau.
Os oes problem gorfforol yn eich poeni, gofynnwch i feddyg teulu neu ymwelydd iechyd am help unrhyw bryd. Maen nhw’n gallu eich cynghori a bydd eich meddyg teulu yn gallu eich cyfeirio at arbenigwr os bydd angen.
Eich prawf ôl-enedigol (postnatal check)
Mae eich prawf ôl-enedigol tua 6 i 8 wythnos ar ôl genedigaeth eich babi yn amser da i siarad â'ch meddyg teulu am unrhyw broblem iechyd corfforol neu feddyliol yr ydych wedi'u cael ers yr enedigaeth.
Am fwy o wybodaeth ewch i: prawf ôl-enedigol.
Gwahaniad cyhyrau’r stumog
Mae'n gyffredin i'r ddau gyhyr sy'n rhedeg i lawr canol eich stumog wahanu oddi wrth ei gilydd yn ystod beichiogrwydd. Gelwir hyn yn diastasis recti.
Mae maint y gwahaniad yn gallu amrywio. Mae'n digwydd oherwydd bod eich croth sy'n tyfu yn gwthio'r cyhyrau oddi wrth ei gilydd, gan eu gwneud nhw’n hirach ac yn wannach.
Bydd y gwahaniad rhwng y ddau gyhyr yn eich stumog fel arfer yn mynd yn ôl i’w lle arferol erbyn i'ch babi gyrraedd 8 wythnos oed.
Ar ôl i chi gael eich babi, gallwch wirio maint y gwahaniad gyda'r dechneg syml yma:
- Gorweddwch ar eich cefn gyda'ch coesau wedi plygu a'ch traed yn fflat ar y llawr.
- Codwch eich ysgwyddau oddi ar y llawr ychydig ac edrychwch i lawr ar eich bol.
- Gan ddefnyddio blaenau eich bysedd, teimlwch rhwng ymylon y cyhyrau, uwchben ac o dan eich botwm bol. Ceisiwch weld faint o fysedd y gallwch chi ffitio i mewn i'r bwlch rhwng eich cyhyrau.
Gwnewch hyn yn rheolaidd i wirio bod y bwlch yn mynd yn llai yn raddol.
Os yw'r bwlch yn dal i fod yn amlwg 8 wythnos ar ôl yr enedigaeth, cysylltwch â'r meddyg teulu gan y gallech fod mewn perygl o gael problemau cefn. Bydd y meddyg teulu yn gallu eich cyfeirio at ffisiotherapydd, a fydd yn rhoi rhai ymarferion penodol i chi eu gwneud.
Mae ymarferion rheolaidd llawr y pelfis a chyhyrau dwfn eich stumog yn gallu helpu i leihau maint y gwahaniad rhwng cyhyrau eich stumog. Mae hefyd yn bwysig sefyll yn dalsyth a bod yn ymwybodol o'ch ystum.
Ymarfer cyhyrau llawr y pelfis
Mae ymarferion cyhyrau llawr y pelfis yn cryfhau'r cyhyrau o amgylch eich pledren, y fagina a'ch pen ôl. Mae hyn yn gallu helpu i atal anymataliaeth, gwella llithriad a gwneud rhyw yn well hefyd.
Gallwch chi wneud yr ymarferion hyn wrth orwedd, eistedd neu sefyll. Gydag ymarfer, gellir eu gwneud yn unrhyw le ac ar unrhyw adeg:
- Gwasgwch a thynhewch eich pen ôl fel petaech yn dal gwynt.
- Gwasgwch o amgylch eich fagina a'ch pledren (wrethra) fel petaech yn atal llif yr wrin neu'n gwasgu yn ystod cyfathrach rywiol.
- Gwasgiadau hir - daliwch gyhyd ag y gallwch, ond dim mwy na 10 eiliad, ac wedyn ymlacio.
- Gwasgiadau byr - gwasgwch y cyhyrau yn gyflym ac yna gadewch iddyn nhw fynd ar unwaith. Gwnewch hyn nes bod eich cyhyrau'n blino.
Yn raddol, anelwch at ailadrodd pob ymarfer 10 gwaith, o leiaf 3 gwaith y dydd.
Mae'n bwysig dal i anadlu'n normal tra byddwch chi'n gwneud yr ymarferion hyn. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n tynnu'ch stumog i mewn pan fyddwch chi'n gwasgu.
Fodd bynnag, mae eistedd ar y toiled yn gallu eich atgoffa i wneud eich ymarferion. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n eu gwneud ar ôl i chi orffen.
Ewch i wefan Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion am ragor o awgrymiadau ar gryfhau llawr eich pelfis.
Ymarferion stumog
Mae’r ymarfer hwn yn gallu eich helpu i dynhau cyhyrau eich stumog:
- Gorweddwch ar eich ochr gyda'ch pengliniau wedi plygu ychydig.
- Gadewch i'ch bol ymlacio ac anadlwch i mewn yn ysgafn.
- Wrth i chi anadlu allan, tynnwch ran isaf eich stumog i mewn yn ysgafn fel staes, gan gulhau'ch gwasg.
- Gwasgwch gyhyrau llawr y pelfis ar yr un pryd.
- Daliwch ati wrth gyfrif o 1 i 10, gan anadlu'n normal, yna rhyddhewch yn ysgafn.
Ail wnewch hyn hyd at 10 gwaith.
Ffyrdd o leddfu poen cefn
Mae’r awgrymiadau ymarferol hyn yn gallu bod o help i leddfu poen cefn:
- wrth fwydo eich babi, eisteddwch i fyny’n syth gan wneud yn siŵr bod rhywbeth yn cynnal eich cefn yn dda. Rhowch obennydd bach neu glustog y tu ôl i'ch gwasg i gynnal rhan isaf eich cefn. Gwnewch yn siŵr bod eich traed yn gallu cyrraedd y llawr
- penliniwch neu sgwatiwch (ond peidiwch â phlygu eich cefn) i wneud tasgau sy'n agos at y llawr, fel codi tegan neu roi bath i'ch babi
- newidiwch gewyn/clwt eich babi ar rywbeth fel bwrdd uchel. Gallwch chi hefyd benlinio ar y llawr wrth ymyl soffa neu wely. Peidiwch byth â gadael eich babi heb oruchwyliaeth os ar rywbeth fel bwrdd uchel, rhag ofn i’r plentyn syrthio
- cadwch eich cefn yn syth a phlygwch eich pengliniau wrth godi
- cadwch eich cefn yn syth pan fyddwch chi’n gwthio'r pram neu’r bygi. Dewis arall fyddai cario eich babi mewn sling a hwnnw’n ffitio'n dda.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.
Last Updated: 25/07/2023 07:28:47
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk