Mynd yn ôl i waith
Mae bwydo ar y fron yn unig yn cael ei argymell (gan roi dim bwyd a diod arall i'ch babi) am tua'r chwe mis cyntaf. Ar ôl yr amser hwn, mae bwydo ar y fron yn cael ei argymell ochr yn ochr â bwydydd solet. Felly, mae'n debygol y byddwch chi’n bwydo ar y fron pan fyddwch chi’n dychwelyd i'r gwaith, hyfforddiant neu addysg.
Efallai bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu. Mae sawl opsiwn. Gallwch chi:
- drefnu bod gofal plant yn agos i'r gwaith neu'r coleg, fel y gallwch chi fwydo ar y fron yn ystod egwyl, neu cyn ac ar ôl gwaith. Mae bwydo eich babi yn y nos yn gallu bod yn ffordd wych i chi ymlacio gyda'ch babi ar ôl gwaith neu’r coleg.
- Tynnu llaeth o'r fron (tynnu llaeth o'r fron â llaw neu ddefnyddio pwmp) fel y bydd rhywun arall yn gallu bwydo'ch babi tra byddwch chi yn y gwaith.
- Gofynnwch i'ch cyflogwr neu’r coleg am oriau gwaith hyblyg sy'n cael eu trefnu o amgylch eich anghenion bwydo ar y fron.
- Cyfuno bwydo ar y fron â bwydo potel i gyd-fynd â’ch oriau gwaith.
Meddyliwch amdano'n gynnar. Cyn i chi fynd yn ôl i'r gwaith, ysgrifennwch at eich cyflogwr/tiwtor i roi gwybod iddyn nhw eich bod yn bwydo ar y fron. Efallai bod adran Adnoddau Dynol sy’n gallu eich helpu. Maen nhw’n gallu gwneud paratoadau, fel dod o hyd i ystafell breifat lle rydych chi’n gallu bwydo ar y fron neu dynnu’ch llaeth.
Trefnu bwydo ar y fron a gwaith
- Labelwch a rhoi dyddiad ar y llaeth rydych chi wedi’i dynnu o’r fron cyn ei roi yn yr oergell neu'r rhewgell, fel bod eich gwarchodwr plant yn gwybod pa un i'w ddefnyddio gyntaf.
- Cael treial gyda’ch gofalwr plant cyn dychwelyd i'r gwaith.
- Os ydych chi'n defnyddio llaeth o fewn pum niwrnod i’w dynnu, mae'n well ei storio yn yr oergell nag yn y rhewgell. Mae hyn yn golygu y gellwch chi fynd â llaeth a dynnir yn y gwaith ar ddydd Gwener adref a'i storio yn eich oergell i'w ddefnyddio ar ddydd Llun. Darllenwch fwy am storio llaeth y fron.
Gwybodaeth i gyflogwyr am famau sy'n bwydo ar y fron
Mae gan gyflogwyr rai rhwymedigaethau cyfreithiol (legal obligations) i famau sy'n bwydo ar y fron. Mae cefnogi bwydo ar y fron yn dod â manteision busnes hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys:
- llai o absenoldeb oherwydd salwch plant (mae babis sy'n bwydo ar y fron yn iachach ar y cyfan)
- morâl da a theyrngarwch staff, a chyfradd uwch o ddychwelyd i'r gwaith wedi hynny
- costau recriwtio a hyfforddi is
- cymhelliant ychwanegol i’w gynnig i ddarpar weithwyr
Sut gall cyflogwyr helpu mamau sy'n bwydo ar y fron?
Gall cyflogwyr gael polisi i gefnogi bwydo ar y fron. Mae hyn yn cynnwys:
- yr hawl i famau gael egwyl i dynnu llaeth
- darparu ystafell lân, gynnes a phreifat (nid y toiled) ar gyfer tynnu llaeth
- oergell ddiogel, lân i storio llaeth wedi'i dynnu
- oriau gwaith hyblyg i famau sy'n bwydo ar y fron
Rhoi gwybod i'ch gweithwyr am eich polisi cyn iddyn nhw ddechrau ar eu cyfnod mamolaeth.
Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud am famau sy'n bwydo ar y fron yn y gwaith?
Mater i famau yw penderfynu pa mor hir y maen nhw am fwydo ar y fron. Dydy dychwelyd i'r gwaith ddim yn golygu bod yn rhaid i fam stopio bwydo ar y fron. Cyn dychwelyd i'r gwaith, dylai hi roi hysbysiad ysgrifenedig i'w chyflogwr ei bod yn bwydo ar y fron. Yna, rhaid i'w chyflogwr gynnal asesiad risg penodol.
Mae rheoliadau yn y gweithle yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ddarparu cyfleusterau addas lle gall mamau beichiog a mamau sy'n bwydo ar y fron orffwys.
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn argymell ei bod yn arfer da i gyflogwyr ddarparu amgylchedd preifat, iach a diogel i famau sy'n bwydo ar y fron dynnu a storio llaeth. Dydy'r toiledau ddim yn lle addas i dynnu llaeth o'r fron.
Mae mwy o gyngor ar gael i famau newydd a menywod beichiog ar y Wefan HSE neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0300 003 1747.
Last Updated: 27/06/2023 13:34:08
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by

NHS website
nhs.uk