Gwybodaeth beichiogrwydd


Sbotio arwyddion o salwch difrifol

Mae’n gallu bod yn anodd dweud os ydy babi neu blentyn bach yn sâl iawn, ond y peth pwysicaf ydy trystio sut rydych chi’n teimlo.

Chi sy’n gwybod yn well na neb arall sut mae eich plentyn fel arfer, felly byddwch chi’n gwybod pan fydd rhywbeth mawr o’i le.

Arwyddion o salwch difrifol mewn babi neu blentyn bach

Dyma restr o arwyddion fod rhywbeth mawr o’i le:

Tymheredd

  • tymheredd uchel/gwres ond dwylo a thraed yn oer
  • tymheredd uchel/gwres sydd ddim yn dod i lawr gyda pharacetamol neu ibuprofen
  • tymheredd uchel neu isel iawn
  • mae eich plentyn yn teimlo’n boeth neu’n oer i gyffwrdd, neu mae’n crynu
  • mae eich plentyn yn dawel ac yn ddiegni, hyd yn oed heb dymheredd uchel/gwres
  • tymheredd uchel/gwres mewn babi llai nag 8 wythnos oed

Anadlu

  • anadlu’n gyflym neu’n fyr ei wynt
  • sŵn yn y gwddf wrth anadlu
  • cael trafferth anadlu a thynnu stumog i mewn o dan yr asennau (‘ribs’)

Arwyddion eraill

  • croen glas, gwelw, cochlyd, neu lwyd
  • mae’n anodd deffro eich plentyn, neu mae’n edrych yn annifyr neu wedi drysu
  • mae eich babi’n crio’n aml a dydych chi ddim yn gallu ei gysuro na thynnu ei sylw, neu dydy o ddim yn gwneud yr un sŵn ag arfer
  • chwd gwyrdd
  • cael ffit am y tro cyntaf
  • dydy eich plentyn ddim eisiau bwydo ac o dan 8 wythnos oed
  • cewynnau sychach nag arfer – mae hyn yn arwydd o beidio yfed digon (‘dehydration’)

Os oes gan eich plentyn unrhyw un o’r arwyddion hyn, gofynnwch am help meddygol yn syth:

  • yn y dydd, dydd Llun i ddydd Gwener – ffoniwch eich meddyg teulu
  • yn y nos ac ar benwythnosau – ffoniwch GIG 111 Cymru
  • os ydy eich babi o dan 6 mis oed, mae’n anodd i feddyg neu nyrs asesu dros y ffôn – ewch i ganolfan gofal brys (galw i mewn) neu os ydych chi’n poeni’n fawr, mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys (A&E)

Pryd i ffonio ambiwlans

Ffoniwch 999 am ambiwlans os yw eich plentyn:

  • yn stopio anadlu
  • ddim yn deffro
  • â brech smotiog, porffor-goch yn unrhyw le ar y corff sydd ddim yn mynd pan fyddwch chi’n pwyso gwydr ar y croen – gall hyn fod yn arwydd o wenwyn gwaed (septisemia)
  • o dan 8 wythnos oed ac rydych yn poeni’n fawr
  • yn cael ffit am y tro cyntaf, hyd yn oed os yw’n edrych yn well wedyn
  • yn cael adwaith alergaidd difrifol (anaffylacsis)
  • os ydych yn meddwl bod rhywun wedi brifo eich babi yn ddifrifol

Unwaith eto, gwnewch beth sy’n teimlo’n iawn i chi. Rydych chi’n nabod eich plentyn ac yn gwybod beth sy’n normal a beth sy’n wahanol, neu os oes rhywbeth yn eich poeni am iechyd eich plentyn.

Sylwi ar arwyddion salwch plant

Dysgwch arwyddion salwch difrifol mewn plant:


Last Updated: 27/06/2023 10:53:15
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk