Gwybodaeth beichiogrwydd


Archwiliad corfforol

Mae pob rhiant yn cael cynnig archwiliad corfforol trylwyr o’u babi o fewn 72 awr ar ôl yr enedigaeth.

Mae'r archwiliad yn cynnwys profion sgrinio i ganfod a oes gan eich babi unrhyw broblemau gyda'i lygaid, ei galon, ei gluniau (hips) ac, mewn bechgyn, ceilliau.

Beth yw'r archwiliad corfforol newydd-anedig?

Fel arfer, mae’r archwiliad corfforol newydd-anedig yn cael ei wneud yn yr ysbyty cyn i chi fynd adref.

Weithiau mae'n cael ei wneud mewn ysbyty neu glinig cymunedol, meddygfa, canolfan blant neu gartref. Yn ddelfrydol, dylai'r ddau riant fod yno pan fydd yr archwiliad yn cael ei wneud.

Dylai'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gwneud yr arholiad egluro'r hyn y mae'n ei olygu. Gallai hyn fod yn feddyg, bydwraig, nyrs neu ymwelydd iechyd sydd wedi'i hyfforddi i wneud yr archwiliad.

Gall rhai rhannau o'r archwiliad fod ychydig yn anghyfforddus i'ch babi, ond ni fydd yn achosi unrhyw boen iddo.

Y nod yw nodi unrhyw broblemau'n gynnar fel y gellir dechrau triniaeth cyn gynted â phosibl. Fel arfer, does dim byd sy’n achosi pryder yn cael ei ddarganfod.

Os yw'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gwneud yr archwiliad yn dod o hyd i broblem bosibl, mae’n gallu atgyfeirio’ch babi am fwy o brofion.

Byddwch chi’n cael cynnig archwiliad corfforol arall i'ch babi yn 6 i 8 wythnos oed, gan y gall rhai o'r cyflyrau sy’n cael eu sgrinio yn cymryd amser i ddatblygu.

Mae'r ail archwiliad hwn fel arfer yn cael ei wneud yn eich meddygfa.

Sut mae'r archwiliad corfforol newydd-anedig yn cael ei wneud?

Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn rhoi archwiliad corfforol trylwyr i'ch babi.

Bydd hefyd yn gofyn cwestiynau i chi am sut mae eich babi'n bwydo, pa mor effro ydyw, ac am ei lesiant cyffredinol.

Bydd angen dadwisgo eich babi am ran o'r archwiliad.

Yn ystod yr archwiliad, bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol hefyd yn:

  • edrych i mewn i lygaid eich babi gyda thortsh arbennig i wirio sut mae ei lygaid yn edrych ac yn symud
  • gwrando ar galon eich babi i wirio synau ei galon
  • archwilio ei gluniau i wirio'r cymalau
  • archwilio bechgyn bach i weld a yw eu ceilliau wedi disgyn i'r sgrotwm

Am beth mae'r arholiad corfforol newydd-anedig yn chwilio?

Mae'r archwiliad yn cynnwys gwiriad corfforol cyffredinol, ynghyd â phedwar prawf sgrinio gwahanol.

Llygaid

Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwirio ymddangosiad a symudiad llygaid eich babi.

Maen nhw'n chwilio am gataractau, sy'n cymylu'r lens tryloyw y tu mewn i'r llygad, a chyflyrau eraill.

Mae tua 2 neu 3 o bob 10,000 o fabis yn cael eu geni â chataractau mewn un neu ddwy lygad sydd angen triniaeth.

Ond dydy’r archwiliad ddim yn gallu dweud wrthych chi pa mor dda mae eich babi yn gallu gweld.

Gweld sut mae cataractau'n cael eu diagnosio a'u trin.

Calon

Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gwirio calon eich babi. Mae hyn yn cael ei wneud drwy arsylwi ar eich babi, teimlo curiad eich babi, a gwrando ar ei galon gyda stethosgop.

Weithiau mae murmuriau'r galon (heart murmers) yn cael eu darganfod. Murmur calon yw lle mae gan guriad y galon sŵn ychwanegol neu anarferol sy’n cael ei achosi gan lif gwaed aflonydd drwy'r galon.

Mae murmuriau'r galon yn gyffredin mewn babis. Mae'r galon yn normal ym mron pob achos pan fydd murmur yn cael ei ganfod.

Ond mae gan tua 8 o bob 1,000 o fabis glefyd cynhenid y galon (congenital heart disease) sydd angen triniaeth.

Gweld mwy am ddiagnosis a thrin problemau gyda'r galon mewn babanod newydd-anedig.

Cluniau

Mae gan rai babis newydd-anedig gymalau clun sydd ddim wedi'u ffurfio'n iawn. Yr enw am hyn yw dysplasia datblygiadol y glun (DDH – developmental dysplasia of the hip).

Heb ei drin, gall DDH achosi cloffni (limp) neu broblemau gyda’r cymalau (joints).

Mae gan tua 1 neu 2 o bob 1,000 o fabis broblemau clun y mae angen eu trin.

Gweler mwy am dysplasia datblygiadol y glun.

Ceilliau

Mae bechgyn bach yn cael eu gwirio i sicrhau bod eu ceilliau yn y lle iawn.

Yn ystod beichiogrwydd, mae'r ceilliau'n ffurfio y tu mewn i gorff y babi. Efallai na fydd y ceilliau’n disgyn i lawr i'r sgrotwm tan ychydig fisoedd ar ôl geni’r babi.

Mae gan tua 2 i 6 o bob 100 o fechgyn bach geilliau sy'n disgyn yn rhannol neu ddim o gwbl.

Mae angen trin hyn er mwyn atal problemau posibl yn ddiweddarach mewn bywyd, fel llai o ffrwythlondeb (reduced fertility).

Gweler mwy am geilliau heb eu disgyn

Oes rhaid i'm babi gael yr archwiliad?

Nod yr archwiliad yw nodi problemau'n gynnar fel y gellir dechrau triniaeth cyn gynted â phosibl.

Mae’n cael ei argymell yn gryf, ond nid yw’n orfodol.

Gallwch chi benderfynu archwilio a sgrinio eich babi ar gyfer unrhyw un neu bob un o'r cyflyrau.

Os oes gennych unrhyw bryderon, dylech chi siarad â'ch bydwraig neu'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n cynnig yr archwiliad.

Pryd fyddwn ni'n cael y canlyniadau?

Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gwneud yr archwiliad yn rhoi'r canlyniadau i chi ar unwaith.

Os oes angen atgyfeirio eich babi am fwy o brofion, bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn trafod hyn gyda chi hefyd. 

Bydd y canlyniadau'n cael eu cofnodi yng nghofnod iechyd plant personol eich babi (llyfr coch).

Bydd angen i chi gadw hwn yn ddiogel a'i roi wrth law pryd bynnag y bydd eich babi'n gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Os oes gennych unrhyw bryderon, gallwch chi eu trafod gyda'ch bydwraig neu'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gwneud yr archwiliad.


Last Updated: 12/07/2023 11:34:31
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk