Gwybodaeth beichiogrwydd


Mynd allan

Os oes gennych efeilliaid neu fwy o fabis, mae'n hawdd teimlo eich bod chi’n cael eich gadael allan o rai o'r gweithgareddau y mae mamau a'u babis sengl yn eu mwynhau. Mae'n anoddach mynd allan gyda dau neu fwy o fabis, yn enwedig pan maen nhw'n ifanc iawn.

Mae’n gallu cymryd mwy o amser i sefydlu trefn sy'n eich galluogi i fynd i grwpiau neu ddosbarthiadau babanod rheolaidd, a phan fyddan nhw’n hŷn, mae'n ddrutach talu am weithgareddau.

Ond mae ffyrdd o gwrdd â mamau a phlant eraill, i wneud yn siŵr nad ydych chi’n teimlo'n unig yn y pen draw.

Cylchoedd chwarae ar gyfer gefeilliaid

Mae cylchoedd chwarae yn ffordd wych o gwrdd â rhieni lleol eraill, ond gallan nhw fod yn her pan fydd gennych ddau fabi. I wneud yn siŵr nad ydych chi’n gwneud taith wastraffus, ffoniwch yn gyntaf i wneud yn siŵr bod lle i'ch gefeilliaid yn y grŵp, a hefyd eich bod chi’n gallu cael eich cadair wthio i mewn i'r adeilad. Gofynnwch i ffrind neu berthynas ddod draw a rhoi help llaw i chi.

Dosbarthiadau babanod ar gyfer mwy nag un babi

Mae dosbarthiadau babanod yn gallu bod yn ddrud, yn enwedig pan fydd yn rhaid i chi dalu am ddau fabi, ond gofynnwch i'ch cyngor lleol am gyrsiau am ddim neu am bris gostyngol. Er enghraifft, mae llawer o lyfrgelloedd yn rhedeg grwpiau stori a darllen am ddim. Mae Tamba hefyd wedi trafod gostyngiadau gydag amrywiaeth o sefydliadau ar gyfer ei aelodau ac mae'n cynnig aelodaeth ostyngol (discount membership) i deuluoedd mewn angen neu’r rhai sydd ar fudd-daliadau.

Mynd allan o'r tŷ

Mae gadael y tŷ gyda dau neu fwy o fabis yn gallu bod yn her. Efallai y byddwch yn ei chael hi'n haws os ydych chi a'ch partner yn gweithio gyda'ch gilydd i gael eich babis yn barod ar gyfer gwibdeithiau. 

Ceisiwch fod yn drefnus a chadw pethau'n syml. Gwnewch yn siwr eich bod chi’n ailstocio eich bag cewynnau/clytiau gyda chewynnau, clytiau gwlyb a dillad glân bob nos. Gallech chi hefyd gynnwys ychydig o arian ac ychydig o deganau bach. Cadwch eich allweddi yn yr un lle bob amser, efallai ar fachyn ger y drws.

Os oes gennych fabis sydd wedi’u geni yn y gaeaf, efallai y bydd blancedi neu orchudd pram yn haws i'w ddefnyddio na siwtiau eira.

Dod o hyd i gymorth gyda gefeilliaid

Mae elusennau fel Tamba, sydd â llinell gymorth bwrpasol am ddim (Twinline), a’r Multiple Births Foundation  yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am sefydliadau sy'n cefnogi rhieni gefeilliaid drwy gydol eu plentyndod. Mae Twinline ar agor bob dydd rhwng 10am-1pm a 7pm-10pm. Ffoniwch nhw am ddim ar 0800 138 0509.

 


Last Updated: 27/06/2023 12:03:16
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk