Gwybodaeth beichiogrwydd


Syniadau chwarae a darllen

Syniadau i helpu eich plentyn i chwarae a dysgu

Gallwch chi roi llawer o wahanol gyfleoedd i'ch plentyn chwarae, a does dim angen i hyn fod yn anodd nac yn ddrud.

  • edrych ar lyfrau a chanu caneuon a hwiangerddi gyda'ch plentyn. Mae'n hwyl a bydd yn ei helpu i ddatblygu sgiliau iaith a chyfathrebu
  • defnyddio pethau sydd gennych chi o amgylch y tŷ eisoes. Rhowch gynnig ar rai o'r syniadau isod
  • cymryd rhan yn y gweithgareddau eich hun. Bydd eich plentyn yn dysgu mwy gennych chi nag y bydd o unrhyw degan

Syniadau chwarae ar gyfer unrhyw oedran

Chwarae gyda dŵr

Mae babis, plant bach a phlant ifanc wrth eu boddau’n chwarae gyda dŵr – yn y bath, pwll padlo neu dim ond defnyddio'r sinc neu bowlen blastig.

Defnyddiwch boteli plastig i arllwys dŵr neu chwistrellu dŵr at eich gilydd. Defnyddiwch diwbiau plastig, sbwng, colandr, twndis, llwyau ac unrhyw beth arall nad oes modd ei dorri.

Peidiwch byth â gadael plentyn ifanc ar ei ben ei hun gyda dŵr. Mae babi neu blentyn ifanc yn gallu boddi mewn dim ond 5 centimetr (2 fodfedd) o ddŵr.

Darllen i'ch babi

Gallwch chi ddechrau edrych ar lyfrau gyda'ch babi o oedran cynnar – bydd yn ei helpu gyda dysgu yn y dyfodol. Mae'r amser rydych yn ei dreulio yn rhannu llyfrau gyda'ch babi hefyd yn eich galluogi i fondio gyda’ch gilydd ac mae'n dda ar gyfer llesiant emosiynol.

Hyd yn oed cyn i fabis ddysgu siarad, byddan nhw’n mwynhau eich clywed yn darllen iddyn nhw. Bydd gwrando arnoch chi yn rhoi ymdeimlad iddyn nhw am synau, rhythmau a rhigymau iaith. Mae hyd yn oed babi bach yn hoffi edrych ar lyfrau lluniau.

Fel arfer, mae gan lyfrgelloedd lleol ystod dda o lyfrau plant. Mae rhai yn cynnal sesiynau stori i blant ifanc. Hyd yn oed os yw am 10 munud y dydd yn unig, bydd edrych ar lyfrau gyda'ch plentyn yn ei helpu i feithrin sgiliau pwysig ac annog ei ddiddordeb mewn darllen.

Mae Booktrust yn cynnig pecynnau llyfrau Dechrau Da am ddim i bob plentyn 2 oed cyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol. Y nod yw helpu teuluoedd i fwynhau darllen gyda'i gilydd bob dydd a chael eich plentyn i ddechrau'n deg.

syniadau chware o 4 mis

Siaradwch a chanwch i'ch babi yn siriol wrth ei ddal. Gallwch hefyd roi teganau ger eich babi er mwyn iddo allu cyrraedd ato. Darllenwch ac edrychwch ar lyfrau babanod gyda'ch gilydd.

Syniadau chwarae o 18 mis

Tynnu lluniau a pheintio

Defnyddiwch greonau, pennau ffelt neu bowdr paent. Gallwch chi wneud powdr paent yn fwy trwchus drwy ychwanegu hylif golchi llestri a dŵr.

Yn gyntaf, dangoswch i'ch plentyn sut i ddal y creon neu'r brwsh paent. Os nad oes papur gennych chi, gallwch chi ddefnyddio cardbord o du mewn bocsys grawnfwyd neu hen amlenni sydd wedi'u torri ar agor.

Pypedau

Defnyddiwch sanau ac amlenni i wneud pypedau llaw. Tynnwch wynebau neu gludwch bethau arnyn nhw i wneud eich cymeriadau eich hun. Gofynnwch i'r pypedau "siarad" â'ch gilydd, neu i chi a'ch plentyn.

Cerdded

Anogwch eich plentyn i gerdded gyda chi (efallai y byddech chi eisiau defnyddio rêns er diogelwch) cyn gynted ag y mae’n gallu cerdded yn ddigon da. Efallai y bydd yn eich arafu, ond mae'n ffordd wych i'r ddau ohonoch chi gael rhywfaint o ymarfer corff.

Syniadau chwarae o 24 mis

Gwisgo i fyny

Casglwch hen hetiau, bagiau, menig, sgarffau, gŵn nos, darnau o ddeunydd, clytiau te a llenni. Gofynnwch i ffrindiau a pherthnasau neu ewch i ffeiriau sborion.

Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw gordiau, llinynnau na rhubanau rhydd a fyddai’n gallu lapio o amgylch gwddf eich plentyn neu ei faglu.

Mae platiau papur neu focsys grawnfwyd wedi'u torri i fyny yn gwneud masgiau da. Torrwch holltau ar gyfer y llygaid a'u hatodi i'ch wyneb gyda llinyn neu elastig.

Teledu ac amser sgrin

Mae'n well cyfyngu amser teledu dyddiol eich plentyn.

Dylech bob amser wybod beth mae eich plentyn yn ei wylio. Pan fo'n bosibl, gwyliwch gyda'ch plentyn, fel y gallwch chi siarad gyda'ch gilydd am yr hyn rydych chi'n ei wylio.

Syniadau chwarae o 30 mis

Modelau sbwriel

Casglwch focsys cardbord, cartonau, potiau iogwrt, caeadau poteli llaeth ac unrhyw beth arall y gallwch chi feddwl amdano. Prynwch lud plant (y math sy'n dod gyda brwsh yw'r hawsaf i'w ddefnyddio) a helpu’ch plentyn i wneud beth bynnag y mae’n ei hoffi.

Diogelwch teganau

Wrth brynu teganau, chwiliwch am nod barcud, marc llew neu farc CE y Safon Brydeinig, sy'n dangos bod y tegan yn bodloni safonau diogelwch. 

Byddwch yn ofalus wrth brynu teganau ail-law neu deganau o stondinau'r farchnad, oherwydd efallai na fydd y teganau hyn yn bodloni safonau diogelwch a gallan nhw fod yn beryglus.

Fel arfer, mae gan deganau rybuddion oedran arnyn nhw. Os yw tegan wedi'i farcio "Ddim yn addas ar gyfer plant o dan 36 mis oed", peidiwch â'i roi i fabi neu blentyn bach o dan 3 oed. Gwiriwch deganau ar gyfer ymylon miniog neu ddarnau bach y gallai eich plentyn eu llyncu.

Rhybudd batri botwm

Mae rhai teganau trydanol yn cynnwys batris bach crwn o'r enw batris botwm. Yn ogystal â bod yn berygl tagu, gall y rhain achosi llosgiadau mewnol difrifol os ydyn nhw’n cael eu llyncu neu eu rhoi yng nghlust neu drwyn eich plentyn.

Cadwch fatris botwm ymhell oddi wrth eich plentyn a gwnewch yn siŵr bod compartmentau batri ar deganau wedi'u diogelu'n iawn gyda sgriw. 

Os yw eich plentyn yn llyncu batri botwm, ewch ag ef i adran damweiniau ac achosion brys ar unwaith.

Teganau i blant ag anghenion arbennig

Dylai teganau ar gyfer plant ag anghenion arbennig gyfateb i'w hoedran a'u gallu datblygiadol.

Os yw eich plentyn yn defnyddio tegan sydd wedi’i ddylunio ar gyfer grŵp oedran iau, gwnewch yn siŵr ei fod yn ddigon cryf ac na fydd yn torri.

Bydd angen teganau ar blant â nam ar eu golwg gyda gweadau gwahanol i'w harchwilio gyda'u dwylo a'u cegau.

Bydd angen teganau ar blant sydd â nam ar eu clyw i ysgogi iaith, fel posau sy'n cynnwys paru llythrennau "wedi'u sillafu â bysedd" â lluniau priodol.

 


Last Updated: 12/07/2023 11:05:59
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk