Gwybodaeth beichiogrwydd


Hawliau a budd-daliadau i rieni

Mae'r dudalen hon yn rhestru'r budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt pan fyddwch yn feichiog, ac mae'n cynnwys gwybodaeth am absenoldeb mamolaeth, tadolaeth ac absenoldeb rhiant a rennir (shared parental leave).

Mae hefyd yn rhestru budd-daliadau eraill y gallech eu cael, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Absenoldeb ac amser i ffwrdd

Pan fyddwch yn feichiog, mae gennych hawl i hyd at flwyddyn o absenoldeb mamolaeth (maternity leave).

Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Os ydych yn gyflogedig ac yn feichiog, mae gennych hawl i 52 wythnos (1 flwyddyn) o absenoldeb mamolaeth, ni waeth pa mor hir rydych wedi gweithio i’ch cyflogwr.

Mae hyn yn cynnwys 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth arferol a 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth ychwanegol.

Mae gennych amryw o hawliau yn ystod y cyfnod hwn a gallwch hefyd ofyn i'ch cyflogwr ddarparu trefniadau gweithio hyblyg os byddwch yn penderfynu dychwelyd i'r gwaith ar ddiwedd eich absenoldeb.

Mae gan GOV.UK wybodaeth am absenoldeb mamolaeth statudol ac offeryn ar-lein a all roi arweiniad personol ar hawliau mamolaeth.

Mae eich telerau cyflogaeth (er enghraifft, eich cyfraniadau pensiwn) yn cael eu diogelu tra byddwch ar Absenoldeb Mamolaeth Statudol.

Os byddwch yn colli eich swydd tra ar Absenoldeb Mamolaeth Statudol, mae gennych hawliau ychwanegol hefyd.

Gweithio pan yn feichiog

Os ydych chi'n feichiog, mae'n rhaid i'ch cyflogwr amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch, ac efallai y bydd gennych hawl i amser i ffwrdd â thâl ar gyfer gofal cyn geni. Rydych hefyd wedi'ch diogelu rhag triniaeth annheg.

Os ydych chi'n mwynhau eich gwaith ac yn hoffi'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw, efallai y bydd gennych chi deimladau cymysg pan fyddwch chi'n mynd ar absenoldeb mamolaeth.

Ceisiwch wneud yn fawr o'r ychydig wythnosau hyn cyn i'ch babi gael ei eni. Mae hefyd yn gyfle da i wneud ffrindiau newydd.

Efallai y byddwch chi'n gwneud ffrindiau beichiog newydd rydych chi am gadw mewn cysylltiad â nhw mewn dosbarthiadau cyn geni, neu efallai y byddwch chi'n dod i adnabod mwy o bobl sy'n byw gerllaw.

Dysgwch am eich hawliau cyflogai pan fyddwch ar absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu neu riant.

Cynllunio gofal plant

Efallai eich bod wedi penderfynu eich bod am dreulio peth amser gartref gyda'ch babi, neu efallai eich bod yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith, naill ai'n llawn amser neu'n rhan amser, yn weddol fuan ar ôl yr enedigaeth.

Os ydych chi'n bwriadu mynd yn ôl i'r gwaith, dechreuwch feddwl ymlaen llaw pwy fydd yn gofalu am eich babi.

Nid yw bob amser yn hawdd gwneud trefniadau gofal plant, ac mae’n gallu cymryd peth amser i chi.

Efallai bod gennych chi berthynas sy'n fodlon gofalu am eich plentyn. Os na, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eich awdurdod lleol am restr o warchodwyr plant cofrestredig a meithrinfeydd yn eich ardal.

Efallai y byddwch hefyd am feddwl am drefnu gofal yn eich cartref eich hun, naill ai ar eich pen eich hun neu rannu gyda rhieni eraill.

Nid oes angen cofrestru gofal yn eich cartref eich hun, ond gwnewch yn siŵr bod eich gofalwr yn brofiadol ac wedi'i hyfforddi i ofalu am fabis.

Mae gan wefan GOV.UK ragor o wybodaeth am help i dalu am ofal plant.

Dychwelyd i'r gwaith ar ôl Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Mae gennych hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth pan fyddwch yn mynd yn ôl i weithio.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw'r rhain a beth i'w wneud os oes gennych unrhyw broblemau neu os gwrthodir eich hawliau.

Gofyn am weithio hyblyg

Mae gan rieni plant 16 oed ac iau, neu blant anabl 18 oed ac iau, hawl i ofyn am batrwm gweithio hyblyg.

Mae angen i chi ddilyn gweithdrefn benodol wrth wneud eich cais.

Os ydych chi'n ddarpar dad neu'n bartner i rywun sy'n feichiog – gan gynnwys partner o'r un rhyw – fe allech chi fod â'r hawl i absenoldeb tadolaeth (paternity leave).

Efallai y bydd gennych hawl i hyd at 26 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol.

Mae gan GOV.UK ragor o wybodaeth am absenoldeb tadolaeth statudol ac offeryn ar-lein a all roi arweiniad personol ar hawliau tadolaeth yn y gwaith.

Absenoldeb Tadolaeth

Os ydych chi'n ddarpar dad neu'n bartner i fenyw sy'n feichiog – gan gynnwys partner o'r un rhyw – fe allech chi fod â'r hawl i absenoldeb tadolaeth.

Efallai y bydd gennych hawl i hyd at 26 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol.

Mae gan GOV.UK ragor o wybodaeth am absenoldeb tadolaeth statudol ac offeryn ar-lein a all roi arweiniad personol ar hawliau tadolaeth yn y gwaith

Absenoldeb Rhiant a Rennir

Efallai y byddwch yn gymwys i rannu absenoldeb a thâl rhiant gyda'ch partner.

Mae absenoldeb rhiant a rennir wedi’i gynllunio i roi hyblygrwydd i rieni benderfynu pryd i ddychwelyd i’r gwaith a chaniatáu i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd yng nghamau cynnar bywyd plentyn.

  • Gellir rhannu absenoldeb a thâl yn dilyn y pythefnos cyntaf ar ôl genedigaeth eich babi. Mae hyn yn golygu y gellir rhannu hyd at 50 wythnos o wyliau a 37 wythnos o dâl.
  • Nid oes rhaid i chi gymryd eich holl absenoldeb rhiant a rennir ar yr un pryd.
  • Gallwch gymryd absenoldeb rhiant a rennir mewn hyd at 3 bloc (rhaid i bob bloc fod o leiaf 1 wythnos) a dychwelyd i'r gwaith yn y canol.
  • Mae’r ddau riant yn gallu cymryd absenoldeb rhiant a rennir ar yr un pryd fel y gallwch chi a'ch partner dreulio amser gartref gyda'ch babi.

Mae gan GOV.UK ragor o wybodaeth am absenoldeb rhiant a rennir.

Budd-daliadau i fenywod beichiog

Mae budd-daliadau a chymorth ariannol i fenywod beichiog, p'un a ydynt yn gyflogedig ai peidio. 

Gofal deintyddol am ddim

Mae holl driniaeth ddeintyddol y GIG am ddim tra byddwch yn feichiog ac am 12 mis ar ôl dyddiad geni eich babi. Mae plant hefyd yn cael presgripsiynau am ddim nes eu bod yn 16.

I hawlio presgripsiynau am ddim, gofynnwch i'ch meddyg neu'ch bydwraig am ffurflen FW8 a'i hanfon at eich awdurdod iechyd.

Anfonir tystysgrif eithrio mamolaeth (MATEX) atoch sy'n para 12 mis ar ôl eich dyddiad geni disgwyliedig. Rhaid bod gennych dystysgrif eithrio ddilys i hawlio presgripsiynau am ddim a gofal deintyddol.

Credydau treth

Mae Credyd Treth Plant yn rhoi cymorth ariannol i blant, ac mae Credyd Treth Gwaith yn helpu pobl mewn swyddi â chyflogau is drwy ychwanegu at eu cyflogau. Dysgwch fwy am gredydau treth.

Tâl Mamolaeth Statudol

Taliad wythnosol gan eich cyflogwr i’ch helpu i gymryd amser i ffwrdd cyn ac ar ôl i’ch babi gael ei eni. Dysgwch fwy am Tâl Mamolaeth Statudol, gan gynnwys pryd mae angen i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn feichiog.

Lwfans Mamolaeth

Os ydych chi'n feichiog neu â babi newydd ond nad ydych chi'n gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, efallai y gallwch chi hawlio Lwfans Mamolaeth drwy'r Ganolfan Byd Gwaith. Darganfyddwch fwy am Lwfans Mamolaeth, gan gynnwys sut i wneud cais.

Tâl Tadolaeth Statudol

Os yw’ch gwraig, partner (gan gynnwys partner o’r un rhyw) neu bartner sifil yn rhoi genedigaeth neu’n mabwysiadu plentyn, efallai y gallwch hawlio Tâl Tadolaeth Statudol i’ch helpu i gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i’w chefnogi. Dysgwch fwy am Tâl Tadolaeth Statudol, gan gynnwys pryd mae angen i chi roi gwybod i'ch cyflogwr eich bod yn disgwyl.

Tâl Mabwysiadu Statudol

Taliad wythnosol gan eich cyflogwr i’ch helpu i gymryd amser i ffwrdd os ydych yn mabwysiadu plentyn.

Dysgwch fwy am Tâl Mabwysiadu Statudol, gan gynnwys sut a phryd i roi gwybod i'ch cyflogwr.

Cymorth ariannol arall

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Os ydych ar incwm isel ac yn cael rhai budd-daliadau neu gredydau treth, ac nad oes unrhyw blant eraill o dan 16 oed yn eich teulu, gallech gael y taliad untro hwn.

Dysgwch fwy am Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn ar GOV.UK.

Lwfans Ceisio Gwaith

Y prif fudd-dal i bobl o oedran gweithio sydd allan o waith.

Dysgwch fwy am Lwfans Ceisio Gwaith ar GOV.UK.

Cymhorthdal Incwm

Os na allwch fod ar gael ar gyfer gwaith llawn amser ac nad oes gennych ddigon o arian i fyw arno, efallai y byddwch yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm (Income Support), yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Dysgwch fwy am Cymhorthdal Incwm ar GOV.UK, gan gynnwys sut a ble i wneud cais.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Mae hyn wedi disodli Cymhorthdal Incwm ar gyfer pobl na allant weithio oherwydd salwch neu anabledd.

Dysgwch fwy am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar  GOV.UK.

Budd-dal Tai

Efallai y byddwch yn gymwys i gael help gyda’ch rhent i gyd neu ran ohono os ydych ar incwm isel.

Dysgwch fwy am Budd-dal Tai ar GOV.UK.

Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais

Help gydag ad-daliadau llog ar forgais os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol.

Dysgwch fwy am Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais ar GOV.UK.

Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth i dalu eich treth gyngor os yw eich incwm yn isel.

Dysgwch fwy am Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar GOV.UK.

Ble i gael cymorth a chefnogaeth

Dylech gael cyngor ar fudd-daliadau cyn gynted ag y byddwch yn darganfod eich bod yn feichiog. Mae'n rhaid hawlio budd-daliadau ar wahanol ffurflenni, o wahanol swyddfeydd, yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn ei hawlio. 

Mae yna lawer o fudiadau gwirfoddol sy'n hapus i helpu. Gofynnwch iddynt am gyngor neu i gael barn.

  • Mae gan rai awdurdodau lleol swyddogion hawliau lles – ffoniwch eich adran gwasanaethau cymdeithasol a gofynnwch.
  • Mae rhai sefydliadau gwirfoddol yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar fudd-daliadau a hawliau yn y gwaith – rhowch gynnig ar Gingerbread a Working Families.
  • Am gyngor ar eich hawliau yn y gwaith, ffoniwch ACAS ar 0300 123 1100.
  • Os ydych yn 19 oed neu'n iau, gallwch gael cyngor ar waith gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol ar 0800 100 900.

 


Last Updated: 05/04/2022 09:02:34
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk