Gwybodaeth beichiogrwydd


Gwneud fformiwla babanod i fyny

Mae hylendid da yn bwysig iawn wrth gymysgu fformiwla llaeth i fabis.

Dydy system imiwnedd eich babi ddim mor gryf â system imiwnedd oedolyn. Dyna pam mae angen golchi a sterileiddio poteli, tethi ac unrhyw offer bwydo arall cyn bwydo’ch babi.

Bydd hyn yn lleihau'r siawns y bydd eich babi'n cael haint, yn enwedig dolur rhydd a chwydu.

Canllaw cam wrth gam i baratoi llaeth fformiwla

  • Cam 1: Llenwwch y tegell gydag o leiaf 1 litr o ddŵr tap ffres (peidiwch â defnyddio dŵr sydd wedi'i ferwi o'r blaen).
  • Cam 2: Berwch y dŵr. Yna gadewch y dŵr i oeri am ddim mwy na 30 munud, fel ei fod yn aros ar dymheredd o 70°C o leiaf.
  • Cam 3: Glanhewch a diheintiwch (sterilise) yr arwyneb rydych chi'n mynd i'w ddefnyddio.
  • Cam 4: Mae'n bwysig eich bod yn golchi eich dwylo.
  • Cam 5: Os ydych chi'n defnyddio diheintydd dŵr oer, ysgwydwch unrhyw hydoddiant (solution) dros ben o'r botel a'r deth, neu eu rinsio gyda dŵr wedi'i ferwi a’i oeri o'r tegell (nid dŵr tap).
  • Cam 6: Rhowch y botel ar yr arwyneb glân, sydd wedi'i ddiheintio.
  • Cam 7: Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a thywallt faint o ddŵr sydd ei angen arnoch chi i mewn i'r botel. Gwiriwch ddwywaith fod lefel y dŵr yn gywir. Rhowch y dŵr yn y botel yn gyntaf bob amser, tra mae'n dal yn boeth, cyn ychwanegu'r powdr fformiwla.
  • Cam 8: Llenwch y sgŵp gyda phowdr fformiwla, yn ôl cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, yna ei lefelu gan ddefnyddio naill ai ymyl gwastad cyllell lân, sych neu'r lefelwr a ddaeth gyda’r powdr fformiwla. Mae gwahanol duniau o fformiwla yn dod gyda sgwpiau gwahanol. Gwnewch yn siŵr eich bod ond yn defnyddio'r sgŵp sy'n dod gyda'r fformiwla.
  • Cam 9: Gan ddal ymyl y deth, rhowch hi ar y botel. Yna sgriwiwch y cylch cadw ar y botel.
  • Cam 10: Gorchuddiwch y deth gyda'r cap ac ysgwyd y botel nes bod y powdr wedi'i doddi.
  • Cam 11: Mae'n bwysig oeri'r fformiwla fel nad yw'n rhy boeth i'w yfed. Gwnewch hyn drwy ddal y botel (gyda'r caead ymlaen) o dan ddŵr oer.
  • Cam 12: Profwch dymheredd y fformiwla ar y tu mewn i'ch arddwrn cyn ei roi i'ch babi. Dylai fod yn dymheredd corff, sy'n golygu y dylai deimlo'n gynnes neu'n oer, ond nid yn boeth.
  • Cam 13: Os oes unrhyw laeth fformiwla ar ôl yn y botel ar ôl i chi fwydo’ch babi, taflwch ef i ffwrdd.

Defnyddio peiriant paratoi fformiwla babi

Os ydych chi'n defnyddio peiriant paratoi fformiwla babanod, dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Sicrhewch fod y dŵr sy'n dod allan o'r peiriant o leiaf 70C pan gaiff ei gymysgu â'r powdr fformiwla. Gallwch ddefnyddio thermomedr bwyd digidol i wirio hyn. Bydd dŵr ar dymheredd o 70C neu fwy yn lladd unrhyw facteria niweidiol.

Os yw'r dŵr yn llai na 70C, rhowch y gorau i ddefnyddio'r peiriant a dilynwch y canllaw cam wrth gam i baratoi porthiant fformiwla yn lle hynny.

Efallai y byddwch hefyd am gysylltu â’r gwneuthurwr, eich swyddfa Safonau Masnach leol neu Cyngor ar Bopeth i roi gwybod am nam ar eich peiriant.

Pethau i’w gwneud a phethau i beidio â gwneud wrth gymysgu llaeth fformiwla

  • Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr yn ofalus iawn, gan eu bod yn amrywio o ran faint o ddŵr a phowdr i'w ddefnyddio.
  • Peidiwch ag ychwanegu powdr fformiwla ychwanegol wrth i chi baratoi potel o laeth fformiwla. Gall hyn wneud eich babi'n rhwym neu'n ddadhydredig. Efallai na fydd digon o bowdr yn rhoi digon o faeth i'ch babi.
  • Peidiwch ag ychwanegu siwgr na grawnfwydydd at fformiwla eich babi.
  • Peidiwch byth â chynhesu fformiwla mewn microdon, gan y gallai gynhesu'r llaeth yn anwastad a llosgi ceg eich babi.

Lleihau'r risg o haint

Hyd yn oed pan fydd tuniau a phecynnau o fformiwla powdr babanod wedi’u selio, maen nhw weithiau yn gallu cynnwys bacteria.

Mae bacteria yn cynyddu’n gyflym iawn ar dymheredd ystafell. Hyd yn oed pan fydd y llaeth fformiwla yn cael ei gadw mewn oergell, gall bacteria barhau i oroesi a chynyddu, er yn arafach.

Er mwyn lleihau'r risg o haint, mae'n well gwneud poteli o laeth fformiwla un ar y tro, pan fydd eich babi ei angen.

Defnyddiwch ddŵr yfed wedi'i ferwi'n ffres o'r tap i wneud llaeth fformiwla. Peidiwch â defnyddio dŵr wedi'i feddalu'n artiffisial neu ddŵr sydd wedi'i ferwi o'r blaen.

Gadewch y dŵr i oeri yn y tegell am ddim mwy na 30 munud. Yna bydd yn aros ar dymheredd o 70°C o leiaf. Bydd dŵr ar y tymheredd hwn yn lladd unrhyw facteria niweidiol.

Cofiwch adael i'r bwyd oeri cyn i chi ei roi i'ch babi. Neu gallwch ddal y botel (gyda'r caead ymlaen) o dan ddŵr oer o'r tap.

Peidiwch â defnyddio dŵr potel i wneud llaeth fformiwla

Dydy defnyddio dŵr potel i wneud llaeth fformiwla babanod ddim wedi’i argymell gan nad yw wedi’i sterileiddio ac mae’n gallu cynnwys gormod o halen (sodiwm) neu sylffad.

 


Last Updated: 10/05/2024 10:00:11
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk