Gwybodaeth beichiogrwydd


Mathau o fformiwla babanod

Mae llaeth fformiwla, sydd hefyd yn cael ei alw’n fformiwla babanod, fel arfer yn cael ei wneud o laeth buwch sydd wedi'i drin i'w wneud yn fwy addas i fabi.

Mae amrywiaeth mawr o frandiau a mathau gwahanol o fformiwla ar gael mewn fferyllfeydd a siopau. Edrychwch y labeli'n ofalus bob tro er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi’n prynu llaeth sy’n addas i’ch babi chi.

Mae dau brif fath o fformiwla ar gael sef powdr sych rydych chi'n ei gymysgu â dŵr, neu fformiwla sydd wedi’i gymysgu’n barod. Er y gall fformiwla sydd wedi’i gymysgu’n barod fod yn gyfleus Mae'n tueddu i fod yn ddrutach ac, ar ôl ei agor bydd angen ei ddefnyddio’n gynt.

Mae llaeth fformiwla yn rhoi'r maetholion sydd eu hangen ar fabi i dyfu a datblygu. Fodd bynnag, nid oes ganddo'r un manteision iechyd â llaeth y fron i chi a'ch babi. Er enghraifft, dydy llaeth fformiwla ddim yn gallu amddiffyn eich babi rhag haint.

Y Llaeth Fformiwla Cyntaf (y llaeth cyntaf)

Addas o enedigaeth a thu hwnt

Y Llaeth Fformiwla Cyntaf (First Infant) ddylai fod y fformiwla cyntaf ar gyfer eich babi.

Mae llaeth buwch a ddefnyddir mewn fformiwla yn cynnwys 2 fath o brotein sef maidd (whey) a casein. Mae fformiwla hwn yn seiliedig ar brotein maidd. Y farn yw bod y fformiwla yma’n haws i’r babi ei dreulio na mathau eraill o fformiwla.

Oni bai bod eich bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu eich meddyg teulu yn awgrymu fel arall, y llaeth fformiwla cyntaf yw'r unig fformiwla sydd ei angen ar y babi. Mae eich babi yn gallu aros ar fformiwla yma pan fyddwch chi’n dechrau cyflwyno bwydydd solet  tua 6 mis oed. Mae’r babi yn gallu parhau i’w hyfed drwy gydol y flwyddyn gyntaf.

Does dim unrhyw dystiolaeth bod newid i laeth fformiwla gwahanol yn gwneud unrhyw les na niwed i’ch babi. Fodd bynnag, os ydych chi’n meddwl bod brand fformiwla arbennig yn anghytuno â'ch babi, siaradwch â bydwraig neu ymwelydd iechyd. Maen nhw’n gallu eich helpu i benderfynu a ddylid rhoi cynnig ar fath gwahanol o fformiwla.

Pan fydd eich babi yn flwydd oed, mae’r babi yn gallu dechrau yfed llaeth buwch cyflawn neu laeth dafad neu laeth gafr (cyn belled â'i fod wedi'i basteureiddio).

Fformiwla llaeth gafr

Addas o enedigaeth a thu hwnt

Mae gwahanol fathau o laeth gafr ar gael mewn fferyllfa neu siop.  Maen nhw wedi’u cynhyrchu i'r un safonau maeth â fformiwla sy'n seiliedig ar laeth buwch.

Dydy llaeth gafr ddim yn llai tebygol o achosi alergedd mewn babanod na fformiwla llaeth buwch.

Dydy llaeth gafr ddim yn addas ar gyfer babanod sydd ag alergedd i laeth buwch (sydd hefyd yn cael ei alw’n alergedd protein i laeth buwch), gan fod y proteinau y maen nhw’n ei gynnwys yn debyg iawn i’w gilydd.

Fformiwla i fabi sy’n fwy llwglyd (hungry milk)

Addas o enedigaeth  ac ymlaen (ond gofynnwch i fydwraig neu ymwelydd iechyd am gyngor yn gyntaf).

Mae'r math hwn o fformiwla yn cynnwys mwy o casein na maidd, ac mae casein yn anoddach i fabanod i’w dreulio.

Er ei fod yn aml yn cael ei ddisgrifio fel un sy'n addas ar gyfer "babanod llwglyd", nid oes tystiolaeth bod babanod yn setlo'n well neu'n cysgu'n hirach pan fyddan nhw’n cael y math hwn o fformiwla.

Fformiwla wrth-adlifol (anti-reflux)

Addas o enedigaeth ac ymlaen (ond dim ond o dan oruchwyliaeth feddygol).

Mae'r math hwn o fformiwla wedi'i dewhau gyda'r pwrpas o atal adlifiad mewn babanod (pan fydd babi yn dod â llaeth i fyny naill ai yn ystod neu ar ôl bwydo).

Er ei fod ar gael mewn fferyllfeydd ac archfarchnadoedd, fe argymhellir ei ddefnyddio ar gyngor gweithiwr iechyd proffesiynol yn unig.

Mae’r cyfarwyddiadau ar gyfer paratoi fformiwlâu gwrth-adlifol yn gallu bod yn wahanol i fformiwlâu arferol.  Mae'r canllawiau arferol ar gyfer cymysgu fformiwla yn argymell defnyddio dŵr wedi'i ferwi sydd wedi sefyll am ddim mwy na 30 munud, fel bod y tymheredd yn dal yn uwch na 70° C.

Mae rhai gweithgynhyrchwyr fformiwla gwrth-adlifol yn argymell ei gwneud ar dymheredd is na’r hyn sy’n cael ei argymell fel arfer. Fel arall, mae’n gallu cynnwys 'lympiau'. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn neu siaradwch â gweithiwr iechyd proffesiynol am gyngor.

Mae'n bwysig cymryd gofal ychwanegol wrth gymysgu’r cynhyrchion hyn a'u storio gan nad ydy fformiwla powdr yn ddi-haint (sterile). Gan fod y fformiwla yn cael ei chymysgu ar dymheredd is, fydd hyn ddim yn lladd unrhyw facteria niweidiol y mae’n gallu ei gynnwys.

Siaradwch â bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg teulu os oes gennych unrhyw bryderon.

Fformiwla gysur (Comfort formula)

Addas o enedigaeth ac ymlaen (ond gofynnwch i fydwraig neu ymwelydd iechyd am gyngor yn gyntaf).

Mae'r math hwn o fformiwla yn cynnwys proteinau llaeth buwch sydd eisoes wedi'u torri i lawr yn rhannol (wedi'u hydroleiddio’n rhannol). Mae hyn i fod i'w gwneud yn haws treulio a helpu i atal problemau treulio fel colig a mynd yn rhwym. Fodd bynnag, does dim tystiolaeth ar gyfer hyn.

Dydy fformiwla rannol hydrol (partially hydrolysed) ddim yn addas ar gyfer babi sydd ag alergedd i laeth buwch.

Fformiwla ddi-lactos

Addas o enedigaeth ac ymlaen (ond dim ond o dan oruchwyliaeth feddygol).

Mae'r fformiwla yma’n addas ar gyfer babanod sydd ag anoddefiad lactos. Mae anoddefiad lactos yn golygu nad ydy babi sydd â’r cyflwr hwn yn gallu amsugno lactos, sy'n siwgr naturiol mewn llaeth a chynhyrchion llaeth.

Mae anoddefiad lactos yn brin mewn babanod. Mae'r symptomau'n cynnwys dolur rhydd, poen yn yr abdomen, gwynt gyda theimlad llawn (bloated).

Mae fformiwla ddi-lactos ar gael mewn fferyllfa neu siop, ond os ydych chi’n meddwl y gallai eich babi fod ag anoddefiad i lactos, mae'n bwysig siarad â bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.

Fformiwla hypo-alergenig

Addas o enedigaeth ac ymlaen (ond dim ond o dan oruchwyliaeth feddygol).

Os ydy eich babi yn cael diagnosis o fod ag alergedd i laeth buwch, bydd y meddyg teulu yn cynnig llaeth fformiwla fydd â phroteinau sydd wedi'u hydrolysu'n llawn (wedi'u torri i lawr yn gyfan gwbl).

Mae fformiwla gyda phroteinau sydd wedi’u hydrolysu’n rhannol (fformiwla gysur) ar gael mewn fferyllfeydd a siopau, ond dydyn nhw ddim yn addas ar gyfer babanod sydd ag alergedd i laeth buwch.

Fformiwla ddilynol (Follow-on)

Addas o 6 mis oed ymlaen (ond gofynnwch i ymwelydd iechyd am gyngor yn gyntaf).

Ddylech chi byth fwydo fformiwla ddilynol i fabi o dan 6 mis oed.

Mae ymchwil yn dangos nad ydy’r newid i fformiwla ddilynol yn 6 mis oed yn dod â manteision i'ch babi. Mae eich babi yn gallu parhau i gael llaeth fformiwla cyntaf fel ei brif ddiod nes ei fod yn 1 oed.

Mae’r labeli ar fformiwlâu dilynol yn gallu edrych yn debyg iawn i'r rhai ar y fformiwlâu babanod cyntaf. Darllenwch y label yn ofalus er mwyn osgoi gwneud camgymeriad.

Fformiwla soia

Addas o 6 mis oed ac ymlaen (ond dim ond o dan oruchwyliaeth feddygol).

Mae fformiwla soia yn cael ei wneud o ffa soia, nid llaeth buwch. Mae’n cael ei defnyddio o bryd i'w gilydd fel dewis arall i fformiwla laeth buwch ar gyfer babanod sydd ag alergedd i laeth buwch.

Mae rhai pryderon am y ffaith bod soia yn cynnwys ffistoestrogenau (phytoestrogens). Mae'r rhain i'w cael yn naturiol mewn rhai planhigion.

Mae strwythur cemegol ffistoestrogenau yn debyg i'r hormon oestrogen mewn merched. Oherwydd hyn, mae pryderon y gall y rhain effeithio ar ddatblygiad atgenhedlol babi, yn arbennig felly mewn babanod sy'n yfed llaeth fformiwla soia yn unig.

Mae’r ffaith fod babi yn pwyso ychydig yn golygu eu bod yn amsugno llawer mwy o ffistoestrogenau na phlant hŷn neu oedolion sy'n bwyta cynhyrchion soia fel rhan o ddeiet amrywiol a chytbwys.

Hefyd, oherwydd bod fformiwla soia yn cynnwys glwcos, mae hyn yn fwy tebygol o arwain at niweidio dannedd babi.

Defnyddiwch fformiwla soia dim ond os ydy hyn wedi cael ei argymell neu ei roi gan ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.

Llaeth tyfu i fyny (llaeth i blant bach)

Addas o flwydd oed  ac ymlaen (ond gofynnwch i ymwelydd iechyd am gyngor yn gyntaf).

Mae llaeth tyfu i fyny a llaeth i blant bach yn cael eu marchnata fel dewis arall i laeth buwch cyflawn ar gyfer plant dros 1 oed. Does dim unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y cynhyrchion hyn yn cynnig manteision maethol ychwanegol i blant ifanc.

Mae llaeth buwch cyflawn yn ddewis addas fel prif ddiod i'ch plentyn o 1 oed ymlaen. Mae llaeth buwch hanner sgim yn brif ddiod addas i blant dros 2 oed sy'n bwyta deiet cytbwys.

Mae’n cael ei argymell bod pob plentyn rhwng 6 mis a 5 oed yn cael drops fitamin sy'n cynnwys fitaminau A, C a D bob dydd.

Mathau o laeth i’w hosgoi

Dydy pob math o laeth ddim yn addas ar gyfer bwydo eich babi. Ddylech chi byth rhoi'r mathau canlynol o laeth i fabi o dan 1 oed:

  • llaeth cyddwys (condensed milk)
  • llaeth wedi'i anweddu (evaporated milk)
  • llaeth wedi’i sychu
  • llaeth gafr neu ddefaid (ond mae'n iawn eu defnyddio wrth goginio ar gyfer eich babi, cyn belled â'u bod wedi'u pasteureiddio)
  • mathau eraill o ddiodydd sy’n cael eu galw’n "llaeth", fel diodydd soia, reis, ceirch neu almon
  • llaeth buwch fel diod (ond mae'n iawn ei ddefnyddio wrth goginio)

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 25/07/2023 07:43:30
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk