Gwybodaeth beichiogrwydd


Syniadau bwyd i blant

Os oes angen ychydig o ysbrydoliaeth arnoch i'ch helpu i goginio bwyd iach a blasus i'ch plant, rhowch gynnig ar y syniadau hyn.

Dydy’r bwydydd hyn ddim yn addas fel bwydydd cyntaf, ond yn iawn unwaith y bydd eich babi wedi arfer bwyta amrywiaeth eang o fwydydd solet.

Wrth baratoi bwyd ar gyfer babis, peidiwch ag ychwanegu siwgr na halen (gan gynnwys ciwbiau stoc a grefi) yn uniongyrchol at y bwyd nac i'r dŵr coginio.

Syniadau brecwast i fabis a phlant ifanc

  • uwd heb ei felysu neu rawnfwydydd siwgr is wedi'i gymysgu â llaeth cyflawn a ffrwythau ar ei ben, fel peren aeddfed neu fanana
  • grawnfwyd bisgedi gwenith cyflawn (dewiswch opsiynau siwgr is) gyda llaeth cyflawn a ffrwythau
  • grawnfwyd brecwast siwgr is ac afal wedi'i stiwio heb ei felysu gydag iogwrt plaen, heb ei felysu
  • bysedd tost gyda banana stwnsh a peanut butter llyfn (os yw'n bosibl, dewiswch fathau heb halen a siwgr ychwanegol)
  • bysedd tost gydag wy wedi'i ferwi'n galed a sleisys o domato, banana neu eirinen wlanog aeddfed
  • bysedd tost neu myffin gydag wy wedi'i sgramblo a sleisys o domato

Syniadau cinio ar gyfer babis a phlant ifanc

  • cyri cig oen gyda reis
  • caws blodfresych gyda darnau pasta wedi'u coginio
  • ffa pob (gyda llai o halen a siwgr) gyda thost
  • wy wedi'i sgramblo gyda thost, chapatti neu fara pitta wedi'i weini â bysedd llysiau
  • dip caws bwthyn (llawn braster) gyda bara pitta, ciwcymbr a ffyn moron

Syniadau cinio ar gyfer babis a phlant ifanc

  • tatws melys wedi'u stwnsio gyda ffacbys a blodfresych
  • pastai bugail (wedi'i wneud â briwgig (mince) cig eidion neu gig oen a/neu ffacbys neu friwgig llysieuol) gyda llysiau gwyrdd
  • reis a phys stwnsh gyda ffyn courgette
  • caserol briwgig cyw iâr a llysiau gyda thatws stwnsh
  • eog tun wedi'i stwnsio gyda couscous a phys
  • pysgod wedi'u potsio mewn llaeth gyda thatws, brocoli a moron

Bwydydd bysedd ar gyfer babis a phlant ifanc

Mae bwyd bysedd yn fwyd sy'n cael ei dorri'n ddarnau digon mawr i'ch plentyn eu dal yn ei ddwrn. Mae darnau tua maint eich bys yn gweithio'n dda.

Enghreifftiau o fwydydd bysedd:

  • llysiau wedi'u coginio'n feddal fel brocoli, blodfresych, courgette, pannas a thatws melys
  • ffyn moron neu giwcymbr ac afocado
  • ffrwythau ffres, fel afal (wedi'u coginio'n feddal os oes angen), banana neu beren neu eirinen wlanog feddal aeddfed wedi’i chrafu
  • tost, pitta neu fysedd chapatti
  • cacennau reis neu ŷd heb halen a heb eu melysu
  • stribedi o gig heb esgyrn, fel cyw iâr a chig oen
  • bysedd tost cawslyd (braster llawn) a chiwcymbr
  • wyau wedi'u berwi'n galed
  • bysedd omled

Byrbrydau iach i blant ifanc

Nid oes angen byrbrydau ar fabis o dan 12 mis oed; os ydych chi'n meddwl bod eich babi'n llwglyd rhwng prydau bwyd, cynigiwch laeth ychwanegol iddo.

Unwaith y bydd eich babi'n 1 oed, gallwch gyflwyno 2 fyrbryd iach rhwng prydau bwyd:

  • llysiau fel blodau brocoli, ffyn moron neu ffyn ciwcymbr
  • sleisys o ffrwythau, fel afal, banana neu beren neu eirinen wlanog feddal aeddfed wedi’i chrafu
  • iogwrt plaen braster llawn wedi'i basteureiddio, heb ei melysu
  • bysedd tost, pitta neu chapatti
  • cacennau reis neu ŷd heb halen a heb eu melysu
  • ciwbiau bach o gaws

Cael eich plentyn i fwyta ffrwythau a llysiau

Gall gymryd hyd at 10 gwaith, neu hyd yn oed fwy, i'ch plentyn ddod i arfer â bwydydd, blas a gwead newydd.

Byddwch yn amyneddgar a daliwch ati i gynnig amrywiaeth o ffrwythau a llysiau, gan gynnwys rhai â blasau chwerw fel brocoli, blodfresych, sbigoglys (spinach) a bresych.

Ceisiwch sicrhau bod ffrwythau a llysiau'n cael eu cynnwys ym mhob pryd bwyd.

Rhowch gynnig ar y ffyrdd hyn o helpu eich plentyn i fwyta mwy o ffrwythau a llysiau:

  • rhoi ffyn moron, ffyn ciwcymbr neu sleisys o bupur gyda hwmws fel byrbryd
  • rhoi sleisys afal gyda menyn cnau daear llyfn fel byrbryd
  • cymysgu llysiau wedi'u torri neu eu stwnsio gyda reis, tatws stwnsh, sawsiau cig neu dhal
  • ychwanegu llysiau at brydau sawrus clasurol fel pastai bwthyn neu bastai bugail, sbageti bolognese neu gaserols
  • torri eirin sych neu fricyll sych i mewn i rawnfwyd neu iogwrt plaen, heb ei felysu, neu ychwanegu’r ffrwythau hyn at stiw
  • am bwdin blasus, ceisiwch gymysgu ffrwythau (ffres, tun neu wedi'u stiwio) gydag iogwrt plaen, heb ei felysu.

Diodydd i fabis a phlant ifanc

Pan fydd eich babi tua 6 mis oed, dylai llaeth y fron a llaeth fformiwla cyntaf barhau i fod ei brif ddiod.

Gallwch chi ddefnyddio llaeth buwch cyflawn wrth goginio neu wedi’i gymysgu â bwyd pan fydd eich babi tua 6 mis oed ond ddylech chi ddim ei roi fel diod nes ei fod yn 12 mis oed. Dylech chi roi llaeth cyflawn i blant nes eu bod yn ddwy flwydd oed, gan fod angen yr egni a'r fitaminau ychwanegol y mae'n ei gynnwys arnyn nhw.

Gallwch chi gyflwyno llaeth hanner sgim unwaith y bydd eich plentyn yn ddwy oed, cyn belled ei fod yn bwyta deiet amrywiol ac yn bwyta’n dda.

Dydy llaeth sgim ac 1% ddim yn addas ar gyfer plant o dan 5 oed, gan nad ydyn nhw’n cynnwys digon o galorïau.

Mae diodydd ffrwythau siwgrog, llaeth â blas, diodydd "ffrwythau" neu "sudd" a diodydd swigod llawn siwgr yn gallu achosi pydredd dannedd, hyd yn oed pan fyddwch yn eu gwanhau â dŵr. Mae’r diodydd hyn hefyd yn gallu llenwi eich plentyn fel nad yw’n llwglyd am fwyd iachach. Yn hytrach, cynigiwch sipiau o ddŵr o gwpan gyda phrydau bwyd.

 


Last Updated: 12/07/2023 11:49:13
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk