Gwybodaeth beichiogrwydd


Golchi eich babi

Does dim angen i chi olchi eich babi bob dydd. Efallai y byddai'n well gennych chi olchi ei wyneb, ei wddf, ei ddwylo a'i ben ôl yn ofalus yn lle hynny. Yr enw Saesneg am hyn yw “topping and tailing”.

Dewiswch adeg pan fydd eich babi'n effro ac yn fodlon. Gwnewch yn siŵr bod yr ystafell yn gynnes. Gwnewch yn siŵr fod popeth yn barod ymlaen llaw. Bydd angen powlen o ddŵr cynnes, tywel, gwlân cotwm, cewyn/clwt ffres ac, efallai, ddillad glân arnoch chi.

‘Ymolchi eich babi - awgrym neu ddau 

Efallai y bydd y camau yma’n ddefnyddiol:

  • Daliwch eich babi ar eich pen-glin neu ei osod ar fat newid. Tynnwch ei ddillad i gyd, ar wahân i'w fest a'i gewyn/clwt, a'i lapio mewn tywel.
  • Dipiwch y gwlân cotwm i mewn yn y dŵr (gwnewch yn siŵr nad yw'r gwlân cotwm ddim yn mynd yn rhy wlyb) a glanhau’r babi yn ysgafn o amgylch y llygaid gan symud o'r trwyn tuag allan. Defnyddiwch ddarn ffres o wlân cotwm ar gyfer pob llygad. Mae hyn er mwyn i chi beidio â throsglwyddo unrhyw beth gludiog neu heintus o un llygad i'r llall.
  • Defnyddiwch ddarn ffres o wlân cotwm i lanhau o amgylch y clustiau, ond nid y tu mewn iddyn nhw. Peidiwch byth â defnyddio bud cotwm i lanhau y tu mewn i glustiau’r babi. Golchwch weddill y wyneb, y  gwddf a dwylo eich babi yn yr un ffordd a'i sychu'n ysgafn gyda'r tywel.
  • Tynnwch y cewyn/clwt oddi arno a golchwch y pen ôl a’r ardal o amgylch organau cenhedlu eich babi gyda gwlân cotwm ffres a dŵr cynnes. Sychwch yn ofalus iawn, gan gynnwys rhwng plygiadau'r croen, a rhoi cewyn/clwt glân ar eich babi.
  • Bydd hyn yn helpu’r babi i ymlacio os byddwch chi’n dal ati i siarad â golchi’r bychan. Po fwyaf y bydd eich babi yn clywed eich llais, y mwyaf y bydd yn dod i arfer â gwrando arnoch ac yn dechrau deall yr hyn rydych chi'n ei ddweud.

Rhoi bath i’ch babi'n ddiogel

Nid oes rhaid i chi roi bath i’ch babi bob dydd, ond os ydy’r babi wrth ei fodd ac yn mwynhau, does dim rheswm pam na ddylech chi wneud hynny.

Mae'n well peidio â rhoi bath i’ch babi yn syth ar ôl i chi ei fwydo neu pan fydd y babi yn llwglyd neu'n flinedig. Gwnewch yn siŵr bod yr ystafell lle rydych chi'n rhoi’r bath yn gynnes.

Gwnewch yn siŵr fod gennych bopeth sydd ei angen arnoch wrth law. Byddwch angen bath babi neu fowlen golchi llestri glân wedi'i llenwi â dŵr cynnes, dau dywel, cewyn/clwt glân, dillad glân a gwlân cotwm.

  • Dylai'r dŵr fod yn gynnes, nid yn boeth. Profwch y dŵr gyda'ch arddwrn neu'ch penelin a chymysgu’r dŵr yn dda fel nad oes unrhyw ddŵr poeth.
  • Daliwch eich babi ar eich pen-glin a glanhewch ei wyneb, fel y disgrifir uchod.
  • Nesaf, golchwch y gwallt gyda dŵr plaen, gan ddal y bychan uwchlaw’r bowlen.
  • Ar ôl i chi sychu ei wallt yn ysgafn, gallwch dynnu ei gewyn/clwt gan wneud yn siŵr bod pen ôl eich babi yn lân.
  • Rhowch eich babi'n ysgafn i mewn i'r bowlen neu'r bath gan ddefnyddio un llaw i ddal ei fraich uchaf a chefnogi ei ben a'i ysgwyddau.
  • Peidiwch ag ychwanegu unrhyw lanhawyr hylif i'r dŵr bath. Dŵr plaen sydd orau ar gyfer croen eich babi yn y mis cyntaf.
  • Cadwch ben eich babi'n glir o'r dŵr. Defnyddiwch y llaw arall i symud y dŵr dros eich babi yn ysgafn heb sblasio.
  • Peidiwch byth â gadael eich babi ar ei ben ei hun yn y bath, dim hyd yn oed am eiliad.
  • Codwch eich babi allan o’r bath a'i sychu, gan roi sylw arbennig i'r plygiadau yn y croen.
  • Mae hwn yn amser da i rwbio’r (massage) eich babi. Mae hyn yn gallu bod o help i’r plentyn i ymlacio a chysgu. Dylech chi osgoi defnyddio unrhyw olew neu hufen croen nes bod eich babi'n fis oed o leiaf.
  • Os ydy’r babi'n ymddangos yn ofnus o gael bath ac yn crïo, beth am roi tro ar gael bath gyda'ch gilydd. Gwnewch yn siŵr nad yw'r dŵr yn rhy boeth. Mae'n haws os bydd rhywun arall yn dal eich babi wrth i chi fynd i mewn ac allan o'r bath.

Torri ewinedd eich babi

Mae rhai babis yn cael eu geni ag ewinedd hir ac mae'n bwysig eu torri rhag ofn iddyn nhw grafu eu hunain. Gallwch chi brynu clipwyr ewinedd arbennig neu siswrn diogelwch bach, pen crwn. Os ydych chi’n teimlo’n nerfus am dorri ewinedd eich babi, rhowch gynnig ar eu ffeilio gyda  ffeil emeri (emery board) mân yn lle hynny.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 25/07/2023 07:45:09
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk