Gwybodaeth beichiogrwydd


Lleoliad ac ymlyniad

Sut i fwydo ar y fron

Mae bwydo ar y fron yn sgil yr ydych chi a'ch babi yn ei ddysgu gyda'ch gilydd, ac mae’n gallu cymryd amser i ddod i arfer ag ef.

Mae llawer o wahanol safleoedd y gallwch eu defnyddio i fwydo ar y fron. Gallwch roi cynnig ar rai gwahanol i ddarganfod beth sy'n gweithio orau i chi. Does ond angen i chi ystyried y pwyntiau canlynol:

  • Ydych chi'n gyfforddus? Mae'n werth bod yn gyfforddus cyn bwydo. Defnyddiwch obennydd neu glustog os oes angen. Dylai eich ysgwyddau a'ch breichiau fod wedi ymlacio.
  • A yw pen a chorff eich babi mewn llinell syth? Mae'n anodd i'ch babi lyncu os yw ei ben a'i wddf wedi troi.
  • Ydych chi'n dal eich babi yn agos atoch chi, yn wynebu eich bron? Dylai cynnal gwddf, ysgwyddau a chefn eich babi ei alluogi i symud ei ben yn ôl a llyncu'n hawdd.
  • Dewch â'ch babi at y fron bob amser a gadewch iddo gydio neu ymlynu ar y deth ei hun. Ceisiwch osgoi pwyso eich bron ymlaen i geg eich babi, oherwydd mae hyn yn gallu amharu ar y cydio.
  • Mae angen i'ch babi gael llond ceg o'r fron. Bydd rhoi trwyn eich babi gyferbyn â’ch teth yn ei annog i agor ei geg yn llydan a chydio yn y fron yn dda.
  • Ceisiwch beidio â dal cefn pen eich babi, fel ei fod yn gallu symud ei ben yn ôl. Fel hyn mae eich teth yn mynd heibio i do caled ei geg ac ymlaen i gefn ei geg yn erbyn y daflod feddal.

Darllenwch wybodaeth Start4Life ar 3 safbwynt cyffredin ar gyfer bwydo ar y fron.

Sut i gael y babi i gydio yn eich bron

  1. Daliwch eich babi yn agos atoch gyda’i drwyn gyferbyn â’r deth.
  2. Gadewch i ben eich babi bwyso ychydig yn ôl fel bod ei wefus uchaf yn gallu brwsio yn erbyn eich teth. Dylai hyn helpu eich babi i wneud ceg lydan, agored.
  3. Pan fydd ceg eich babi ar agor yn ddigon llydan, dylai ei ên allu cyffwrdd â'ch bron yn gyntaf, gyda'i ben wedi'i bwyso'n ôl fel bod ei dafod yn gallu cyrraedd cymaint o'ch bron â phosibl.
  4. Gyda gên eich babi yn cyffwrdd â'ch bron yn gadarn a'i drwyn yn glir, dylai ei geg fod yn llydan agored. Pan fydd y babi wedi cydio yn y deth, dylech weld llawer mwy o groen tywyllach y deth uwchben gwefus uchaf eich babi nag o dan ei wefus waelod. Bydd bochau eich babi yn edrych yn llawn ac yn grwn wrth iddo fwydo.

Darllenwch ganllaw gweledol Start4Life ar sut i helpu eich babi i gydio yn y fron.

Help a chefnogaeth gyda bwydo ar y fron

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, gallwch:

  • siarad â'ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch cefnogwr bwydo ar y fron
  • ffonio Llinell Gymorth Genedlaethol Bwydo ar y Fron ar 0300 100 0212 (9.30am i 9.30pm, bob dydd)
  • cael gyngor ar-lein am dethau dolurus a phroblemau cyffredin eraill wrth fwydo ar y fron

Sut i ddweud a yw eich babi yn cael digon o laeth

  • Mae'ch babi yn dechrau bwydo gydag ychydig o sugniadau cyflym ac yna sugno hirach.
  • Mae ei fochau yn aros yn grwn, heb fod wedi’u sugno i mewn, a gallwch ei glywed yn llyncu.
  • Mae'n ymddangos bod eich babi'n dawel wrth fwydo ac yn dod oddi ar eich bron ei hun pan fydd wedi cael digon.
  • Mae eich babi yn ymddangos yn fodlon fel rheol ar ôl bwydo.
  • Dylai fod yn iach ac yn ennill pwysau (er ei bod yn arferol i fabis golli ychydig o bwysau yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl genedigaeth). Siaradwch â'ch bydwraig neu ymwelydd iechyd os ydych chi'n poeni nad yw'ch babi yn ennill pwysau ac nad yw’n ymddangos yn fodlon wrth fwydo ar y fron neu ar ôl hynny.
  • Ar ôl yr ychydig ddyddiau cyntaf, dylai eich babi gael o leiaf 6 clwt gwlyb y dydd.
  • Ar ôl tua 5 i 6 diwrnod, ni ddylai pŵ eich babi edrych yn ddu ac yn drwchus a dylai hefyd gael o leiaf 2 pŵ melyn meddal sy’n fwy fel hylif.

Bwydo babi cynamserol a sâl ar y fron

Os yw'ch babi mewn uned gofal newydd-anedig neu ofal arbennig ar ôl yr enedigaeth, mae'n debyg y cewch eich annog i roi cynnig ar rywbeth a elwir yn ofal cangarŵ pan fydd eich babi'n ddigon iach. Mae gofal cangarŵ yn golygu dal eich babi yn agos atoch chi, fel arfer o dan eich dillad gyda'ch babi yn gwisgo clwt/cewyn yn unig.

Mae'r cyswllt croen-i-groen hwn yn eich helpu i fagu perthynas â'ch babi cynamserol a chynyddu eich cyflenwad llaeth.

Darllenwch fwy am bwydo babi cynamserol ar y fron.

 


Last Updated: 12/07/2023 11:00:24
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk