Arwyddion a Symptomau
Arwyddion cynnar beichiogrwydd
Mae pob beichiogrwydd yn wahanol ac ni fydd pawb yn sylwi ar yr holl symptomau hyn.
Os ydych chi'n poeni am unrhyw symptomau rydych chi'n eu cael, siaradwch â meddyg teulu neu'ch bydwraig.
Colli mislif neu mislif ysgafnach
Os oes gennych chi gylchred mislif misol rheolaidd, yr arwydd cynharaf a mwyaf dibynadwy o feichiogrwydd yw colli mislif.
Yn ystod wythnosau cyntaf beichiogrwydd efallai y byddwch yn cael gwaedu tebyg i mislif ysgafn iawn, gyda pheth sylwi neu golli ychydig o waed yn unig. Gelwir hyn yn waedu mewnblaniad.
Teimlo'n sâl yn ystod beichiogrwydd
Efallai y byddwch chi'n teimlo'n sâl (cyfoglyd) neu'n chwydu. Gelwir hyn yn gyffredin yn salwch bore, ond gall ddigwydd ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.
I'r mwyafrif o ferched sydd â salwch bore, mae'r symptomau'n dechrau pan fyddant tua 4 i 6 wythnos yn feichiog.
Dysgwch mwy am ymdopi â chyfog a salwch y bore yn ystod beichiogrwydd.
Os ydych chi'n sâl trwy'r amser ac yn methu â chadw unrhyw beth i lawr, ewch i weld meddyg teulu.
Efallai bod gennych hyperemesis gravidarum, cyflwr difrifol yn ystod beichiogrwydd sy'n achosi chwydu difrifol ac sydd angen triniaeth.
Teimlo'n flinedig iawn
Mae'n gyffredin i deimlo'n flinedig, neu hyd yn oed yn lluddedig, yn ystod beichiogrwydd, yn enwedig yn ystod y 12 wythnos gyntaf.
Gall y newidiadau hormonaidd sy'n digwydd yn eich corff ar hyn o bryd yn gwneud i chi deimlo'n flinedig, gyfoglyd, emosiynol a gofidus.
Newidiadau yn eich bronnau
Efallai y bydd eich bronnau yn mynd yn fwy ac yn teimlo'n dyner, yn union fel y gallent ei wneud cyn eich mislif. Efallai y byddan nhw'n goglais hefyd.
Efallai y bydd y gwythiennau'n fwy gweladwy, a gall y tethau dywyllu a sefyll allan.
Pasio dwr yn amlach yn awgrymu beichiogrwydd
Efallai y byddwch yn teimlo bod angen pasio dwr yn amlach nag arfer, gan gynnwys yn ystod y nos.
Arwyddion eraill o feichiogrwydd y gallwch sylwi arnynt yw:
Blas rhyfedd, arogleuon a blys
Yn ystod beichiogrwydd cynnar, efallai na fyddwch yn hoffi rhai bwydydd neu ddiodydd yr oeddech chi'n arfer eu mwynhau mwyach.
Efallai y byddwch yn sylwi:
- blas rhyfedd yn eich ceg, y mae llawer o ferched yn ei ddisgrifio fel metelaidd
- chwant am fwydydd newydd
- colli diddordeb mewn rhai bwydydd neu ddiodydd eich bod wedi mwynhau yn flaenorol fel te, coffi neu fwyd brasterog
- colli diddordeb mewn tybaco
- bod yn fwy sensitif i arogleuon nag arfer, er enghraifft i arogl bwyd neu goginio
Os yw'ch prawf beichiogrwydd yn negyddol
Mae canlyniad prawf positif bron yn sicr yn gywir, cyn belled â'ch bod wedi dilyn y cyfarwyddiadau yn gywir.
Mae canlyniad negyddol yn llai dibynadwy. Os cewch ganlyniad negyddol ac yn dal i feddwl y gallech fod yn feichiog, arhoswch wythnos a rhoi cynnig arall arni.
Darganfod mwy am gymryd prawf beichiogrwydd.
Last Updated: 27/06/2023 11:36:27
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk