Gwybodaeth beichiogrwydd


Meddyginiaeth plant

Does dim angen meddyginiaeth ar gyfer mân afiechydon plant fel peswch ac annwyd bob tro.

Os oes angen meddyginiaeth ar eich plentyn, mae'n bwysig eich bod yn defnyddio un sy'n addas ar gyfer ei oedran. Mae’n bwysig hefyd gwybod sut i'w roi yn ddiogel.

Paracetamol ac ibuprofen ar gyfer babanod a phlant

Mae paracetamol ac ibuprofen yn ddiogel ar gyfer trin poen a thwymyn mewn babanod a phlant. Mae'r ddau ar gael fel hylif ar gyfer plant ifanc.

Mae'n well dewis un heb siwgr. Mae meddyginiaeth sy'n cynnwys siwgr yn gallu niweidio dannedd eich plentyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y cryfder cywir ar gyfer oedran eich plentyn a’ch bod yn darllen y label yn ofalus ar gyfer y dos cywir. Gallwch chi hefyd ofyn i'ch fferyllydd am gyngor.

Mae'n syniad da storio un neu ddau o’r meddyginiaethau hyn mewn lle diogel gartref.

Pryd ydw i’n gallu rhoi paracetamol neu ibuprofen i fy mabi?

Gallwch chi roi paracetamol i blant dau fis oed neu'n hŷn ar gyfer poen neu dwymyn.

Gallwch chi roi ibuprofen i blant sy'n dri mis oed neu'n hŷn ac sy'n pwyso mwy na 5kg (11 pwys).

Os oes gan eich plentyn asthma, gofynnwch am gyngor gan eich meddyg teulu neu holwch eich fferyllydd cyn rhoi ibuprofen iddo.

Peidiwch â rhoi aspirin i blant o dan 16 oed neu eich bod wedi derbyn cyfarwyddyd i wneud hynny gan y doctor. Mae aspirin wedi’i gysylltu â salwch prin ond peryglus sef  Syndrom Reye.

Os ydych chi'n bwydo ar y fron, holwch eich ymwelydd iechyd, eich bydwraig neu eich meddyg teulu am gyngor cyn cymryd aspirin.

Gwrthfiotigau i blant

Gan amlaf, does dim angen gwrthfiotigau ar blant. Mae'r rhan fwyaf o heintiau plant yn cael eu hachosi gan firysau. Mae gwrthfiotigau'n trin afiechydon sydd wedi’u hachosi gan facteria, nid firysau.

Os yw eich plentyn yn cael gwrthfiotig gan feddyg ar gyfer haint bacteriol, efallai y bydd yn ymddangos yn well ar ôl dau neu dri diwrnod. Ond mae'n bwysig gorffen y cwrs cyfan bob tro er mwyn sicrhau bod y bacteria i gyd yn cael eu lladd.

Os nad ydych chi’n gorffen y cwrs cyfan, mae'r haint yn fwy tebygol o ddod yn ôl. Mae hefyd yn cynyddu'r risg y bydd y bacteria yn gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau yn y dyfodol.

Mae gwrthfiotig yn gweithio orau os ydych chi’n rhoi nhw i’r plentyn ar gyfnodau rheolaidd. Bydd eu rhoi i'ch plentyn ar yr un amser bob dydd yn eich helpu chi i gofio.

Rhoi meddyginiaeth i'ch plentyn

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod faint a pha mor aml i roi meddyginiaeth. Gallwch chi gofnodi manylion y feddyginiaeth yng Nghofnod Iechyd Personol eich plentyn (PCHR neu’r llyfr coch) i’ch helpu i gofio.

Darllenwch y label ar y botel yn ofalus pob tro. Cadwch at y dos a argymhellir. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, holwch eich fferyllydd, eich ymwelydd iechyd neu eich meddyg teulu.

Mae'r rhan fwyaf o feddyginiaethau i blant ifanc yn dod gyda chwistrell arbennig ar gyfer meddyginiaethau sy’n cael eu rhoi drwy’r geg (oral syringe).

Fe fydd y chwistrell hon yn mesur dos bychan o feddyginiaeth yn gywir. Mae hefyd yn ei gwneud hi’n haws rhoi'r meddyginiaethau i'ch plentyn.

Os nad ydych chi’n siŵr, holwch eich ymwelydd iechyd neu’r fferyllydd i egluro sut mae defnyddio'r chwistrell.

Gallwch chi hefyd wylio fideo o Ysbyty Great Ormond Street yn dangos Sut i ddefnyddio chwistrell geg.

Peidiwch byth â defnyddio llwy de o’r gegin i roi meddyginiaeth i'ch babi neu eich plentyn, oherwydd bod y llwyau yn gallu bod o wahanol faint.

Sgil-effeithiau meddyginiaethau

Bydd y daflen sy'n dod gyda'r feddyginiaeth yn rhestru sgil-effeithiau posibl.

Os ydych chi'n meddwl bod eich plentyn yn ymateb yn wael i feddyginiaeth - er enghraifft, gyda brech neu ddolur rhydd - siaradwch â'ch meddyg teulu, eich ymwelydd iechyd neu eich fferyllydd. Gyda'r nos neu ar benwythnosau gallwch ffonio GIG 111 Cymru.

Os ydych chi’n dymuno, gallwch roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau drwy Y Cynllun Cerdyn Melyn.

Gwnewch nodyn o enw'r feddyginiaeth yn llyfr coch y plentyn (cofnod iechyd) er mwyn gallu cyfeirio ato yn y dyfodol os bydd angen.

Ydych chi’n gallu cael meddyginiaethau plant dros y cownter am ddim?

Mae rhai fferyllfeydd gyda gwasanaeth mân anhwylderau ar gyfer anhwylderau penodol, fel peswch, annwyd, dolur rhydd a chwydu.

Dydy pob fferyllfa ddim yn cynnig gwasanaeth mân anhwylderau. Mae'r anhwylderau sy’n cael eu cynnwys dan y cynllun yn amrywio o ardal i ardal.

Awgrym neu ddau ar ddefnyddio meddyginiaethau yn ddiogel

  • Cofiwch edrych am y dyddiad sy’n dangos beth yw’r dyddiad olaf y gallwch ddefnyddio’r feddyginiaeth. Peidiwch â defnyddio meddyginiaethau y tu hwnt i’r dyddiad yma. Os oes gennych unrhyw feddyginiaeth yn y tŷ sydd wedi mynd heibio’r dyddiad dod i ben neu os nad oes ei angen ar eich plentyn bellach, ewch â nhw at eich fferyllydd i gael gwared arnyn nhw’n ddiogel.
  • Peidiwch byth â rhoi meddyginiaethau i'ch plentyn sydd wedi'u prynu neu wedi cael eu rhoi ar gyfer rhywun arall.
  • Cadwch bob meddyginiaeth allan o gyrraedd y plentyn ac o'r golwg bob amser.
  • Gofynnwch i'ch fferyllydd os bydd angen storio'r feddyginiaeth mewn ffordd arbennig fel ei gadw mewn oergell neu allan o olau’r haul.

Last Updated: 13/06/2023 10:13:13
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk