Gwybodaeth beichiogrwydd


Taldra a phwysau babi

Mae ennill pwysau bob ychydig yn dangos bod eich babi’n iach ac yn bwydo’n dda.

Mae babis yn arfer colli rhywfaint o bwysau yn ystod y dyddiau cyntaf ar ôl cael eu geni.

Bydd eich babi yn cael ei bwyso yn ystod ei 2 wythnos gyntaf i wneud yn siŵr ei fod yn dod yn ôl i’w bwysau geni. Mae’r rhan fwyaf o fabis yn cyrraedd eu pwysau geni, neu hyd yn oed yn drymach na hynny, erbyn dod yn bythefnos oed.

Bydd bydwraig neu ymwelydd iechyd yn helpu os bydd eich babi yn colli llawer iawn o bwysau neu ddim yn dod yn ôl i’w bwysau geni erbyn cyrraedd ei bythefnos oed.

Byddan nhw’n siarad â chi am y bwydo, efallai’n gofyn am gael eich gweld yn bwydo eich babi os ydych chi’n bwydo ar y fron, ac yn edrych ar iechyd eich babi.

Pa mor aml ddylai fy mabi gael ei bwyso?

Ar ôl y 2 wythnos gyntaf, dylai eich babi gael ei bwyso:

  • dim mwy nag unwaith y mis hyd at 6 mis oed
  • dim mwy nag unwaith bob 2 fis o 6 i 12 mis oed
  • dim mwy nag unwaith bob 3 mis dros 1 oed

Fydd eich babi ddim yn cael ei bwyso’n amlach na hyn os na fyddwch chi’n gofyn, neu os bydd problemau tyfu neu broblemau iechyd.

Efallai y bydd hyd eich babi hefyd yn cael ei fesur wrth astudio’i ddatblygiad.

Deall siart pwysau eich babi

Bydd twf eich plentyn yn cael ei roi ar siartiau canraddau yn y llyfr iechyd plentyn personol (‘PCHR’), neu’r ‘llyfr coch’.

Mae’r siartiau yn dangos patrwm twf plant iach – plant sy’n cael eu bwydo ar y fron neu’n cael eu bwydo â fformiwla, neu’n cael y ddau.

Ewch i wefan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant i weld enghreifftiau o siartiau pwysau babanod.

Mae gan fechgyn a merched siartiau gwahanol am fod bechgyn yn tueddu i fod ychydig yn drymach ac yn dalach, ac mae eu patrwm tyfu ychydig yn wahanol.

Deall y llinellau canraddau

‘Llinellau canraddau’ yw’r llinellau crwm ar y siartiau. Maen nhw’n dangos faint yn fwy o bwysau a thaldra sy’n gyffredin mewn babis o wahanol oedran.

Efallai bydd pwysau a thaldra eich babi chi ychydig bach yn wahanol i’r llinell ganraddau. Mae mesuriadau eich babi yn gallu mynd i fyny neu i lawr 1 llinell ganradd ond mae’n llai cyffredin iddyn nhw groesi 2 linell canradd. Os bydd hyn yn digwydd, gall ymwelydd iechyd eich helpu chi.

Mae’n arferol i’ch babi fod ar ganraddau gwahanol o ran pwysau a hyd, ond mae’r ddau fel arfer yn weddol debyg.

Mae pob babi yn wahanol. Fydd siart twf eich babi chi ddim yn edrych yn union yr un fath â siart twf babi arall, hyd yn oed brawd neu chwaer.

Magu pwysau – babi

Fel arfer, bydd eich babi yn magu pwysau gyflymaf yn y 6 i 9 mis cyntaf. Bydd y tyfu’n arafu wrth i’ch babi droi’n blentyn bach mwy egnïol.

Os bydd eich babi neu eich plentyn bach yn sâl, efallai na fydd yn magu cymaint o bwysau am ychydig. Fel arfer bydd yn ôl yn normal o fewn 2 i 3 wythnos.

Pwysau a thaldra – plentyn bach

Mae taldra eich plentyn ar ôl cyrraedd 2 oed yn rhoi rhyw syniad i chi pa mor dal fydd eich plentyn pan fydd yn hŷn. Gallwch ddefnyddio siart rhagfynegi taldra oedolyn yn llyfr coch eich babi i gyfrifo hyn.

Pan fydd eich plentyn yn cyrraedd 2 oed, mae ymwelydd iechyd yn gallu defnyddio ei bwysau a’i daldra i gyfrifo mynegai màs y corff (‘BMI’) a’i blotio ar siart canraddau. Mae hyn yn ffordd o weld a yw pwysau eich plentyn yn iach neu beidio.

Os ydy eich plentyn yn rhy drwm neu’n rhy ysgafn, bydd ymwelydd iechyd yn gallu rhoi help i chi gyda deiet eich plentyn ac ymarfer corff.

Gallwch hefyd ddefnyddio ein cyfrifiannell BMI i wybod ‘BMI’ eich plentyn (cyn belled â’i fod yn 2 oed neu hŷn).

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am bwysau neu daldra eich babi neu eich plentyn bach, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 25/07/2023 07:32:18
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk