Gwybodaeth beichiogrwydd


Babanod: bwydydd i'w hosgoi

Halen

Ddylai babis ddim bwyta llawer o halen, gan nad yw'n dda i'w harennau (kidneys).

Peidiwch ag ychwanegu halen at fwyd eich babi neu ddŵr coginio, a pheidiwch â defnyddio ciwbiau stoc na grefi, gan eu bod yn aml yn uchel mewn halen.

Cofiwch hyn pan fyddwch chi'n coginio ar gyfer y teulu os ydych chi'n bwriadu rhoi'r un bwyd i'ch babi.

Ceisiwch osgoi bwydydd hallt fel:

  • cig moch
  • selsig
  • sglodion gyda halen ychwanegol
  • cracers
  • creision
  • prydau parod
  • bwyd tecawê

Siwgr

Does dim angen siwgr ar eich babi.

Drwy osgoi byrbrydau a diodydd llawn siwgr (gan gynnwys sudd ffrwythau a diodydd ffrwythau eraill), byddwch yn helpu i atal pydredd dannedd.

Braster dirlawn

Peidiwch â rhoi gormod o fwydydd sy'n uchel mewn braster dirlawn (saturated fat), fel creision, bisgedi a chacennau i'ch plentyn .

Gall gwirio'r labeli maeth ar fwyd eich helpu i ddewis bwydydd sy'n is mewn braster dirlawn.

Mêl

O bryd i'w gilydd, mae mêl yn cynnwys bacteria sy'n gallu cynhyrchu tocsinau mewn coluddion babi, gan arwain at fotwliaeth (botulism) babanod, sy'n salwch difrifol iawn.

Mae'n well peidio â rhoi mêl i'ch plentyn nes ei fod yn flwydd oed. Mae mêl yn siwgr, felly bydd ei osgoi hefyd yn helpu i atal pydredd dannedd.

Cnau cyfan a chnau daear

Ddylech chi ddim rhoi cnau cyfan, gan gynnwys cnau mwnci (peanuts) i blant dan bump oed gan y gallan nhw dagu ar y rhain.

Gallwch chi roi cnau a chnau mwnci i'ch babi o tua 6 mis oed, cyn belled â'u bod wedi'u gwasgu, wedi’u malu neu eu bod mewn menyn cnau llyfn neu peanut butter.

Os oes hanes o alergeddau bwyd neu alergeddau eraill yn eich teulu, siaradwch â'ch meddyg teulu neu'ch ymwelydd iechyd cyn cyflwyno cnau a chnau mwnci.

Rhai cawsiau

Gall caws fod yn rhan o ddeiet iach a chytbwys i fabis a phlant ifanc, ac mae'n darparu calsiwm, protein a fitaminau.

Gall babis fwyta caws braster llawn wedi'i basteureiddio o 6 mis oed. Mae hyn yn cynnwys cawsiau caled, fel caws cheddar ysgafn, caws colfran (cottage cheese) a chaws hufen.

Ni ddylai babis a phlant ifanc fwyta cawsiau meddal wedi'u haeddfedu â llwydni, fel brie neu camembert, neu gaws llaeth geifr wedi'i aeddfedu a chaws glas-gwythïen (blue-veined) feddal, fel roquefort, gan fod mwy o risg y gallai'r cawsiau hyn gario bacteria o'r enw listeria.

Mae llawer o gawsiau'n cael eu gwneud o laeth heb ei basteureiddio. Mae'n well osgoi'r rhain oherwydd y risg o listeria.

Gallwch wirio labeli ar gawsiau i wneud yn siŵr eu bod wedi'u gwneud o laeth wedi'i basteureiddio.

Ond gellir defnyddio'r cawsiau hyn fel rhan o rysáit wedi'i goginio gan fod listeria yn cael ei ladd drwy goginio. Mae brie wedi'i bobi, er enghraifft, yn opsiwn mwy diogel.

Wyau amrwd a heb eu coginio

Gall babis gael wyau o tua 6 mis oed.

Os yw'r wyau yn wyau ieir a bod ganddynt lew coch wedi'i stampio arnynt, neu os gwelwch nod ansawdd y llew coch gyda'r geiriau "British Lion Quality" ar y bocs, mae'n iawn i'ch babi eu cael yn amrwd (er enghraifft, mewn mayonnaise cartref) neu wedi'u coginio'n ysgafn.

Dylid coginio wyau ieir nad oes ganddynt nod answadd y llew coch nes bod y gwyn a'r melynwy yn solet. Dylech chi wneud yr un peth ag wyau hwyaden, gŵydd neu sofliar (quail).

Dylech osgoi wyau amrwd, gan gynnwys cymysgedd cacen heb ei goginio, hufen iâ cartref, mayonnaise cartref, neu bwdinau sy'n cynnwys wy heb ei goginio na allwch gadarnhau bod ganddo nod ansawdd y llew coch.

Diodydd reis

Ni ddylai plant dan 5 oed gael diodydd reis yn lle llaeth y fron neu fformiwla fabanod (neu laeth buwch ar ôl 1 oed) gan y gall y diodydd hyn gynnwys gormod o arsenig.

Mae arsenig i'w gael yn naturiol yn yr amgylchedd a gall fod yn ein bwyd a'n dŵr.

Mae reis yn tueddu i amsugno mwy o arsenig na grawn eraill, ond nid yw hyn yn golygu na allwch chi na'ch babi fwyta reis.

Yn yr UE, mae lefelau uchafswm o arsenig anorganig sy’n cael eu caniatáu mewn reis a chynhyrchion reis, ac mae lefelau llymach hyd yn oed yn cael eu gosod ar gyfer bwydydd ar gyfer plant ifanc.

Peidiwch â phoeni os yw eich plentyn eisoes wedi cael diodydd reis. Does dim risg uniongyrchol iddyn nhw, ond mae'n well newid i fath gwahanol o laeth.

Ciwbiau jeli amrwd

Gall ciwbiau jeli amrwd fod yn berygl tagu i fabis a phlant ifanc. Os ydych chi'n gwneud jeli o giwbiau jeli amrwd, gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Cregyn pysgod amrwd

Gall cregyn pysgod (shellfish) amrwd neu gregyn pysgod wedi'u coginio'n ysgafn, fel cregyn gleision (mussels), cregyn bylchog (clams) ac wystrys (oysters), gynyddu'r risg o wenwyn bwyd, felly mae'n well peidio â'u rhoi i fabis.

Siarc, cleddbysgodyn a marlyn

Peidiwch â rhoi siarc, cleddbysgodyn (swordfish) neu farlyn i'ch babi. Gall y lefel o fercwri yn y pysgod hyn effeithio ar system nerfol gynyddol babi.


Last Updated: 17/05/2023 09:56:35
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk