Gwybodaeth beichiogrwydd


Diogelwch

Bob blwyddyn mae miloedd o blant dan 5 oed yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn dilyn damweiniau, ac mae modd atal llawer o'r damweiniau hyn.

Dyma sut i amddiffyn eich babi neu'ch plentyn bach rhag rhai o'r damweiniau mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar blant ifanc.

Tagu

Bwyd yw'r peth mwyaf cyffredin i fabis a phlant bach dagu arno. Mae plant ifanc hefyd yn gallu rhoi gwrthrychau bach yn eu cegau a allai achosi tagu.

  • Os byddwch yn rhoi potel i'ch babi, daliwch y botel a'ch babi bob amser wrth iddo fwydo.
  • Cadwch wrthrychau bach, fel botymau, darnau arian a darnau bach o deganau, allan o gyrraedd eich babi.
  • Unwaith y bydd eich babi wedi dechrau bwyta bwyd solet, torrwch ef yn ddarnau bach bob amser. Mae babis yn gallu tagu ar rywbeth mor fach â grawnwin (dylid torri'r rhain ar eu hyd). Mae ciwbiau jeli amrwd yn gallu bod yn berygl tagu. Os ydych chi'n gwneud jeli, gwnewch yn siŵr eich bod chi bob amser yn dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
  • Peidiwch â rhoi bwydydd caled i blant ifanc, fel melysion wedi'u berwi neu gnau cyfan.   
  • Cadwch fatris botwm arian bach ymhell oddi wrth blant bach. Yn ogystal â bod yn berygl tagu, mae’r rhain yn gallu achosi llosgiadau mewnol difrifol os ydyn nhw’n cael eu llyncu.
  • Arhoswch gyda'ch plentyn pan fydd yn bwyta. Anogwch nhw i eistedd yn llonydd wrth fwyta, oherwydd gallai rhedeg o gwmpas wrth fwyta wneud iddyn nhw dagu.
  • Cadwch deganau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer plant hŷn i ffwrdd oddi wrth fabanod a phlant bach, oherwydd efallai bod ganddyn nhw ddarnau bach.
  • Cadwch deganau magnetig gyda darnau bach i ffwrdd oddi wrth blant ifanc. Os cânt eu llyncu, gallant fod yn niweidiol oherwydd gallant lynu at ei gilydd yng ngholuddion plentyn.

Gweler sut i helpu babi neu blentyn sy'n tagu.

Mygu

  • Peidiwch â defnyddio gobenydd (pillow) na duvets gyda babis dan 1 oed, oherwydd gallan nhw fygu os bydd eu hwyneb yn cael ei fygu. Ni fyddant yn gallu gwthio'r duvet i ffwrdd. Dylai babis gysgu ar eu cefn bob amser gyda'u traed yn erbyn gwaelod eu crud. Tyciwch y flanced i mewn ar draws eu brest ac o dan eu breichiau a gwnewch yn siŵr nad oes bymperi, gobenyddion a theganau meddal yn y crud.
  • Os ydych chi'n cario'ch babi mewn sling, dilynwch gyngor TICKS i leihau'r risg o fygu. Dylid cadw eich babi’n dynn, o fewn golwg, yn ddigon agos i’w gusanu, dylid cadw'i ên oddi ar ei frest, a’i gefn yn cael ei gynnal.
  • Cadwch fagiau plastig, gan gynnwys bagiau clytiau/cewynnau, allan o gyrraedd a golwg plant ifanc. Cadwch nhw i ffwrdd o grud babi, fel na allant eu cyrraedd a'u rhoi dros eu trwyn a'u ceg.

Llindagu (strangulation)

  • Peidiwch â chlymu dymi i ddillad eich babi, oherwydd gallai'r tei neu'r rhuban eu llindagu.
  • Cadwch gortynnau llenni neu fleindiau allan o gyrraedd – gyda bachyn cleat er enghraifft – fel eu bod ymhell y tu hwnt i gyrraedd eich babi neu'ch plentyn bach. Mae rhaffau bleindiau a llenni rhydd yn gallu lapio eu hunain yn gyflym o amgylch gwddf babi neu blentyn bach.
  • Peidiwch â gadael unrhyw fath o raff na chortyn o gwmpas, gan gynnwys cortynnau gŵn llofft a bagiau â llinyn tynnu.
  • Os yw'r bylchau rhwng canllawiau grisiau neu reiliau balconi yn fwy na 6.5cm (2.5 modfedd) o led, gorchuddiwch nhw gyda byrddau neu rwydi diogelwch. Efallai y bydd babis bach yn gallu gwasgu eu cyrff drwodd, ond nid eu pennau. 
  • Cadwch deganau ac offer chwarae gardd ymhell oddi wrth leiniau sychu dillad, fel na all plant sefyll arnynt a chyrraedd y lein.
  • Ceisiwch osgoi defnyddio bymperi yng nghrud eich babi – maen nhw'n beryglus o ran tagu, mygu a llindagu. Gweler fwy am gwsg diogel i fabanod.

Babis yn cwympo

Cyn bo hir mae babis yn dysgu sut i wingo a chicio. Ac yn fuan wedyn, gallant rolio drosodd, sy'n golygu y gallant rolio oddi ar welyau a byrddau newid.

Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud i atal eich babi rhag cael ei anafu:

  • Newidiwch glwt/cewyn eich babi ar fat newid ar y llawr. 
  • Peidiwch â gadael eich babi heb oruchwyliaeth ar wely, soffa neu fwrdd newid, hyd yn oed am eiliad, gan y gallai rolio i ffwrdd. 
  • Cadwch grud bownsio neu sedd car babi ar y llawr bob amser, yn hytrach nag ar fwrdd neu wyneb gweithio yn y gegin, oherwydd gallai eich babi ei wthio dros yr ymyl wrth iddo wingo. 
  • Gafaelwch yn y canllaw wrth gario'ch babi i fyny ac i lawr y grisiau, rhag ofn i chi faglu. Sicrhewch nad oes unrhyw deganau a pheryglon baglu eraill ar y grisiau.
  • Os byddwch yn cael cerddwr (baby walker) i’ch babi, gwnewch yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â Safon Brydeinig BS EN 1273:2005. Mae cerddwyr hŷn yn gallu troi drosodd yn haws a niweidio'ch babi. 
  • Gwyliwch ble rydych chi'n rhoi eich traed wrth gario'ch babi. Mae'n hawdd baglu dros rywbeth fel tegan. 
  • Defnyddiwch harnais 5-pwynt i ddiogelu'ch babi mewn cadair uchel neu bram bob tro y byddwch chi'n ei roi i mewn.

Pan fydd eich babi yn dechrau cropian

Unwaith y byddan nhw’n dysgu cropian, efallai y bydd babis yn ceisio dringo ar bethau, fel soffas, sy'n cynyddu'r risg o gwympo.

Dyma rai awgrymiadau atal anafiadau i rieni babi sy'n cropian:

  • Gosodwch gatiau diogelwch i atal eich babi rhag mynd ar y grisiau. Caewch y gatiau yn iawn ar ôl i chi fynd drwyddynt.
  • Os yw'r bylchau rhwng canllawiau grisiau neu reiliau balconi yn fwy na 6.5cm (2.5 modfedd) o led, gorchuddiwch nhw gyda byrddau neu rwydi diogelwch.
  • Cadwch ddodrefn isel i ffwrdd o'r ffenestri. Gosodwch gloeon neu ddalfeydd diogelwch ar ffenestri sy'n cyfyngu'r agoriad i lai na 6.5cm (2.5 modfedd), i atal babi rhag dringo allan. Sicrhewch fod oedolion yn gwybod ble mae'r allweddi'n cael eu cadw rhag ofn y bydd tân. 
  • Tynnwch deganau a bymperi allan o’r crud, oherwydd mae babi yn gallu dringo arnynt a syrthio allan o'r crud.

Plant bach yn cwympo

Pan fydd babis yn dechrau cerdded, maen nhw’n simsan ar eu traed, ond gallan nhw symud yn gyflym iawn. Maen nhw’n dueddol o faglu a chwympo.

Dyma rai awgrymiadau atal anafiadau i rieni plant bach:

  • Parhewch i ddefnyddio giatiau diogelwch ar ben a gwaelod y grisiau nes bod eich plentyn yn 2 flwydd oed o leiaf.
  • Dechreuwch ddysgu'ch plentyn sut i ddringo'r grisiau, ond peidiwch byth â gadael iddo fynd i fyny ac i lawr ar ei ben ei hun (efallai y bydd angen rhywfaint o help ar blant 4 oed hyd yn oed). 
  • Peidiwch â gadael i blant dan 6 oed gysgu yng ngwely uchaf gwely bync, oherwydd gallan nhw syrthio allan yn hawdd. 
  • Cadwch ddodrefn isel i ffwrdd o'r ffenestri a sicrhewch fod cloeon neu ddalfeydd diogelwch wedi'u gosod ar ffenestri. Sicrhewch fod oedolion yn gwybod ble mae'r allweddi'n cael eu cadw rhag ofn y bydd tân.
  • Parhewch i ddefnyddio harnais 5-pwynt pan fydd eich plentyn yn ei gadair uchel neu gadair wthio.
  • Cadwch sisyrnau, cyllyll a raseli allan o gyrraedd plant.
  • Mae dyfeisiau arbennig yn gallu atal drysau rhag cau'n iawn, gan atal bysedd eich plentyn rhag mynd yn sownd. Yn y nos, cofiwch gau drysau i atal unrhyw danau posibl rhag lledu.
  • Os oes corneli miniog ar ddodrefn, defnyddiwch amddiffynwyr cornel i atal eich plentyn rhag brifo ei ben.

Gwenwyno

  • Meddyginiaethau sy'n achosi dros 70% o dderbyniadau i'r ysbyty oherwydd gwenwyno ymhlith plant dan 5 oed. Poenladdwyr cyffredin fel paracetamol ac ibuprofen sy’n gyfrifol am lawer o’r achosion. Cadwch bob meddyginiaeth dan glo neu'n uchel i fyny allan o gyrraedd a golwg plant.
  • Cadwch nwyddau glanhau yn uchel allan o gyrraedd, gan gynnwys y rhai ar gyfer y toiled. Os nad yw hyn yn bosibl, gosodwch ddalfeydd diogelwch ar ddrysau cypyrddau isel. Dewiswch gynhyrchion glanhau sy'n cynnwys cyfrwng chwerwi. Mae hyn yn gwneud iddynt flasu'n gas, felly mae plant yn llai tebygol o'u llyncu.
  • Mae capsiwlau golchi dillad hylif yn gallu achosi gwenwyno. Gwnewch yn siŵr bod y capsiwlau yn cael eu storio allan o gyrraedd a golwg plant. Maent yn aml yn cael eu pecynnu mewn lliwiau sy'n denu plant.
  • Cadwch ddisgiau gel toiled allan o gyrraedd plant ifanc. Gallant fod yn niweidiol os cânt eu llyncu, gan y gallant fynd yn sownd ym mhibell fwyd plentyn.
  • Sicrhewch fod topiau a chaeadau poteli bob amser wedi'u cau'n gadarn pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Cofiwch nad yw pecynnau sy'n gwrthsefyll plant (child-resistant) yn atal plant – y cyfan y mae'n ei wneud yw arafu plant.
  • Cadwch e-sigaréts a'u hail-lenwi allan o olwg a chyrraedd babis a phlant bach. Mae nicotin yn wenwynig ac mae’n gallu bod yn beryglus iawn i blant ifanc.
  • Gwiriwch eich gardd am blanhigion gwenwynig. Dysgwch eich plant i beidio â bwyta unrhyw beth maen nhw'n ei gasglu yn yr awyr agored nes eu bod wedi gwirio gydag oedolyn.

Llosgi a sgaldio

Mae croen babi yn llosgi'n haws na chroen oedolyn. Mae hyn yn golygu bod angen i chi gymryd gofal arbennig i osgoi llosgiadau a sgaldiadau.

  • Yn ystod amser bath, rhedwch ddŵr oer i mewn i'r bath yn gyntaf, yna ychwanegwch ychydig o ddŵr poeth. Gwiriwch y tymheredd gyda’ch penelin cyn i’ch plentyn fynd i mewn, ac arhoswch gyda nhw drwy’r amser y mae yn y bath.
  • Bydd babis a phlant bach yn cydio mewn gwrthrychau lliwgar, fel mygiau. Os ydych chi'n cael diod boeth, rhowch y myg allan o gyrraedd cyn i chi ddal eich babi. Cadwch ddiodydd poeth ymhell oddi wrth bob plentyn ifanc. Mae diod boeth yn gallu sgaldio 15 munud ar ôl ei gwneud.
  • Ar ôl cynhesu potel o fformiwla, ysgwydwch y botel yn dda a phrofi'r tymheredd trwy roi ychydig ddiferion ar y tu mewn i'ch arddwrn cyn bwydo. Dylai deimlo'n llugoer, nid yn boeth. 
  • Ceisiwch osgoi cynhesu poteli o fformiwla mewn microdon. Defnyddiwch gynhesydd poteli neu jwg o ddŵr poeth yn lle hynny.
  • Bydd plant bach yn chwarae gydag unrhyw beth y gallant ei gyrraedd, felly cadwch fatsis a thanwyr allan o olwg a chyrraedd plant ifanc. 
  • Defnyddiwch degell gyda fflecs byr neu gyrliog i'w atal rhag hongian dros ymyl y wyneb gwaith, lle y gellir gafael ynddo.
  • Wrth goginio, defnyddiwch y cylchoedd tuag at gefn y popty a throwch handlenni sosban tua'r cefn, fel na all bysedd bach gydio ynddynt.
  • Pan fyddwch wedi gorffen defnyddio'ch sythwyr haearn neu wallt, rhowch nhw allan o gyrraedd tra byddant yn oeri. Gwnewch yn siŵr na all eich plentyn gydio yn y fflecs tra byddwch chi'n eu defnyddio.
  • Cadwch fatris botwm ymhell oddi wrth fabis a phlant bach, oherwydd gallan nhw achosi llosgiadau mewnol difrifol os ydyn nhw’n cael eu llyncu.
  • Mae capsiwlau golchi dillad hylif yn gallu achosi llosgiadau cemegol os yw'r hylif yn mynd i mewn i lygaid, trwyn neu geg plentyn. Cadwch nhw allan o olwg ac allan o gyrraedd plant.

Boddi

Mae babi yn gallu boddi mewn cyn lleied â 5cm (2 fodfedd) o ddŵr. Boddi yw un o achosion mwyaf cyffredin marwolaeth plant – mae’n digwydd yn dawel yn aml, felly ni fyddwch o reidrwydd yn clywed unrhyw sŵn neu drallod.

  • Bath yw'r lle mwyaf cyffredin i fabis a phlant ifanc foddi. Arhoswch gyda'ch babi neu'ch plentyn bach trwy'r amser y mae yn y bath. Peidiwch byth â'u gadael am eiliad, hyd yn oed os oes brawd neu chwaer hŷn gyda nhw yn y bath.
  • Os ydych yn defnyddio sedd bath, cofiwch nad yw'n ddyfais ddiogelwch. Mae dal angen i chi aros gyda'ch babi drwy'r amser.
  • Gwagiwch y bath cyn gynted ag y byddwch wedi cymryd eich plentyn allan. 
  • Os oes gennych chi bwll yn yr ardd, rhowch ffens o'i amgylch, llenwch ef neu rhowch orchudd diogel drosto.
  • Gwyliwch blant bach pan fyddan nhw mewn pwll padlo neu'n chwarae yn ymyl dŵr. Gwagiwch y pwll padlo yn syth ar ôl ei ddefnyddio ac yna ei storio.
  • Sicrhewch fod eich gardd yn ddiogel fel na all eich plentyn fynd i mewn i erddi cyfagos, lle gallai fod pyllau neu beryglon boddi eraill.

Tanau mewn tai

Mae tanau domestig yn risg sylweddol i blant. Mae mwg o dân yn gallu lladd plentyn mewn ychydig funudau. Sosbenni sglodion a sigaréts yw'r achosion mwyaf cyffredin.

  • Peidiwch byth â llenwi sosban sglodion mwy nag un rhan o dair yn llawn o olew, neu defnyddiwch ffrïwr saim dwfn yn lle hynny. Os bydd padell sglodion yn mynd ar dân, diffoddwch yr hob, gadewch yr ystafell, caewch y drws a ffoniwch y gwasanaeth tân.
  • Diffoddwch a gwaredwch sigaréts, sigarau a phibau yn ofalus, yn enwedig gyda'r nos neu os ydych wedi blino.
  • Gosodwch larymau mwg ar bob lefel o'ch cartref. Profwch nhw bob wythnos a newidiwch y batris bob blwyddyn.
  • Yn y nos, diffoddwch eitemau trydanol cyn i chi fynd i'r gwely a chaewch bob drws i atal tân posibl.
  • Lluniwch gynllun dianc ar gyfer eich teulu a dywedwch wrth eich plant beth i'w wneud os bydd tân. Ymarferwch y cynllun yn rheolaidd.
  • Os oes gennych le tân agored, defnyddiwch gard tân bob amser sy'n amgáu'r lle tân cyfan a gwnewch yn siŵr ei fod yn sownd wrth y wal. Peidiwch â gosod dim byd arno na hongian pethau oddi arno.
  • Cadwch fatsis a thanwyr allan o gyrraedd plant.

Anafiadau yn ymwneud â gwydr

Mae gwydr wedi torri yn gallu achosi briwiau difrifol. Mae’r cyngor canlynol yn gallu eich helpu i gadw'ch plentyn yn ddiogel.

  • Defnyddiwch wydr diogelwch ar lefelau isel, fel mewn drysau a ffenestri. Nid yw’r gwydr hwn yn chwalu mor hawdd â gwydr arferol. Chwiliwch am nod barcud Safonau Prydeinig (BS).
  • Gwnewch wydr presennol yn fwy diogel trwy osod ffilm sy'n gwrthsefyll malurion.
  • Wrth brynu dodrefn sy'n cynnwys gwydr, sicrhewch fod ganddo nod barcud BS.
  • Gwaredwch wydr sydd wedi torri yn gyflym ac yn ddiogel bob amser – lapiwch ef mewn papur newydd cyn ei daflu yn y bin.
  • Os ydych chi'n berchen ar dŷ gwydr neu ffrâm oer (strwythur i amddiffyn planhigion rhag oerfel y gaeaf), gwnewch yn siŵr bod ganddo wydr diogelwch neu ei fod wedi'i ffensio rhag plant.
  • Peidiwch â gadael i fabi neu blentyn bach ddal unrhyw beth wedi'i wneud o wydr.

 


Last Updated: 27/06/2023 12:10:14
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk