Helpu babi sy'n tagu
Mae plant, yn enwedig y rhai rhwng 1 a 5 oed, yn aml yn rhoi gwrthrychau yn eu ceg. Mae hyn yn rhan arferol o'r ffordd y maen nhw’n archwilio'r byd.
Mae rhai gwrthrychau bach, fel marblis, gleiniau (beads) a batris botwm o’r maint cywir i fynd yn sownd yn llwybr anadlu plentyn ac achosi tagu.
Y ffordd orau o osgoi hyn yw sicrhau bod gwrthrychau bach fel y rhain yn cael eu cadw allan o gyrraedd eich plentyn.
Does dim ots pa mor ofalus ydych chi, efallai y bydd eich plentyn yn tagu ar rywbeth. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch chi neu rywun arall yn gweld eich plentyn yn llyncu'r gwrthrych sy'n achosi tagu.
Gall fod rhesymau eraill pam mae eich plentyn yn dechrau pesychu. Ond os yw eich plentyn yn dechrau pesychu'n sydyn, dydy e ddim yn sâl a bod ganddo arferiad o roi gwrthrychau bach yn ei geg, mae siawns dda ei fod yn tagu.
Awgrymiadau ar helpu plentyn sy'n tagu
- Os ydych chi’n gallu gweld y gwrthrych, ceisiwch ei dynnu. Peidiwch â phrocio’n fyrbwyll gyda'ch bysedd. Rydych chi’n gallu gwneud pethau'n waeth drwy wthio'r gwrthrych ymhellach a'i wneud yn anoddach ei dynnu.
- Os yw eich plentyn yn pesychu'n uchel, anogwch ef i barhau i beswch i symud yr hyn y mae'n tagu arno a pheidiwch â'i adael.
- Os nad yw peswch eich plentyn yn effeithiol (mae'n dawel neu os nad yw’n gallu anadlu i mewn yn iawn), gwaeddwch am help ar unwaith a phenderfynu a yw'n dal yn ymwybodol.
- Os yw eich plentyn yn dal yn ymwybodol, ond nad yw'n pesychu neu os nad yw ei beswch yn effeithiol, defnyddiwch ergydion cefn.
Ergydion cefn plant o dan flwydd oed
- Eisteddwch a gosodwch wyneb eich babi i lawr ar hyd eich cluniau, gan gefnogi ei ben gyda'ch llaw.
- Rhowch hyd at 5 ergyd gefn miniog gyda gwaelod eich llaw yng nghanol y cefn rhwng yr ysgwyddau (shoulder blades).
Ergydion cefn i blant dros flwydd oed
- Gosodwch blentyn bach wyneb i lawr ar eich glin fel y byddech chi'n gwneud i fabi.
- Os nad yw hyn yn bosibl, cefnogwch eich plentyn fel ei fod yn gwyro ymlaen a rhowch 5 ergyd i’r cefn o'r tu ôl.
Os nad yw ergydion cefn yn lleddfu'r tagu a bod eich babi neu'ch plentyn yn dal yn ymwybodol, rhowch wthiad y frest (chest thrust) i fabanod o dan 1 oed neu wthiad abdomen (abdomen thrust) i blant dros flwydd oed.
Bydd hyn yn creu peswch artiffisial, pwysau cynyddol yn y frest ac yn helpu i symud y gwrthrych.
Gwthiad y frest i blant o dan flwydd oed
- Gosodwch wyneb eich babi ar hyd eich cluniau.
- Dewch o hyd i asgwrn y fron (breastbone) a rhowch 2 fys yn y canol.
- Rhowch 5 gwthiad siarp ar y frest, gan gywasgu'r (compress) frest gan tua thraean.
Gwthiad abdomen i blant dros flwydd oed
- Sefwch neu penliniwch y tu ôl i'ch plentyn. Rhowch eich breichiau o dan freichiau'r plentyn ac o amgylch ei abdomen uchaf.
- Caewch eich dwrn a’i osod rhwng y bogail (navel) a’r asennau.
- Gafaelwch yn y llaw hon gyda'ch llaw arall a’i thynnu'n sydyn i mewn ac i fyny.
- Ailadroddwch hyn hyd at 5 gwaith.
- Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n rhoi pwysau ar yr asennau is, gan fod hyn yn gallu achosi niwed i’ch plentyn.
Yn dilyn gwthiad y frest neu'r abdomen, ailaseswch eich plentyn fel a ganlyn
- Os nad yw'r gwrthrych yn symud o hyd a bod eich plentyn yn dal i fod yn ymwybodol, parhewch â'r dilyniant o ergydion cefn a naill ai gwthiad y frest neu'r abdomen.
- Ffoniwch neu anfonwch am help, os ydych chi’n dal ar eich pen eich hun.
- Peidiwch â gadael y plentyn.
Ffoniwch 999 os nad yw'r rhwystr yn dod allan ar ôl rhoi cynnig ar ergydion cefn a naill ai gwthiad y frest neu'r abdomen. Daliwch ati i roi cynnig ar hwn nes bod help yn cyrraedd.
Hyd yn oed os yw'r gwrthrych wedi dod allan, gofynnwch am gymorth meddygol. Efallai bod rhan o'r gwrthrych wedi'i gadael ar ôl, neu efallai bod eich plentyn wedi cael ei anafu gan y weithred.
Plentyn anymwybodol gyda thagu
- Os yw plentyn sy'n tagu yn anymwybodol, neu'n mynd yn anymwybodol, rhowch ef ar arwyneb cadarn, gwastad a gweiddi am help.
- Ffoniwch 999, gan roi'r ffôn ar y gosodiad heb ddwylo (hands-free).
- Peidiwch â gadael y plentyn ar unrhyw adeg.
- Agorwch geg y plentyn. Os yw'r gwrthrych yn amlwg yn weladwy a'ch bod yn gallu gafael ynddo yn hawdd, tynnwch ef.
- Dechrau CPR (gweler Sut i ddadebru plentyn).
Last Updated: 05/07/2023 09:12:30
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by

NHS website
nhs.uk