Gwybodaeth beichiogrwydd


Peswch, annwyd a haint y glust

Anwydau plant

Mae'n arferol i blentyn gael wyth neu fwy o anwydau’r flwyddyn. Y rheswm am hyn yw bod cannoedd o wahanol firysau annwyd ac nid oes gan blant ifanc imiwnedd i'r un ohonyn nhw gan nad ydyn nhw erioed wedi'u cael o'r blaen. Yn raddol mae’n adeiladu imiwnedd ac yn cael llai o anwydau.

Mae'r rhan fwyaf o anwydau’n gwella mewn pump i saith diwrnod. Dyma rai awgrymiadau ar sut i leddfu symptomau eich plentyn:

  • Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn yfed digon o hylifau.
  • Gall diferion trwyn halwynog (saline nose drops) helpu i lacio snot sych a lleddfu trwyn sych. Gofynnwch i'ch fferyllydd, eich meddyg teulu neu’ch ymwelydd iechyd am y rhain.
  • Os oes gan eich plentyn dwymyn (fever), poen neu anesmwythder, gall paracetamol neu ibuprofen helpu. Efallai na fydd plant ag asthma yn gallu cymryd ibuprofen, felly holwch eich fferyllydd, eich meddyg teulu neu’ch ymwelydd iechyd yn gyntaf. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn bob amser.
  • Anogwch y teulu cyfan i olchi eu dwylo'n rheolaidd i atal anwydau rhag lledaenu.

Meddyginiaethau peswch ac annwyd i blant

Ni ddylai plant o dan chwech oed gael meddyginiaeth peswch ac annwyd dros y cownter, gan gynnwys moddion llacio (meddyginiaethau i glirio trwyn wedi'i rwystro), oni bai bod meddyg teulu neu fferyllydd yn eich cynghori i’w rhoi i’ch plentyn.

Dolur gwddf plant

Mae dolur gwddf yn aml yn cael ei achosi gan afiechydon firysol fel annwyd neu’r ffliw. Mae gwddf eich plentyn yn gallu bod yn sych ac yn boenus am ddiwrnod neu ddau cyn i annwyd ddechrau. Gallwch chi roi paracetamol neu ibuprofen i leihau'r boen.

Mae'r rhan fwyaf o achosion o ddolur gwddf yn clirio ar eu pennau eu hunain ar ôl ychydig ddyddiau. Os oes gan eich plentyn ddolur gwddf am fwy na phedwar diwrnod, mae ganddo dymheredd uchel ac yn gyffredinol yn sâl, neu'n methu â llyncu hylifau neu boer, ewch at eich meddyg teulu.

Ewch i ddolur gwddf am fwy o wybodaeth.

Peswch plant

Mae plant yn aml yn pesychu pan fydd annwyd arnynt oherwydd bod mwcws yn diferu i lawr cefn y gwddf.

Os yw'ch plentyn yn bwydo, yfed, bwyta ac anadlu'n normal ac nad oes gwichian, nid yw peswch fel arfer yn unrhyw beth i boeni amdano.

Er ei bod yn ofidus clywed eich plentyn yn pesychu, mae peswch yn helpu i glirio fflem o'r frest neu fwcws o gefn y gwddf.

Os yw'ch plentyn dros 1 oed, gall geisio yfed diod gynnes o lemwn a mêl.

I wneud lemwn poeth gyda mêl gartref, mae angen i chi:

  •      gwasgu hanner lemwn i mewn i fwg o ddŵr wedi'i ferwi
  •      ychwanegu 1 i 2 lwy de o fêl
  •      yfwch tra'n dal yn gynnes (peidiwch â rhoi diodydd poeth i blant bach)

Os yw eich plentyn wedi cael peswch sydd wedi para mwy na 3 wythnos, ewch i weld meddyg teulu.

Os yw tymheredd eich plentyn yn uchel iawn, neu os yw'n teimlo'n boeth ac yn crynu, efallai y bydd ganddo haint ar y frest. Dylech fynd â nhw at feddyg teulu, neu gallwch ffonio 111.

Os caiff hyn ei achosi gan facteria yn hytrach na firws, bydd y meddyg teulu yn rhagnodi gwrthfiotigau i drin yr haint. Ni fydd gwrthfiotigau yn lleddfu nac yn atal y peswch ar unwaith.

Os bydd peswch yn parhau am amser hir, yn enwedig os yw'n waeth yn y nos neu os bydd eich plentyn yn rhedeg o gwmpas, gallai fod yn arwydd o asthma.

Ewch â nhw at feddyg teulu, a fydd yn gallu gwirio a oes asthma ar eich plentyn.

Os yw'ch plentyn yn ei chael hi'n anodd anadlu, ewch i'r adran damweiniau ac achosion brys neu ffoniwch 999 ar unwaith gan y bydd angen triniaeth frys arno yn yr ysbyty.

Crŵp

Mae gan blentyn sydd â chrŵp beswch cyfarth nodedig a bydd yn gwneud sŵn caled, o’r enw gwichian, pan fydd yn anadlu i mewn. Efallai y bydd ganddo drwyn sy'n rhedeg, dolur gwddf a thymheredd uchel hefyd.

Fel arfer, gall meddyg teulu ddiagnosio crŵp a gellir ei drin gartref. Fodd bynnag, os yw symptomau eich plentyn yn ddifrifol a'i fod yn ei chael hi'n anodd anadlu, ewch â’ch plentyn i’r adran ddamweiniau ac achosion brys agosaf.

Darllenwch fwy am symptomau crŵp.

Heintiau clust plant

Mae heintiau ar y glust yn gyffredin mewn babis a phlant bach. Maen nhw yn aml yn dilyn anwydau ac weithiau'n achosi tymheredd uchel. Gall babi neu blentyn bach dynnu neu rwbio’i glust. Ymhlith y symptomau posibl eraill mae twymyn (fever), anniddigrwydd, crio, anhawster bwydo, aflonyddwch yn y nos a pheswch.

Os oes gan eich plentyn glust dost, gyda neu heb dwymyn, gallwch chi roi paracetamol neu ibuprofen iddo ar y dos a argymhellir. Rhowch gynnig ar un yn gyntaf ac, os nad yw'n gweithio, gallwch chi roi cynnig ar y llall.

Peidiwch â rhoi unrhyw olew, diferion clust neu ffyn cotwm yng nghlust eich plentyn oni bai bod eich meddyg teulu yn eich cynghori i wneud hynny.

Mae'r rhan fwyaf o heintiau ar y glust yn cael eu hachosi gan firysau ac nid yw’n bosibl trin y rhain â gwrthfiotigau. Bydd yr heintiau hyn yn gwella ar eu pen eu hunain, fel arfer o fewn tua thri diwrnod.

Ar ôl cael haint ar y glust, efallai y bydd eich plentyn yn cael problemau clyw am ddwy i chwe wythnos. Os bydd y broblem yn para am fwy o amser na hyn, gofynnwch i'ch meddyg teulu am gyngor.

Dysgwch fwy am heintiau ar y glust (otitis media).

Clust ludiog mewn plant

Gall heintiau clust ganol rheolaidd (otitis media) arwain at glust ludiog (glue ear), lle mae hylif gludiog yn cronni ac yn gallu effeithio ar glyw eich plentyn. Gall hyn arwain at leferydd aneglur neu broblemau ymddygiad.

Os ydych chi'n ysmygu, mae eich plentyn yn fwy tebygol o ddatblygu clust ludiog a bydd yn gwella'n arafach. Bydd eich meddyg teulu yn rhoi cyngor i chi ar drin clust lidiog.

 


Last Updated: 13/06/2023 10:48:13
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk