Cyfley llaeth o'r fron
Mae tynnu llaeth yn golygu gwasgu llaeth allan o'ch bron fel y gallwch chi ei storio a'i fwydo i'ch babi yn nes ymlaen.
Efallai y byddech chi eisiau tynnu llaeth os:
- oes rhaid i chi fod i ffwrdd o'ch babi, er enghraifft, oherwydd bod eich babi mewn gofal arbennig neu oherwydd eich bod yn mynd yn ôl i'r gwaith
- bydd eich bronnau'n teimlo'n anghyfforddus (yn orlawn)
- nid yw eich babi'n gallu sugno'n dda ond rydych yn dal i fod eisiau rhoi llaeth o'r fron iddo
- yw eich partner yn mynd i helpu gyda bwydo eich babi
- os ydych am roi hwb i'ch cyflenwad llaeth
Sut ydw i'n tynnu llaeth?
Rydych chi’n gallu tynnu llaeth â llaw neu gyda phwmp bron. Bydd pa mor aml y byddwch chi’n tynnu llaeth, a faint yr ydych yn ei dynnu, yn dibynnu ar pam yr ydych yn ei wneud.
Weithiau mae'n cymryd ychydig o amser i laeth ddechrau llifo. Ceisiwch ddewis amser pan fyddwch chi'n teimlo wedi ymlacio. Mae cael eich babi (neu lun ohono) gerllaw yn gallu helpu eich llif llaeth.
Efallai y byddwch chi’n ei chael yn haws tynnu llaeth yn y bore, pan fydd eich bronnau weithiau'n gallu teimlo'n llawnach.
Tynnu llaeth o'r fron â llaw
Efallai y bydd yn haws i chi dynnu llaeth â llaw na defnyddio pwmp, yn enwedig yn ystod y dyddiau cyntaf. Mae hefyd yn golygu fydd ddim rhaid i chi brynu neu fenthyg pwmp, na dibynnu ar gyflenwad trydan.
Mae tynnu llaeth â llaw yn eich galluogi i annog llaeth i lifo o ran benodol o'r fron. Mae hyn yn gallu bod yn ddefnyddiol, er enghraifft, os bydd un o'r dwythellau llaeth (milk ducts) yn eich bron yn cael ei rhwystro.
Daliwch botel neu gynhwysydd bwydo wedi'i sterileiddio o dan eich bron i ddal y llaeth wrth iddo lifo.
Gallai'r awgrymiadau canlynol helpu:
- Cyn i chi ddechrau, golchwch eich dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr cynnes.
- Mae rhai mamau’n gweld bod tylino eu bronnau’n dyner cyn tynnu eu llaeth yn helpu i’r llaeth lifo.
- Daliwch eich bron gydag un llaw yna, gyda'ch llaw arall, ffurfiwch siâp "C" gyda'ch mynegfys a'ch bawd.
- Gwasgwch yn dyner, gan gadw eich bys a'ch bawd ger yr ardal dywyll o amgylch eich teth (areola) ond nid arni (peidiwch â gwasgu'r deth ei hun fel y gallech chi ei gwneud yn ddolurus). Ddylai hyn ddim eich brifo.
- Rhyddhewch y pwysau, yna ailadroddwch, gan adeiladu rhythm. Ceisiwch beidio â llithro eich bysedd dros y croen.
- Dylai diferion ddechrau ymddangos, ac yna mae eich llaeth fel arfer yn dechrau llifo.
- Os nad oes diferion yn ymddangos, ceisiwch symud eich bys a'ch bawd ychydig, ond daliwch i osgoi'r ardal dywyllach.
- Pan fydd y llif yn arafu, symudwch eich bysedd o amgylch i ran wahanol o'ch bron, ac ailadroddwch.
- Pan fydd y llif o un fron wedi arafu, newidiwch i'r fron arall. Daliwch ati gan newid bronnau nes bod eich llaeth yn diferu'n araf iawn neu'n stopio'n gyfan gwbl.
Tynnu llaeth gyda phwmp bron
Mae dau fath gwahanol o bwmp bron: llaw (wedi'i weithredu â llaw) a thrydan.
Mae pympiau gwahanol yn addas i wahanol fenywod, felly gofynnwch am gyngor neu edrychwch a allwch chi roi cynnig ar un cyn i chi ei brynu.
Mae pympiau llaw yn rhatach ond efallai na fyddan nhw mor gyflym ag un trydan.
Efallai y byddwch chi’n gallu llogi pwmp trydan. Bydd eich bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch cefnogwr bwydo ar y fron lleol yn gallu rhoi manylion i chi am wasanaethau llogi pwmp yn eich ardal.
Rydych chi’n gallu newid cryfder y sugnad ar rai pympiau trydan. Dechreuwch yn araf. Mae gosod y cryfder i'r lefel uwch yn syth yn gallu bod yn boenus neu’n gallu niweidio eich teth.
Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu cael gwahanol feintiau o dwndis i ffitio'ch tethau. Ddylai’r pwmp byth achosi cleisio na dal eich teth wrth iddi gael ei sugno i mewn i’r twndis.
Gwnewch yn siŵr bob amser bod y pwmp a'r cynhwysydd yn lân ac yn cael eu sterileiddio cyn i chi eu defnyddio.
Storio llaeth y fron
Rydych chi’n gallu storio llaeth y fron mewn cynhwysydd wedi'i sterileiddio neu mewn bagiau storio llaeth y fron arbennig:
- yn yr oergell am hyd at bum diwrnod ar 4°C neu'n is (rydych chi’n gallu prynu thermomedrau oergell rhad ar-lein)
- am bythefnos yn adran iâ oergell
- am hyd at chwe mis mewn rhewgell
Gallwch chi gario llaeth y fron sydd wedi'i oeri yn yr oergell mewn bag oer gyda phecynnau iâ am hyd at 24 awr.
Bydd storio llaeth y fron mewn meintiau bach yn helpu i osgoi gwastraff. Os ydych chi'n ei rewi, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei labelu a'i ddyddio'n gyntaf.
Dadrewi llaeth y fron wedi’i rewi
Mae llaeth y fron sydd wedi'i rewi yn dal yn dda i'ch babi ac mae'n well na llaeth fformiwla.
Mae'n well dadrewi llaeth wedi'i rewi'n araf yn yr oergell cyn ei roi i'ch babi. Os oes angen i chi ei ddefnyddio ar unwaith, gallwch ei ddadrewi drwy ei roi mewn jwg o ddŵr cynnes neu ei ddal o dan ddŵr cynnes.
Unwaith y bydd wedi'i ddadrewi, defnyddiwch y llaeth ar unwaith. Peidiwch ag ail-rewi llaeth sydd wedi'i ddadrewi.
Cynhesu llaeth y fron
Rydych chi’n gallu bwydo llaeth wedi'i dynnu yn syth o'r oergell os yw eich babi'n hapus i'w yfed yn oer. Neu rydych chi’n gallu cynhesu'r llaeth i dymheredd y corff drwy osod y botel mewn dŵr llugoer (lukewarm).
Peidiwch â defnyddio microdon i gynhesu neu ddadrewi llaeth y fron gan y gall achosi mannau poeth, sy’n gallu llosgi ceg eich babi.
Llaeth y fron os yw eich babi yn yr ysbyty
Os ydych chi'n tynnu ac yn storio llaeth y fron oherwydd bod eich babi'n gynamserol neu'n sâl, gofynnwch i staff yr ysbyty sy'n gofalu am eich babi am gyngor ar sut i'w storio.
Darllenwch fwy o wybodaeth am fwydo babi cynamserol neu fabi sâl .
Ydych chi’n cael trafferth yn tynnu llaeth y fron?
Os ydych yn ei chael hi'n anodd neu'n anghyfforddus i dynnu eich llaeth o'r fron:
- gofynnwch i'ch meddyg teulu, eich bydwraig neu’ch ymwelydd iechyd am gymorth Gallan nhw hefyd ddweud wrthych chi am gymorth bwydo ar y fron arall sydd ar gael yn eich ardal chi.
- Ffoniwch y Llinell Gymorth Bwydo ar y Fron Genedlaethol ar 0300 100 0212 (9.30am-9.30pm bob dydd).
Last Updated: 13/06/2023 11:39:28
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk