Gwybodaeth beichiogrwydd


Bwydydd solid cyntaf

Dylai eich babi ddechrau cael bwyd solet (bwydo neu ddiddyfnu cyflenwol / ‘complementary feeding or weaning’) pan fydd tua 6 mis oed.

Ar y dechrau, dydy faint mae eich babi’n fwyta ddim mor bwysig â’i gael i arfer â’r syniad o fwyta.

Bydd yn dal i gael y rhan fwyaf o’i egni a maeth o laeth y fron neu laeth fformiwla cyntaf i fabis.

Mae rhoi bwydydd gwahanol i’ch babi, a llaeth y fron neu laeth fformiwla, o tua 6 mis oed ymlaen yn helpu i baratoi eich plentyn ar gyfer oes o fwyta’n iach.

Yn araf bach, rhowch fwy o fwyd i’ch babi a mwy o fwydydd gwahanol nes bydd yn gallu bwyta’r un bwyd â gweddill y teulu – ond llai ohono, wrth gwrs.

Os cafodd eich babi ei eni'n gynamserol, gofynnwch i'ch ymwelydd iechyd neu'ch meddyg teulu am gyngor ynghylch pryd i ddechrau cyflwyno bwydydd solet.

Pam aros tan tua 6 mis?

Mae’n syniad da aros tan tua 6 mis cyn cyflwyno bwydydd solet oherwydd:

  • Mae llaeth y fron neu laeth fformiwla cyntaf i fabis yn rhoi’r egni a’r maeth mae eich babi angen nes ei fod tua 6 mis oed (heblaw am fitamin D mewn rhai achosion).
  • Os ydych chi’n bwydo ar y fron, bydd bwydo dim ond llaeth y fron hyd at tua 6 mis oed yn help i’ch babi beidio cael salwch neu haint.
  • Mae aros tan tua 6 mis yn rhoi amser i’ch babi ddatblygu er mwyn gallu delio’n iawn â bwyd solet. Mae hyn yn cynnwys bwyd solet sy’n cael ei wneud yn biwrî, grawnfwyd a reis babi wedi’i gymysgu â llaeth.
  • Bydd eich babi yn gallu bwydo ei hun yn well.
  • Bydd eich babi yn gallu symud bwyd yn ei geg, ei gnoi a’i lyncu’n well. Bydd yn gallu bwyta bwyd â blas a theimlad gwahanol yn gynt (e.e. bwyd stwnsh, darnau wedi’u torri a bwyd bys a bawd) ac efallai fydd dim angen rhoi bwyd llyfn neu fwyd wedi’i flendio o gwbl.

Sut i wybod bod eich babi yn barod i gael bwyd solet

Mae 3 arwydd clir yn dod ar yr un pryd o tua 6 mis oed ymlaen. Maen nhw’n dangos bod eich babi yn barod ar gyfer y bwyd solet cyntaf efo llaeth y fron neu laeth fformiwla cyntaf i fabis.

Bydd eich babi yn gallu:

  • eistedd i fyny a dal y pen yn gryf
  • rheoli’r llygaid, y dwylo a’r geg gyda’i gilydd er mwyn edrych ar y bwyd, ei godi a’i roi yn ei geg ar ei ben ei hun
  • llyncu bwyd (ddim poeri’n ôl allan)

Mae rhieni weithiau’n gwneud camgymeriad ac yn meddwl bod y rhain yn dangos bod eu plentyn yn barod i gael bwyd solet:

  • cnoi dyrnau
  • deffro yn y nos (mwy nag arfer)
  • eisiau llaeth ychwanegol

Mae’r rhain i gyd yn normal i fabis ond dydyn nhw ddim fel arfer yn dangos eu bod nhw eisiau bwyd neu’n barod i ddechrau bwyd solet.

Fydd dechrau bwyd solet ddim yn gwneud eich babi yn fwy tebygol o gysgu drwy’r nos.

Weithiau bydd ychydig mwy o laeth yn helpu nes bod eich babi yn barod i gael bwyd solet.

Sut i ddechrau bwyd solet

Ar y dechrau, dim ond ychydig bach o fwyd fydd eich babi angen cyn ei laeth arferol.

Peidiwch â phoeni faint mae’n fwyta. Y peth pwysicaf ydy arfer â blas a theimlad newydd, a dysgu sut i symud bwyd solet yn y geg a sut i lyncu.

Bydd eich babi yn dal i gael y rhan fwyaf o’i egni a maeth o laeth y fron neu laeth fformiwla i fabis.

Peidiwch â rhoi siwgr, halen, na chiwb stoc a grefi ym mwyd eich babi nac yn y dŵr coginio.

Ddylai babis ddim bwyta bwyd hallt am fod halen yn ddrwg i’w harennau (‘kidneys’) ac mae siwgr yn gallu pydru dannedd.

Dysgwch pa fwydydd eraill i beidio rhoi i’ch babi <https://111.wales.nhs.uk/livewell/pregnancy/Weaningfoodstoavoid/>

‘Tips’ sut i gael dechrau da gyda bwyd solet:

  • Mae bwyta yn sgil hollol newydd. Mae rhai babis yn dysgu derbyn bwydydd newydd â theimladau gwahanol yn gyflymach na babis eraill. Daliwch ati a chanmol ac annog eich babi drwy’r amser.
  • Rhowch ddigon o amser, yn enwedig ar y dechrau.
  • Gadewch i’ch babi ddewis pa mor gyflym mae o eisiau bwyta. Gadewch iddo ddangos i chi pan fydd eisiau bwyd neu’n llawn. Stopiwch pan fydd eich babi yn dangos ei fod wedi cael digon, e.e. cau ceg yn dynn, troi pen. Os ydych chi’n defnyddio llwy, arhoswch i’ch babi agor ei geg cyn i chi gynnig y bwyd. Peidiwch â gorfodi eich babi i fwyta. Arhoswch tan y tro nesaf, pan fydd ganddo fwy o ddiddordeb.
  • Byddwch yn amyneddgar a daliwch ati i gynnig bwydydd gwahanol, hyd yn oed y rhai dydy o ddim yn hoffi. Mae’n gallu cymryd hyd at 10 gwaith, neu hyd yn oed fwy, i’ch babi ddod i arfer â bwyd, blas a theimlad newydd yn y geg. Bydd dyddiau o fwyta mwy, a bwyta llai, a dyddiau pan fydd yn gwrthod popeth. Peidiwch â phoeni, mae hyn yn gwbl normal.
  • Gadewch i’ch babi fwynhau cyffwrdd a dal y bwyd. Gadewch i’ch babi fwydo’i hun, gan ddefnyddio’i fysedd, cyn gynted ag y bydd yn dangos diddordeb. Os ydych chi’n defnyddio llwy, efallai bydd eich babi am ei dal neu ddal llwy arall i drio bwydo ei hun.
  • Pan mae’n amser bwyd, peidiwch â gadael i ddim dynnu sylw eich babi a pheidiwch â rhoi eich babi i eistedd o flaen y teledu, ffôn neu dabled.
  • Dangoswch sut rydych chi’n bwyta. Mae babis yn copïo eu rhieni a phlant eraill. Eisteddwch gyda’ch gilydd i gael prydau bwyd teulu mor aml â phosibl.

Bwyta bwyd sy’n teimlo’n wahanol yn y geg

Unwaith y byddwch chi wedi dechrau rhoi bwydydd solet o tua 6 mis oed ymlaen, trïwch symud ymlaen o fwydydd piwrî neu fwydydd cymysg i fwydydd stwnsh, darnau bach neu fwyd bys a bawd cyn gynted ag y bydd eich babi yn gallu ymdopi â nhw.

Mae hyn yn help i ddysgu cnoi, symud bwyd solet yn y geg a llyncu.

Mae rhai babis yn hoffi dechrau gyda bwydydd stwnsh, darnau bach neu fwy bys a bawd.

Mae angen ychydig mwy o amser ar rai babis i ddod i arfer â bwyd newydd sy’n teimlo’n wahanol, felly efallai y byddai’n well rhoi bwyd llyfn neu fwyd wedi’i flendio ar lwy i ddechrau.

Daliwch ati i gynnig darnau bach i’ch babi. Bydd yn dod i arfer yn y pen draw.

Diogelwch a hylendid (‘safety and hygiene’)

Wrth roi bwyd solet i’ch babi, mae’n bwysig cymryd gofal arbennig i beidio â rhoi eich babi mewn perygl.

Cyngor diogelwch a hylendid bwyd pwysig iawn:

  • Golchwch eich dwylo bob amser cyn gwneud bwyd a chadwch y byrddau’n lân.
  • Oerwch fwyd poeth a’i drio cyn ei roi i’ch babi.
  • Golchwch a philiwch ffrwythau a llysiau amrwd.
  • Ceisiwch osgoi bwyd caled fel cnau cyfan, neu foron amrwd neu afalau.
  • Tynnwch hadau caled a cherrig o ffrwythau, ac esgyrn o gig neu bysgod.
  • Torrwch fwydydd crwn, bach, fel grawnwin a thomatos ceirios, yn ddarnau bach.
  • Mae wyau dan Gôd Ymarfer y Llew Prydeinig (gyda stamp llew coch) â risg isel iawn o salmonela ac yn ddiogel i fabis eu bwyta wedi’u coginio ychydig.

Arhoswch gyda’ch babi bob amser pan fydd yn bwyta rhag ofn iddo ddechrau tagu.

Mae tagu yn wahanol i gagio. Mae’n bosibl y bydd eich babi yn gagio pan fyddwch chi’n cyflwyno bwyd solet.

Mae hyn am ei fod yn dysgu sut i ddelio â bwyd solet a rheoli faint o fwyd mae’n gallu gnoi a llyncu ar yr un pryd.

Os ydy eich babi yn gagio:

  • efallai y bydd y llygaid yn dyfrio
  • efallai y bydd yn gwthio’r tafod ymlaen (neu allan o’r geg)
  • efallai y bydd yn trio cyfogi i ddod â’r bwyd ymlaen yn y geg neu’n chwydu

Offer

  • Cadair uchel. Mae angen i’ch babi eistedd i fyny’n ddiogel (fel ei fod yn gallu llyncu’n iawn). Defnyddiwch harnais wedi’i osod yn ddiogel mewn cadair uchel bob amser. Peidiwch byth â gadael babis ar le uchel heb neb yn gofalu amdanyn nhw.
  • Bibs plastig neu fibs pelican. Mae’n mynd i fod yn flêr ar y dechrau!
  • Mae llwyau dechrau bwyta meddal yn brafiach ar gyms eich babi.
  • Powlen blastig fach. Mae powlenni dechrau bwyta arbennig gyda gwaelod sy’n sugno i gadw’r bowlen yn ei lle yn syniad da.
  • Cwpan cyntaf. Rhowch gwpan o tua 6 mis oed ymlaen a chynnig dŵr bob hyn a hyn gyda’r bwyd. Bydd defnyddio cwpan agored neu gwpan heb falf yn help i’ch babi ddysgu sipian, sy’n well i’r dannedd.
  • Mat blêr neu bapur newydd o dan y gadair uchel i ddal y rhan fwyaf o’r llanast.
  • Mae bocsys plastig a bocsys ciwbiau iâ yn gallu bod yn ddefnyddiol wrth wneud llawer o fwyd i’w rewi’n giwbiau bach.

Bwydo eich babi 0-6 mis

Llaeth y fron yw’r bwyd gorau i’ch babi am 6 mis cyntaf ei fywyd.

Mae llaeth y fron am ddim, bob amser ar gael ac ar y tymheredd perffaith, ac mae wedi’i greu yn arbennig ar gyfer eich babi chi!

Fformiwla babis cyntaf yw’r unig ddewis arall pan fydd mamau ddim yn bwydo ar y fron neu’n dewis rhoi llaeth ychwanegol at laeth y fron.

Dysgwch sut i wneud fformiwla babi

Ddylech chi ddim rhoi llaeth na phethau sy’n cael eu hyfed yn lle llaeth (na llaeth buwch) fel prif ddiod nes bydd eich plentyn yn 12 mis oed.

Dydy fformiwla ‘dilynol’ (‘follow-on’) ddim yn addas i fabis o dan 6 mis oed. Does dim rhaid i chi ei roi ar ôl 6 mis.

Does dim angen reis babis ar fabis i’w helpu i symud i fwyd solet neu gysgu’n well.

Wrth ddefnyddio potel, peidiwch â rhoi dim byd ynddi (fel siwgr neu rawnfwyd), dim ond llaeth y fron neu fformiwla i fabis.

Fitaminau babis

Mae’n cael ei argymell bod babis sy’n cael eu bwydo ar y fron yn cael 8.5 i 10 microgram (µg) o fitamin D bob dydd ar ôl cael eu geni, hyd yn oed os ydych chi’n cymryd fitamin D eich hun neu beidio.

Peidiwch â rhoi fitaminau ychwanegol i fabis sy’n cael mwy na 500ml (tua pheint) o laeth fformiwla bob dydd.

Y rheswm am hyn yw bod fitamin D a maeth eraill mewn fformiwla yn barod.

Rhowch fitaminau ychwanegol (fitamin A, C a D) bob dydd i bob plentyn rhwng 6 mis a 5 oed.

Bwydo eich babi: o tua 6 mis ymlaen

Ar y dechrau, dydy babis ddim angen 3 phryd y dydd. Bol bach iawn sydd gan fabi, felly dechreuwch trwy gynnig ychydig bach o fwyd (dim ond ychydig ddarnau, neu lond llwy de o fwyd).

Dewiswch amser sy’n eich siwtio chi a’r babi, pan dydych chi ddim ar frys a’ch babi ddim wedi blino gormod.

Dechreuwch gynnig bwyd cyn y llaeth arferol. Efallai na fydd gan eich babi ddim diddordeb os bydd yn teimlo’n llawn, ond peidiwch ag aros nes bod eich babi eisiau bwyd yn ofnadwy.

Rhowch ddigon o amser i’ch babi fwyta ar ei gyflymder ei hun.

Daliwch ati i gynnig gwahanol fwydydd, hyd yn oed y rhai mae eich babi wedi’u gwrthod.

Mae’n gallu cymryd 10 gwaith neu fwy i’ch babi dderbyn bwyd neu fwyd â theimlad newydd, yn enwedig wrth iddo fynd yn hŷn.

Dysgwch sut i helpu eich babi i fwynhau bwydydd newydd  <https://111.wales.nhs.uk/livewell/pregnancy/helpbabynewfoods/>

Bydd eich babi yn dal i gael y rhan fwyaf o’i egni a’i faeth o laeth y fron neu laeth fformiwla cyntaf i fabis.

Llaeth y fron neu laeth fformiwla babis ddylai fod yn brif ddiod yn y flwyddyn gyntaf.

Peidiwch â rhoi llaeth buwch (na gafr na dafad) fel diod nes bod eich plentyn yn 1 oed.

Gallwch chi ddal i fwydo ar y fron os ydych chi a’ch babi eisiau.

Rhowch gwpan i’ch babi pan fydd tua 6 mis oed a chynnig dŵr gyda bwyd.

Mae defnyddio cwpan agored neu gwpan heb falf yn help i’ch babi ddysgu sipian, sy’n well i’r dannedd.

Dysgwch fwy am ddiodydd a chwpanau i fabis a phlant ifanc

Bwydydd cyntaf

Efallai yr hoffech chi ddechrau gydag un llysieuyn neu ffrwyth.

Trïwch ffyn pannas, brocoli, tatws, iam, tatws melys, moron, afal neu ellyg (‘pears’) wedi’u stwnshio neu eu coginio’n feddal.

Dylech roi llysiau sydd ddim yn felys, fel brocoli, coli a sbinaits.

Bydd hyn yn helpu eich babi i ddod i arfer â blasau gwahanol (yn lle dim ond y rhai melys, e.e. moron a thatws melys). Gall hyn ei helpu i beidio bod yn ffyslyd wrth dyfu’n hŷn.

Gwnewch yn siŵr fod bwyd sydd wedi’i goginio wedi oeri cyn ei roi i’ch babi.

Gallwch roi bwydydd sy’n cynnwys alergenau e.e. cnau mwnci (‘peanuts’), wyau ieir, glwten a physgod o tua 6 mis oed ymlaen, un ar y tro, fesul tipyn, er mwyn i chi weld a oes adwaith.

Dysgwch fwy am alergeddau bwyd

Gallwch ddefnyddio llaeth buwch wrth goginio neu wedi’i gymysgu â bwyd pan fydd eich babi tua 6 mis oed ond ddylech chi ddim ei roi fel diod nes ei fod yn 1 oed.

Gallwch roi cynnyrch llaeth braster llawn, fel caws wedi’i basteureiddio ac iogwrt plaen neu ‘fromage frais’ o tua 6 mis oed ymlaen. Dewiswch gynnyrch heb siwgr.

Cofiwch, does dim angen rhoi halen na siwgr mewn bwyd babis (nac yn y dŵr coginio).

Dysgwch pa fwydydd ddylech chi ddim rhoi i’ch babi <https://111.wales.nhs.uk/livewell/pregnancy/Weaningfoodstoavoid/>

Bwyd bys a bawd

Cyn gynted ag y bydd eich babi yn dechrau bwyta bwyd solet, gadewch i’ch babi fod yn rhan o amser bwyd a chael hwyl yn cyffwrdd, yn dal ac yn archwilio bwyd.

Gadewch i’ch babi fwydo ei hun gyda’i fysedd pan fydd eisiau gwneud hynny. Mae hyn yn help i ddatblygu sgiliau manwl a sgiliau symud llaw-llygad.

Bydd eich babi yn dangos i chi faint mae eisiau fwyta a bydd yn arfer â bwydydd gwahanol.

Mae rhoi bwyd bys a bawd i’ch babi ym mhob pryd yn ffordd dda i’w helpu i ddysgu sut i fwydo ei hun.

Mae bwyd bys a bawd yn fwyd sy’n cael ei dorri’n ddarnau digon mawr i’ch babi allu eu dal yn ei ddwrn gydag ychydig yn dod allan o’r dwrn.

Mae darnau tua maint eich bys yn gweithio’n dda.

Dechreuwch gyda bwyd bys a bawd sy’n torri’n hawdd yn y geg ac sy’n ddigon hir i afael ynddyn nhw.

Peidiwch â rhoi bwyd caled, fel cnau cyfan neu foron ac afalau amrwd, i leihau’r risg o dagu.

Enghreifftiau o fwyd bys a bawd:

  • llysiau wedi’u coginio’n feddal, fel moron, brocoli, coli, pannas, pwmpen ‘butternut’
  • ffrwythau (meddal neu wedi’u coginio heb siwgr) fel afalau, gellyg (‘pears’), eirin gwlanog, melon, bananas
  • darnau o afocado mae posib gafael ynddyn nhw
  • bwyd â starts wedi’u coginio, fel tatws, tatws melys, casafa, pasta, nwdls, chapatti, reis
  • ffa a lentils
  • pysgod heb esgyrn
  • wyau wedi’u berwi’n galed
  • cig heb esgyrn, fel cyw iâr a chig oen
  • ffyn caws caled, braster llawn wedi’i basteureiddio (heb lawer o halen)

Y babi yn dewis sut i ddiddyfnu

Mae diddyfnu dan arweiniad babi yn golygu rhoi dim ond bwyd bys a bawd i’ch babi a gadael iddo fwydo ei hun o’r cychwyn cyntaf yn lle ei fwydo â phiwrî neu fwyd wedi’i stwnshio ar lwy.

Mae’n well gan rai rhieni ddiddyfnu dan arweiniad babi na bwydo â llwy, tra bod rhieni eraill yn gwneud y ddau.

Does dim ffordd gywir nac anghywir. Y peth pwysig yw fod eich babi yn bwyta llawer o fwydydd gwahanol ac yn cael yr holl faeth angenrheidiol.

Does dim mwy o risg o dagu pan fydd babi yn bwydo ei hun na phan fydd yn cael ei fwydo â llwy.

Bwydo eich babi: o 7 i 9 mis

Bydd eich babi yn symud yn araf tuag at fwyta 3 phryd y dydd (brecwast, cinio a swper) a’r llaeth arferol, sy’n gallu bod tua 4 gwaith y dydd (e.e. wrth ddeffro, ar ôl cinio, ar ôl te a chyn gwely).

Wrth i’ch babi fwyta mwy o fwydydd solet, efallai bydd eisiau llai o laeth bob tro y mae’n cael llaeth neu hyd yn oed ollwng un llaeth yn gyfan gwbl.

Os ydych chi’n bwydo ar y fron, bydd eich babi yn addasu faint o laeth mae’n gymryd oherwydd y bwyd mae’n fwyta.

Tua 600ml o laeth y dydd fydd babis sy’n cael eu bwydo â fformiwla yn yfed.

Rhowch fwy o fwyd a bwydydd gwahanol i’ch babi fesul dipyn i wneud yn siŵr ei fod yn cael yr egni a’r maeth sydd ei angen.

Trïwch roi bwyd sy’n cynnwys haearn, fel cig, pysgod, grawnfwyd brecwast cyfnerthedig, llysiau gwyrdd tywyll, ffa neu lentils ym mhob pryd.

Dylai deiet eich babi gynnwys y bwydydd yma:

  • ffrwythau a llysiau, gan gynnwys rhai â blas chwerw, fel brocoli, coli, sbinaits a bresych
  • tatws, bara, reis, pasta a bwydydd eraill â starts
  • ffa, lentils, pysgod, wyau, cig a phethau eraill gyda phrotein sydd ddim yn gynnyrch llaeth
  • cynnyrch llaeth braster llawn wedi’u pasteureiddio, fel iogwrt plaen a chaws (heb lawer o halen)

Wrth i fabis ddod yn fwytawyr mwy hyderus, cofiwch roi mwy o fwydydd stwnsh, darnau bach a bwyd bys a bawd i’ch babi.

Mae rhoi bwyd bys a bawd fel rhan o bob pryd yn helpu i annog babis i fwydo eu hunain, datblygu cydsymud llaw-llygad, a dysgu brathu, cnoi a llyncu darnau o fwydydd meddal.

Cofiwch, does dim angen rhoi halen na siwgr mewn bwyd babis (nac mewn dŵr coginio).

Bwydo eich babi: o 10 i 12 mis

Dylai eich babi nawr fod yn cael 3 phryd y dydd (brecwast, cinio, te) a’r llaeth arferol.

Dyma’r oedran pan fydd eich babi yn cael llaeth 3 gwaith y dydd efallai (e.e. ar ôl brecwast, ar ôl cinio a chyn gwely).

Bydd babis sy’n cael eu bwydo ar y fron yn addasu faint o laeth maen nhw’n yfed yn ôl faint maen nhw’n fwyta.

Bydd babis sy’n cael llaeth fformiwla yn yfed tua 400ml y dydd.

Cofiwch y dylai babis sy’n cael eu bwydo â fformiwla gymryd atodiad fitamin D os ydyn nhw’n cael llai na 500ml o laeth fformiwla bob dydd.

Dylai pob babi sy’n cael ei fwydo ar y fron gymryd atodiad fitamin D.

Erbyn hyn, dylai eich babi fod yn mwynhau llawer o flasau a bwydydd sydd â theimlad gwahanol yn y geg.

Dylai eich plentyn allu rheoli llawer o fwydydd bys a bawd, a bydd yn gallu codi darnau bach o fwyd a’u symud i’w geg yn well.

Bydd yn defnyddio cwpan yn fwy hyderus.

Mae cinio a the yn gallu cynnwys prif gwrs, a ffrwythau neu bwdin llaeth heb ei felysu, i symud patrymau bwyta yn nes at rai plant dros 1 oed.

Wrth i’ch babi dyfu, mae bwyta gyda’ch gilydd fel teulu yn ei annog i ddatblygu arferion bwyta da.

Cofiwch, does dim angen rhoi halen na siwgr mewn bwyd babis (nac mewn dŵr coginio).

Bwydo eich babi: o 12 mis ymlaen

Bydd eich plentyn nawr yn bwyta 3 phryd y dydd yn cynnwys llawer o wahanol fwydydd, gan gynnwys:

  • o leiaf 4 dogn y dydd o fwyd starts, fel tatws, bara a reis
  • o leiaf 4 dogn y dydd o ffrwythau a llysiau
  • o leiaf 350ml o laeth neu 2 ddogn o gynnyrch llaeth (neu ddewis arall)
  • o leiaf 1 dogn y dydd o brotein o anifeiliaid (cig, pysgod ac wyau) neu 2 o lysiau (dhal, ffa, pys ‘chickpeas’ a lentils)

Efallai bydd eich plentyn angen 2 fyrbryd iach hefyd rhwng prydau.

Dewiswch bethau fel:

  • ffrwythau ffres - afal, banana neu ddarnau bach o ellyg (‘pears’) neu eirin gwlanog meddal, aeddfed, wedi’u plicio
  • llysiau wedi’u coginio neu lysiau amrwd, fel brocoli, ffyn moron neu ffyn ciwcymbr
  • iogwrt plaen braster llawn wedi’i basteureiddio
  • ffyn caws (heb lawer o halen)
  • bysedd tôst, pitta neu chapatti
  • cacennau reis neu ŷd heb halen a siwgr

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud y dylai pob babi gael ei fwydo ar y fron am 2 flynedd neu fwy.

Gallwch ddal i fwydo ar y fron os bydd yn eich siwtio chi a’ch babi ond bydd angen llai o laeth y fron ar eich plentyn i wneud lle i fwy o fwyd.

Unwaith y bydd eich plentyn yn 12 mis oed, does dim angen llaeth fformiwla ac mae llaeth plant bach, llaeth tyfu i fyny a llaeth nos hefyd yn ddiangen.

Mae eich babi nawr yn gallu yfed llaeth buwch. Dewiswch gynnyrch llaeth braster llawn, gan fod plant dan 2 oed angen y fitaminau a’r egni ychwanegol sydd ynddyn nhw.

O 2 oed ymlaen, os ydy’ch plentyn yn bwyta’n dda ac yn tyfu’n dda, mae’n gallu cael llaeth hanner-sgim.

O 5 oed ymlaen, mae llaeth 1% o fraster a llaeth sgim yn iawn.

Gallwch chi roi llaeth heb eu cyfnerthu â chalsiwm i’ch plentyn, fel diodydd soia, almon a cheirch, o 1 oed ymlaen fel rhan o ddeiet cytbwys iach.

Peidiwch â rhoi diodydd reis i blant dan 5 oed oherwydd yr arsenig sydd ynddyn nhw.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 25/07/2023 07:49:54
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk