Gwybodaeth beichiogrwydd


Profion am Abnormaleddau

Byddwch yn cael cynnig rhai profion sgrinio yn ystod beichiogrwydd a all helpu i ganfod rhai o'r cyflyrau a allai fod gennych chi neu'ch babi. Y rhain yw HIV, siffilis, hepatitis B, cryman-gell a thalasaemia, syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau, neu annormaleddau corfforol.

Gall y profion eich helpu i wneud dewisiadau am ofal neu driniaeth yn ystod eich beichiogrwydd neu ar ôl i'ch babi gael ei eni.  Mae'r holl brofion sgrinio a gynigir gan y GIG am ddim.

Beth yw profion sgrinio?

Defnyddir profion sgrinio i ddod o hyd i bobl sydd â mwy o siawns o gael problem iechyd. Mae hyn yn golygu y gallant gael triniaeth gynharach, a allai fod yn fwy effeithiol, neu wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd.

Nid yw profion sgrinio yn berffaith.  Bydd rhai pobl yn cael gwybod efallai y bydd ganddyn nhw neu eu babi fwy o siawns o gael problem iechyd pan nad oes ganddynt broblem, mewn gwirionedd.  Hefyd, bydd rhai pobl yn cael gwybod bod ganddyn nhw neu eu babi siawns isel o gael problem iechyd, pan fydd ganddynt broblem mewn gwirionedd.

Efallai yr hoffech feddwl yn ofalus ynghylch a hoffech gael y profion sgrinio hyn ai peidio.

Mwy o wybodaeth

Cewch fwy o wybodaeth ar:

Sgrinio Cyn Geni Cymru | Profion Sgrinio Cyn-geni


Last Updated: 21/07/2022 07:49:24
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk