Problemau cwsg mewn plant
Mae llawer o blant bach yn cael trafferth setlo i gysgu ac yn deffro yn y nos.
Efallai na fydd hyn yn broblem i rai pobl ond os ydych chi neu eich plentyn yn methu cysgu, dyma bethau syml y gallwch chi drïo wneud i helpu.
Mae pob plentyn yn wahanol, felly gwnewch beth sy’n gyfforddus i chi a beth fydd yn gweithio i’ch plentyn.
Plentyn ddim eisiau mynd i’r gwely
- Penderfynwch faint o’r gloch rydych chi eisiau i’ch plentyn fynd i’r gwely.
- Dechreuwch gael ‘amser gwely tawel’ cyn mynd i’r gwely, 20 munud cyn amser cysgu eich plentyn. Gwnewch hyn 5 i 10 munud yn gynt bob wythnos – neu 15 munud os ydy eich plentyn yn arfer mynd i’r gwely yn hwyr iawn – nes i chi gyrraedd yr amser gwely rydych chi eisiau i’ch plentyn.
- Penderfynwch faint o amser rydych chi am dreulio gyda’ch plentyn wrth ei roi yn y gwely, e.e. darllen dim ond 1 stori, tycio’ch plentyn ac wedyn dweud ‘nos da’.
- Rhowch hoff degan, dymi (os ydych chi'n defnyddio un) neu blanced gysur (‘comforter’) cyn i’ch plentyn fynd i’r gwely.
- Gadewch golau gwan ymlaen os oes angen.
- Os bydd eich plentyn yn codi, ewch ag o’n ôl i’r gwely heb wneud ff?s.
- Trïwch wneud yr un fath bob tro – bod yn gyson.
- Gwnewch y rwtîn yma am fwy nag un noson er mwyn i’ch plentyn arfer.
Plentyn sy’n methu mynd i gysgu heb dad neu mam
Gall y ‘tips’ yma helpu plant bach (dros 1 oed) neu blant hŷn i arfer mynd i gysgu heb riant yn y llofft.
Gallwch wneud hyn hefyd os bydd eich plentyn yn deffro ynghanol y nos.
Byddwch yn barod i’ch plentyn gymryd amser hir i setlo y tro cyntaf fyddwch chi’n gwneud hyn.
Gallwch chi anwesu eich plentyn â’ch llaw yn lle rhoi cusan/sws os yw eich plentyn yn cysgu mewn crud ac yn anodd ei gyrraedd i roi cusan.
- Dilynwch y rwtîn ‘amser gwely tawel’.
- Rhowch eich plentyn yn y gwely pan fydd yn gysglyd ond yn effro. Yna, rhowch gusan i’ch plentyn a dweud ‘nos da’.
- Dywedwch y byddwch chi’n mynd yn ôl mewn ychydig funudau i roi cusan arall iddo.
- Ewch yn ôl bron yn syth i roi cusan.
- Cerddwch at y drws, yna ewch yn ôl eto i roi cusan.
- Dywedwch y byddwch chi’n mynd yn ôl mewn ychydig funudau i roi cusan arall iddo.
- Tacluswch neu gwnewch rywbeth yn yr ystafell, yna rhowch gusan iddo.
- Daliwch i fynd yn ôl i roi mwy o gusanau cyn belled â bod y plentyn yn aros yn y gwely.
- Gwnewch rywbeth y tu allan i’r ystafell a mynd yn ôl i roi cusan.
- Os ydy’r plentyn yn dod allan o’r gwely, dywedwch: “Yn ôl i’r gwely a bydda i’n rhoi cusan i ti”.
- Ewch yn ôl yn aml i roi cusan nes ei fod yn cysgu.
- Gwnewch hyn bob tro y bydd eich plentyn yn deffro yn ystod y nos.
‘Tips’ cysgu eraill i blant dan 5 oed
- Gwnewch yn siŵr bod rwtîn ‘amser gwely tawel’ yn digwydd ar yr un amser gyda’r un pethau’n digwydd bob nos.
- Os bydd eich plentyn yn cwyno ei fod yn llwglyd, rhowch bowlen o rawnfwyd (‘cereal’) a llaeth iddo cyn mynd i’r gwely (a chofio brwsio dannedd wedyn).
- Os oes gan eich plentyn ofn tywyllwch, defnyddiwch olau bach neu adael golau pen staer ymlaen.
- Peidiwch â gadael i’ch plentyn edrych ar liniadur (‘laptop’), tabled na ffôn yn yr awr cyn mynd i’r gwely – mae golau sgrin yn gallu styrbio cwsg.
- Os bydd eich plentyn yn deffro yn y nos, byddwch mor ddiflas â phosibl – peidiwch â rhoi’r golau ymlaen, edrych yn llygaid eich plentyn na siarad mwy nag sydd ei angen.
- Ceisiwch osgoi cwsg hir yn y prynhawn.
Helpu plentyn anabl i gysgu
Weithiau, mae plant sydd â salwch neu anableddau tymor hir yn ei chael hi’n anodd cysgu drwy’r nos. Mae hyn yn gallu bod yn anodd i’ch plentyn ac i chi.
Mae gan wefan Contact a Scope fwy o wybodaeth am sut i helpu plentyn anabl i gysgu.
Mwy o help gyda phroblemau cysgu plant
Mae angen cael amynedd, rwtîn a dal ati ond mae’n bosibl ateb problemau cysgu y rhan fwyaf o blant.
Os ydy eich plentyn yn dal i gael problemau cysgu, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd.
Efallai y bydd gan eich ymwelydd iechyd syniadau eraill neu efallai y bydd yn awgrymu gwneud apwyntiad mewn clinig cysgu i blant, os oes un yn lleol.
Last Updated: 27/06/2023 11:25:08
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by

NHS website
nhs.uk