Sterileiddio poteli
Mae’n bwysig diheintio offer bwydo eich babi (poteli a thethau ac ati) nes bod y babi yn 1 oed o leiaf.
Bydd hyn yn helpu eich babi rhag mynd yn sâl, yn enwedig dolur rhydd (‘diarrhoea’) a chwydu.
Cyn diheintio, mae’n bwysig:
- Golchi poteli, tethau ac offer bwydo mewn dŵr poeth a sebon cyn gynted â phosibl ar ôl bwydo’ch babi.
- Defnyddio brwsh potel glân i olchi poteli (defnyddiwch y brwsh yma i lanhau dim ond poteli) a brwsh tethau bach i olchi’r tu mewn i’r tethau. Gallwch chi hefyd droi tethau tu chwith allan ac wedyn eu golchi mewn dŵr poeth a sebon. Peidiwch â defnyddio halen i lanhau tethau – mae hynny’n gallu bod yn beryglus i’ch babi.
- Rinsiwch bopeth mewn dŵr glân, oer cyn eu diheintio.
Rhoi offer bwydo eich babi yn y peiriant golchi llestri os ydy hynny’n well gennych. Mae rhoi offer bwydo yn y peiriant golchi llestri yn golchi ond ddim yn diheintio. Gwnewch yn siŵr bod poteli, caeadau a thethau ar ben i lawr. Efallai bod yn well gennych olchi tethau ar wahân â llaw i wneud yn siŵr eu bod yn gwbl lân.
Mae gwneud hyn yn bwysig gyda holl offer bwydo eich babi, os ydych chi’n defnyddio llaeth sydd wedi’i dynnu o’r fron neu laeth fformiwla.
Sut i ddiheintio (‘sterilise’) offer bwydo babis
Mae llawer ffordd o ddiheintio offer bwydo babi, e.e.:
- hylif diheintio dŵr oer
- diheintio gyda stêm
- berwi
Hylif diheintio dŵr oer
- Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr (‘manufacturer’s instructions’).
- Gadewch yr offer bwydo yn yr hylif diheintio am o leiaf 30 munud.
- Newidiwch yr hylif diheintio bob 24 awr.
- Gwnewch yn siŵr does dim swigod aer yn y poteli neu’r tethau wrth eu rhoi nhw yn yr hylif diheintio.
- Defnyddiwch gaead i gadw’r offer o dan yr hylif.
Diheintio gyda stêm (peiriant diheintio trydan neu ficrodon)
- Mae’n bwysig dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr am fod sawl math gwahanol o beiriannau diheintio.
- Gwnewch yn siŵr bod ceg y poteli a’r tethau ar ben i lawr yn y peiriant diheintio.
- Mae cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yn dweud pa mor hir y gallwch chi adael pethau yn y peiriant diheintio cyn bod rhaid eu diheintio eto.
Diheintio trwy ferwi
- Gwnewch yn siŵr ei bod yn saff diheintio eich offer bwydo trwy ferwi.
- Berwch yr offer bwydo mewn llond sosben fawr o ddŵr am o leiaf 10 munud, gan wneud yn siŵr bod popeth yn aros o dan wyneb y dŵr.
- Gosodwch larwm er mwyn cofio diffodd y gwres.
- Cofiwch fod tethau’n gallu difetha’n gyflym wrth ddiheintio fel hyn. Gwnewch yn siŵr fod y tethau a’r poteli heb rwygo, cracio na thorri.
Ar ôl i chi orffen diheintio
- Mae’n well gadael poteli a thethau yn y diheintydd neu’r sosban nes bod angen bwydo.
- Os ydych chi’n eu tynnu nhw allan, rhowch y tethau a’r caeadau ar y poteli yn syth.
- Golchwch a sychwch eich dwylo cyn trin offer wedi’i ddiheintio. Gwell byth ydy defnyddio gefel godi wedi’i diheintio (‘tongs’).
- Gosodwch y poteli ar rywle glân wedi’i ddiheintio, neu gaead y peiriant diheintio ar ei ben i lawr.
Last Updated: 07/06/2023 11:04:46
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by

NHS website
nhs.uk