Gwybodaeth beichiogrwydd


Problemau bwydo o'r fron

Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau gyda bwydo ar y fron, mae'n bwysig gofyn am help gan eich bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch arbenigwr bwydo ar y fron cyn gynted â phosibl.

Wrth wneud hyn, mae’n bosibl datrys problemau fel tethau dolurus neu orlawnder y fron yn gynnar.

Dyma rai o'r problemau sy’n effeithio ar famau sy'n bwydo ar y fron weithiau, ynghyd ag awgrymiadau ar sut i fynd i'r afael â nhw.

Tethau poenus neu dethau wedi’u cracio

Mae tethau poenus yn fwyaf cyffredin tua thri i saith diwrnod ar ôl i chi ddechrau bwydo ar y fron.  Mae'n digwydd fel arfer oherwydd nad yw eich babi wedi’i leoli’n dda ac ymlynu â’r fron.

Mae'n bwysig cael help gan eich bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch arbenigwr bwydo ar y fron cyn gynted ag y gallwch chi gan y gall peidio â gwneud hyn wneud y poen a’r anesmwythder yn waeth.

Dim digon o laeth yn y fron

Pan fyddwch chi’n dechrau bwydo ar y fron am y tro cyntaf, efallai y byddwch chi’n poeni nad yw eich babi'n cael digon o laeth. Mae’n gallu cymryd ychydig o amser cyn i chi deimlo'n hyderus bod eich babi'n cael yr hyn sydd ei angen arno.

Bydd cynnig y ddwy fron i'ch babi bob tro rydych yn ei fwydo ac yn dechrau drwy gynnig bron wahanol bob tro yn helpu i ysgogi eich cyflenwad llaeth. Bydd cadw eich babi'n agos a’i ddal croen wrth groen yn helpu hefyd.

Gorlawnder y fron

Mae gorlawnder y fron yn digwydd pan fydd eich bronnau'n mynd yn rhy llawn llaeth. Efallai bod eich bronnau’n teimlo'n galed, yn dynn ac yn boenus.

Mae gorlawnder yn gallu digwydd yn y dyddiau cynnar pan fyddwch chi a'ch babi yn dal i ddod i arfer â bwydo ar y fron. Mae’n gallu cymryd ychydig ddyddiau i'ch cyflenwad llaeth gyd-fynd ag anghenion eich babi.

Mae gorlawnder yn gallu digwydd hefyd pan fydd eich babi'n hŷn ac nad yw’n bwydo mor aml, efallai pan fydd yn dechrau cael bwydydd solet. 

Nid yw'r babi'n cysylltu’n iawn

Mae bwydo ar y fron yn sgil y mae angen i chi a'ch babi ei dysgu gyda'ch gilydd. Efallai y bydd yn cymryd amser i'r ddau ohonoch ymgyfarwyddo â hyn.

Os ydy bwydo ar y fron yn boenus neu os nad yw eich babi yn fodlon ar ôl bwydo, efallai na fydd yn ymlynu’n iawn â’r fron.

Gormod o laeth y fron

O bryd i'w gilydd mae merched yn gwneud gormod o laeth y fron ac mae eu babanod yn ei chael hi'n anodd ymdopi.

Mae'n well cael eich bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch arbenigwr bwydo ar y fron i’ch gwylio’n bwydo eich babi i weld pam mae hyn yn digwydd. Gallan nhw hefyd ddangos gwahanol ffyrdd i chi i helpu'ch babi i ymdopi â llawer iawn o laeth.

Bwydo ar y fron a’r llindag (thrush)

Weithiau mae heintiau llindag yn digwydd pan fydd eich tethau wedi’u cracio neu eu niweidio. Mae hyn yn golygu y gall y ffwng candida sy'n achosi’r llindag fynd i mewn i'ch teth neu'ch bron.

Os ydych chi'n amau bod gennych chi neu'ch babi’r llindag, ewch i'ch ymwelydd iechyd neu'ch meddyg teulu.

Dwythell laeth wedi'i rhwystro

Os bydd gorlawnder y fron yn parhau, mae’n gallu arwain at ddwythell laeth wedi'i rhwystro. Efallai y byddwch yn teimlo lwmpyn bach, tendr yn eich bron.

Mae bwydo'n aml o'r fron sydd â’r lwmp yn gallu helpu. Os yw'n bosibl, rhowch eich babi gyda'i ên yn pwyntio tuag at y lwmp fel mae’n gallu bwydo o'r rhan honno o'r fron.

Mastitis

Mae mastitis (llid y fron) yn digwydd pan fydd dwythell laeth sydd wedi'i rhwystro ddim yn cael ei rhyddhau. Mae'n gwneud i'r fron deimlo'n boenus ac yn chwyddedig, a gall wneud i chi deimlo'n sâl iawn gyda symptomau tebyg i’r ffliw.

Mae'n bwysig parhau i fwydo ar y fron. Mae dechrau bwydo gyda'r fron dendr yn gallu helpu.

Os nad ydych chi’n well o fewn 12-24 awr, neu os ydych chi’n teimlo'n waeth, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'r gwasanaeth y tu allan i oriau gan efallai y bydd angen gwrthfiotigau arnoch chi.

Crawniad yn y fron

Os nad yw mastitis heintus yn cael ei drin, mae’n gallu arwain at grawniad yn y fron, ac efallai bydd angen llawdriniaeth arnoch chi i'w ddraenio.

Bwydo ar y fron a thafod clymu

Mewn tua 1 o bob 10 o fabanod, mae'r stribed o groen sy'n atodi'r tafod i lawr y geg yn fyrrach nag arfer. Enw hwn yw cwlwm tafod.

Mae’n ymddangos bod rhai babanod sydd â chwlwm tafod heb broblemau. Mewn eraill, mae tafod clymu yn gallu atal y tafod rhag symud yn rhydd, sy'n gallu ei gwneud yn anoddach i fabanod fwydo ar y fron.

Y newyddion da yw ei bod yn hawdd trin cwlwm tafod.


Last Updated: 25/05/2023 10:56:49
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk