Ydy fy mabi yn cael digon o laeth?
Bwydo ar y fron: ydy fy mabi yn cael digon o laeth?
Pan fyddwch chi’n dechrau bwydo ar y fron am y tro cyntaf, efallai fyddwch chi ddim yn siwr ydy’ch babi yn cael digon o laeth.
Mae’n gallu cymryd ychydig o amser i chi deimlo’n hyderus bod eich babi yn cael beth mae o angen.
Dim ond bwydo ar y fron (llaeth y fron a dim byd arall) ydy’r cyngor am tua chwe mis cyntaf bywyd eich babi. Mae rhoi llaeth potel yn lleihau faint o laeth y fron rydych chi’n ‘greu’ (‘produce’).
Darllenwch restr Unicef How can I tell if breastfeeding is going well? (PDF, 77kb) am fwy o help.
Arwydd fod eich babi yn cydio’n dda
- Ceg lydan a llond ceg fawr o’r fron.
- Gên sy’n cyffwrdd y fron, gyda’r wefus isaf wedi’i rholio i lawr (allwch chi ddim gweld hyn bob amser). Dydy’r trwyn ddim yn gwasgu yn erbyn y fron.
- Dim poen bronnau na thethi pan fydd y babi’n bwydo, er bydd y sugno yn teimlo’n gryf ar y dechrau efallai.
- Gallwch chi weld mwy o’r croen tywyll rownd eich teth (‘areola’) uwchben gwefus uchaf eich babi nag o dan ei wefus isaf.
Arwydd fod eich babi yn cael digon o laeth
- Dechrau bwydo drwy sugno’n gyflym ac wedyn sugno’n hir ac yn rhythmig. Llyncu gyda saib bob hyn a hyn.
- Gallwch glywed a gweld eich babi yn llyncu.
- Bochau sy’n aros yn grwn, nid yn wag, wrth sugno.
- Babi tawel, wedi ymlacio wrth fwydo.
- Dod oddi ar y fron ar ei ben ei hun ar ôl bwydo.
- Ceg sy’n edrych yn wlyb ar ôl bwydo.
- Babi sydd fel arfer yn edrych yn fodlon ar ôl gorffen bwydo.
- Mae eich bronnau’n teimlo’n feddalach ar ôl bwydo.
- Mae’r deth yn edrych yr un fath ar ôl bwydo – heb fflatio, cael ei phinsio nac yn wyn.
- Efallai y byddwch chi’n teimlo’n gysglyd ac wedi ymlacio ar ôl bwydo.
Arwyddion eraill fod eich babi yn bwydo’n dda
- Ennill pwysau fesul tipyn ar ôl y pythefnos cyntaf – mae’n normal i fabis golli ychydig o bwysau’r geni dros y pythefnos cyntaf.
- Babi sy’n edrych yn iach ac yn fywiog pan fydd yn effro.
- O ddiwrnod 4 ymlaen, gwneud o leiaf 2 pw-pw meddal, melyn, maint darn £2 bob dydd am yr wythnosau cyntaf.
- O ddiwrnod 5 ymlaen, gwlychu cewynnau’n amlach, o leiaf 6 o gewynnau trwm, gwlyb bob 24 awr. Yn y 48 awr cyntaf, mae’n debyg mai dim ond 2 neu 3 cewyn gwlyb fydd gan eich babi.
Mae’n anodd gwybod ydy cewyn paced (‘disposable’) yn wlyb. Felly, cymerwch gewyn glân a rhoi 2 i 4 llond llwy fwrdd o ddŵr arno. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o sut beth yw cewyn llawn.
Sut i gael digon o laeth yn y fron
- Gofynnwch i’ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu eich arbenigwr bwydo ar y fron edrych arnoch chi’n bwydo eich babi. Maen nhw’n gallu eich helpu i roi’r babi yn ei le er mwyn iddo ‘afael’ yn iawn yn y fron.
- Peidiwch â rhoi poteli o fformiwla i’ch babi am y 6 mis cyntaf, na dymi chwaith nes bod y babi wedi arfer bwydo ar y fron.
- Bwydwch o’r fron mor aml ac mor hir ag y mae’r babi eisiau.
- Ar ôl i’r babi arfer bwydo o’r fron, bydd gwasgu (‘express’) ychydig o laeth ar ôl bwydo yn help i wneud mwy o laeth.
- Rhowch y ddwy fron i’r babi bob tro a dechreuwch fwydo gyda bron wahanol bob yn ail.
- Byddwch y agos i’ch babi drwy’r amser a’i ddal croen wrth groen. Bydd hyn yn help i wybod bod eich babi’n barod i fwydo, cyn iddo ddechrau crio.
Pethau sy’n gallu effeithio ar laeth y fron
- Y babi ddim wedi cael ei osod yn iawn a ddim yn ‘gafael’ yn iawn yn y fron.
- Peidio â bwydo eich babi yn ddigon aml.
- Yfed alcohol ac ysmygu wrth fwydo ar y fron – mae’r ddau beth yn gallu amharu ar ‘greu’ llaeth.
- Llawdriniaeth ar y fron yn y gorffennol, yn enwedig os yw’r tethi wedi cael eu symud.
- Gorfod treulio amser oddi wrth eich babi ar ôl y geni, e.e. am ei fod wedi ei eni’n gynnar:
- Chi neu’r babi yn sâl.
- Rhoi poteli fformiwla neu ddymi i’ch babi cyn dysgu bwydo ar y fron yn iawn.
- Defnyddio gorchudd tethi – er, efallai mai dyma’r unig ffordd i fwydo eich babi â thethi dolurus ac mae’n well na rhoi’r gorau i fwydo.
- Rhai meddyginiaethau, e.e. dopamin, ergotamine a pyridocsin. Darllenwch fwy am fwydo ar y fron a meddyginiaethau.
- Gorbryder, straen neu iselder.
- Babi gyda chwlwm tafod (tongue tie) sy’n cael trafferth symud ei dafod.
Gyda help, mae’n bosibl cael ateb i’r problemau hyn. Os ydych chi’n poeni am faint o laeth mae eich babi yn ei gael, mae’n bwysig gofyn am help yn syth. Siaradwch gyda’ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu arbenigwr bwydo ar y fron – maen nhw’n gallu dweud hefyd sut i gael mwy o help.
Last Updated: 12/07/2023 10:36:36
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by

NHS website
nhs.uk