Rhyw ac atal-cenhedlu
Does dim rheolau sy’n dweud pryd i ddechrau cael rhyw eto ar ôl i chi gael babi.
Mae’n debyg y bydd gennych chi boenau a byddwch wedi blino ar ôl yr enedigaeth, felly does dim angen rhuthro.
Os bydd rhyw yn brifo, fydd o ddim yn bleserus. Gallwch brynu eli iro (‘lubricant’) o fferyllfa i ddechrau efallai.
Mae’r newidiadau hormonol sy’n digwydd ar ôl cael babi yn gallu gwneud i’r fagina deimlo’n sychach nag arfer.
Efallai byddwch yn poeni bod y corff wedi newid neu’n poeni am ddisgwyl babi eto. Efallai bydd dynion yn ofni brifo eu partneriaid.
Mae’n gallu cymryd amser cyn i chi fod eisiau cael rhyw. Tan hynny, gall y ddau ohonoch chi ddal i fod yn gariadus ac yn agos mewn ffyrdd eraill.
Os ydych chi neu eich partner yn poeni am unrhyw beth, siaradwch gyda’ch gilydd. Gallwch chi siarad ag ymwelydd iechyd neu feddyg teulu os ydych chi eisiau mwy o help.
‘Tips’ dechrau cael rhyw ar ôl geni babi
- Os ydy treiddio (‘penetration’) yn brifo, dywedwch hynny. Os ydych chi’n esgus bod popeth yn iawn a phethau ddim yn iawn, efallai y bydd rhyw yn dechrau mynd yn beth niwsans neu’n annymunol, yn y lle bod yn bleser. Gallwch chi roi a chael pleser heb dreiddio – e.e. drwy fastwrbeiddio eich gilydd.
- Cymerwch bethau’n araf. Teimlwch eich hun gyda’ch bysedd yn gyntaf er mwyn bod yn dawel eich meddwl na fydd rhyw yn brifo. Defnyddiwch eli iro os bydd yn help. Gall newidiadau hormonol ar ôl geni babi eich gwneud yn sychach nag arfer.
- Gwnewch amser i ymlacio gyda’ch gilydd. Rydych chi’n fwy tebygol o gael rhyw pan fyddwch chi’n meddwl am eich gilydd yn lle meddwl am bethau eraill.
- Gofynnwch am help os ydych chi eisiau help. Os ydych chi’n dal i gael poen, siaradwch â’ch meddyg teulu pan fyddwch chi’n cael eich archwiliad ar-ôl-geni.
Atal cenhedlu (‘contraception’) ar ôl cael babi
Gallwch chi fynd yn feichiog (disgwyl babi) eto 3 wythnos ar ôl geni babi, hyd yn oed os ydych chi’n bwydo ar y fron a’ch mislif heb ddechrau.
Oni bai eich bod chi eisiau mynd yn feichiog eto, mae’n bwysig defnyddio rhyw fath o ddull atal cenhedlu bob tro y byddwch chi’n cael rhyw ar ôl cael babi, hyd yn oed y tro cyntaf.
Fel arfer, byddwch chi’n cael cyfle i drafod ffyrdd gwahanol o atal cenhedlu cyn gadael yr ysbyty ar ôl i’ch babi gael ei eni, a hefyd yn yr archwiliad ar-ôl-geni.
Gallwch chi siarad â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd, neu fynd i glinig cynllunio teulu unrhyw bryd hefyd.
Mae gan yr elusennau iechyd rhywiol ‘Brook’ ac ‘FPA’ offer rhyngweithiol sy’n gallu eich helpu i benderfynu pa ddull atal cenhedlu sy’n eich siwtio chi:
FPA: my contraception tool
Brook: my contraception tool
Atal cenhedlu a bwydo ar y fron
Go brin y cewch chi fislif os ydych chi’n bwydo dim ond llaeth y fron a’r babi o dan 6 mis oed.
Oherwydd hyn, mae rhai menywod yn defnyddio bwydo ar y fron fel ffordd o atal cenhedlu naturiol. Yr enw am hyn ydy’r dull amenorea llaethiadol (‘lactational amenorrhoea method’ neu LAM).
Mae’n bwysig dechrau defnyddio dull arall o atal cenhedlu os:
- ydy eich babi’n fwy na 6 mis oed
- ydych chi’n rhoi unrhyw beth arall i’r babi ar wahân i laeth y fron, e.e. dymi, fformiwla neu fwyd solet
- ydy eich mislif wedi dechrau (mae smotyn bach ysgafn yn cyfrif)
- ydych chi wedi stopio bwydo yn y nos
- ydych chi’n bwydo ar y fron yn llai aml
- ydy’r amseroedd rhwng bwydo’ch babi wedi mynd yn hirach (dydd a nos)
Does neb yn gwybod a ydy tynnu llaeth y fron (‘express’) yn cael effaith ar y dull amenorea llaethiadol ond mae’n gallu ei wneud yn llai effeithiol.
Last Updated: 27/06/2023 11:47:25
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk