Gwybodaeth beichiogrwydd


Dadebru baban

Isod mae’r camau adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) llawn a manwl ar gyfer babis (babis o dan 1 oed) a phlant.

Argymhellir yn gryf bod pob rhiant yn mynd ar gwrs cymorth cyntaf, gan ei fod yn gwneud y broses hon yn llawer haws i'w deall a'i chofio.

Mewn argyfwng lle mae bywyd yn y fantol, ffoniwch 999. Os yw'ch plentyn yn peswch neu wichian, ffoniwch GIG 111 Cymru neu eich meddyg teulu am gyngor.

Camau CPR plentyn a babi

1. Gwnewch yn siŵr bod yr ardal yn ddiogel

  • Gwiriwch am beryglon, fel offer trydanol neu draffig.

2. Gwiriwch ymatebolrwydd eich plentyn

  • Ysgogwch eich plentyn yn ysgafn a gofynnwch yn uchel, "Wyt ti’n iawn?".

3A. Os yw'ch plentyn yn ymateb trwy ateb neu symud

  • Gadewch nhw yn y safle y cawsant eu canfod (ar yr amod nad ydynt mewn perygl).
  • Gwiriwch eu cyflwr a cheisiwch gymorth os oes angen.
  • Ailaseswch y sefyllfa yn rheolaidd.

3B. Os nad yw eich plentyn yn ymateb

  • Gwaeddwch am help.
  • Trowch y plentyn ar ei gefn yn ofalus.

Os yw'r plentyn o dan flwydd oed:

  • Sicrhewch fod y pen mewn safle niwtral, gyda'r pen a'r gwddf mewn llinell a heb blygu’n ôl.
  • Ar yr un pryd, gyda blaenau eich bysedd o dan bwynt gên eich plentyn, codwch yr ên. Peidiwch â gwthio ar y meinweoedd meddal (soft tissue) o dan yr ên oherwydd gallai hyn rwystro'r llwybr anadlu.

Os yw'r plentyn dros flwydd oed:

  • Agorwch lwybr anadlu eich plentyn trwy bwyso’r pen yn ôl a chodi'r ên.
  • I wneud hyn, rhowch eich llaw ar eu talcen a symudwch eu pen yn ôl yn ofalus.
  • Ar yr un pryd, gyda blaenau eich bysedd o dan bwynt gên eich plentyn, codwch yr ên. Peidiwch â gwthio ar y meinweoedd meddal o dan yr ên oherwydd gallai hyn rwystro'r llwybr anadlu.

Os ydych chi’n credu bod y gwddf wedi cael anaf, pwyswch y pen yn ôl yn ofalus, ychydig ar y tro, nes bod y llwybr anadlu ar agor. Fodd bynnag, mae agor y llwybr anadlu yn cael blaenoriaeth dros anaf gwddf posibl.

4. Gwiriwch eu hanadlu

Gan gadw'r llwybr anadlu ar agor, edrychwch, gwrandewch a theimlwch am anadlu arferol trwy roi eich wyneb yn agos at wyneb eich plentyn ac edrych ar hyd ei frest.

  • Chwiliwch am symudiadau'r frest.
  • Gwrandewch ar drwyn a cheg y plentyn am synau anadlu.
  • Teimlwch am symudiad aer ar eich boch.

Edrychwch, gwrandewch a theimlwch am ddim mwy na 10 eiliad cyn penderfynu nad ydyn nhw'n anadlu. Ni ddylid ystyried bod ebychiadau yn anadlu arferol.

5A. Os yw'ch plentyn yn anadlu'n normal

  • Trowch nhw ar ei hochr.
  • Gwiriwch am anadlu parhaus.
  • Anfonwch neu ewch am help – peidiwch â gadael eich plentyn oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol.

5B. Os nad yw'ch plentyn yn anadlu neu os yw’n anadlu'n anaml ac yn afreolaidd

  • Tynnwch unrhyw rwystr amlwg yn y geg allan yn ofalus.
  • Rhowch bum anadl achub cychwynnol (adfywio ceg-wrth-geg – mouth-to-mouth resuscitation) – gweler isod.
  • Wrth wneud hyn, sylwch ar unrhyw ymateb gagio neu beswch – mae hyn yn arwydd o fywyd.

Anadliadau achub ar gyfer babi dan flwydd oed

  • Sicrhewch fod y pen mewn safle niwtral a chodwch yr ên.
  • Cymerwch anadl a gorchuddiwch geg a thrwyn eich babi â'ch ceg, gan wneud yn siŵr ei fod wedi'i selio. Os na allwch orchuddio'r geg a'r trwyn ar yr un pryd, seliwch un gyda'ch ceg. Os dewiswch y trwyn, caewch y gwefusau i atal aer rhag dianc.
  • Chwythwch anadl yn raddol i geg a thrwyn y babi am eiliad. Dylai fod yn ddigon i chi weld y frest yn codi.
  • Gan gadw eu pen ar ogwydd (tilted) a’r ên wedi’i chodi, tynnwch eich ceg i ffwrdd a gwyliwch y frest yn disgyn wrth i aer ddod allan.
  • Cymerwch anadl arall ac ailadroddwch y dilyniant hwn bedair gwaith eto.

Anadliadau achub ar gyfer babi dros flwydd oed

  • Pwyswch y pen yn ôl a chodwch yr ên.
  • Caewch y rhan feddal o'u trwyn gan ddefnyddio'r mynegfys a bawd y llaw sydd ar eu talcen.
  • Agorwch eu ceg ychydig, ond cadwch yr ên yn pwyntio i fyny.
  • Cymerwch anadl, yna rhowch eich gwefusau o amgylch eu ceg, gan wneud yn siŵr ei fod wedi'i selio.
  • Chwythwch anadl yn raddol i'w ceg dros ryw eiliad, gan wylio i weld y frest yn codi.
  • Gan gadw eu pen ar ogwydd a’r ên wedi’i chodi, tynnwch eich ceg i ffwrdd a gwyliwch y frest yn disgyn wrth i aer ddod allan.
  • Cymerwch anadl arall ac ailadroddwch y dilyniant hwn bedair gwaith eto. Gwiriwch fod brest eich plentyn yn codi ac yn disgyn yn yr un ffordd â phe bai'n anadlu'n normal.

5C. Llwybr anadlu wedi’i rwystro

Os ydych chi'n cael anhawster cael eich plentyn i anadlu'n effeithiol, efallai bod rhwystr i'r llwybr anadlu

  • Agorwch geg y plentyn a chael gwared ar unrhyw rwystr y gallwch ei weld. Peidiwch â gwthio'ch bysedd nac unrhyw wrthrych i'r geg os na allwch weld yn iawn.
  • Sicrhewch fod y pen a'r ên ar ogwydd ddigon, ond nad yw'r gwddf yn cael ei orestyn.
  • Gwnewch hyd at bum ymgais i gael anadliadau effeithiol (digon fel eich bod yn gallu gweld y frest yn codi). Os yw hyn yn dal yn aflwyddiannus, symudwch ymlaen i gywasgiadau (compressions) ar y frest ynghyd ag anadliadau achub.

6. Aseswch y cylchrediad (arwyddion bywyd)

Chwiliwch am arwyddion bywyd. Mae'r rhain yn cynnwys unrhyw symudiad, peswch, neu anadlu arferol – nid ebychiadau annormal neu anadliadau anaml, afreolaidd.

Arwyddion bywyd yn bresennol

Os oes arwyddion pendant o fywyd:

  • Parhewch ag anadliadau achub nes bod eich plentyn yn dechrau anadlu'n normal drosto'i hun.
  • Trowch y plentyn ar ei ochr i'r safle adfer ac anfonwch am help.
  • Parhewch i wirio am anadlu arferol a darparwch anadliadau achub pellach os oes angen.

Dim arwyddion o fywyd yn bresennol

Os nad oes unrhyw arwyddion o fywyd:

  • Dechreuwch gywasgu'r frest ar unwaith.
  • Cyfunwch gywasgiadau ar y frest ag anadliadau achub, gan ddarparu dau anadl ar ôl pob 30 o gywasgiadau.

7. Cywasgiadau ar y frest: arweiniad cyffredinol

  • Er mwyn osgoi cywasgu'r stumog, ffeindiwch y pwynt lle mae'r asennau isaf yn ymuno yn y canol, ac yna lled un bys uwchlaw hynny. Cywasgwch asgwrn y frest.
  • Gwthiwch i lawr 4cm (ar gyfer babi) neu 5cm (plentyn), sef tua thraean o ddiamedr y frest.
  • Rhyddhewch y pwysau, yna ailadroddwch yn gyflym ar gyfradd o tua 100-120 cywasgiad y funud.
  • Ar ôl 30 o gywasgiadau, symudwch y pen yn ôl, codwch yr ên a rhowch ddau anadliad effeithiol.
  • Parhewch â chywasgiadau ac anadliadau mewn cymhareb o ddau anadl am bob 30 cywasgiad.

Er y bydd cyfradd y cywasgu yn 100-120 y funud, bydd y nifer wirioneddol a wneir yn llai oherwydd y seibiau i roi anadliadau.

Mae'r dull gorau ar gyfer cywasgu yn amrywio ychydig rhwng babis a phlant.

Cywasgiadiau ar y frest mewn babi llai na blwydd oed

  • Gwnewch y cywasgiadau ar asgwrn y frest gyda blaenau dau fys, nid y llaw gyfan neu â dwy law.
  • Mae ansawdd (dyfnder) cywasgiadau ar y frest yn bwysig iawn. Os na ellir cyflawni dyfnder o 4cm gyda blaenau dau fys, defnyddiwch cledr un llaw – gweler y cyngor i blant, isod.

Cywasgiadadau ar y frest mewn plant dros flwydd oed

  • Rhowch cledr un llaw dros draean isaf asgwrn y frest (fel y disgrifir uchod).
  • Codwch y bysedd i sicrhau na roddir pwysau dros yr asennau.
  • Gosodwch eich hun yn fertigol uwchben y frest a, gyda'ch braich yn syth, cywasgwch asgwrn y frest fel eich bod yn ei wthio i lawr 5cm, sef tua thraean o ddiamedr y frest. Mae ansawdd (dyfnder) cywasgiadau ar y frest yn bwysig iawn.
  • Mewn plant mwy o faint, neu os ydych yn fach, gellir gwneud hyn yn haws trwy ddefnyddio'r ddwy law gyda'r bysedd wedi'u cyd-gloi, gan osgoi pwysau ar yr asennau.

Os na wnaeth neb ymateb pan waeddoch am help ar y dechrau a'ch bod ar eich pen eich hun, parhewch â'r adfywio am tua munud cyn ceisio cael cymorth (er enghraifft, drwy ddeialu 999 ar ffôn symudol).

8. Parhewch i adfywio hyd nes

  • Mae eich plentyn yn dangos arwyddion o fywyd (anadlu arferol, peswch, symud breichiau neu goesau).
  • Mae cymorth cymwys pellach yn cyrraedd.

Rhagor o wybodaeth am gymorth cyntaf

Y Groes Goch Brydeinig: cyrsiau hyfforddiant cymorth cyntaf yn eich ardal

 


Last Updated: 27/06/2023 13:19:43
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk