Gwybodaeth beichiogrwydd


Epilepsi a feichiogrwydd

Mae epilepsi yn gyffredin, gan effeithio ar tua 600,000 o bobl yn y DU. Fel arfer mae'n dechrau yn ystod plentyndod, ond gall ddechrau ar unrhyw oedran. Prif symptomau epilepsi yw cael trawiadau mynych.

Mae trawiad yn digwydd pan fydd patrymau annormal o weithgarwch trydanol yn codi yn yr ymennydd. Gall achosi i'r corff i symud i ffordd afreolus, a gall hefyd achosi colli ymwybyddiaeth am gyfnod byr.

Cynllunio ar feichiogi

Os ydych yn cymryd cyffuriau gwrth-epileptig (AEDs) ac yn bwriadu beichiogi, dylech barhau i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu a cymryd eich meddyginiaeth nes y byddwch yn trafod eich cynlluniau gyda'ch niwrolegydd neu feddyg teulu. Mae hyn oherwydd efallai y bydd angen rhywfaint o newidiadau i'ch meddyginiaeth, ac ni ddylai hyn gael ei wneud ond o dan oruchwyliaeth eich arbenigwr.

Gall rhai AEDs niweidio baban heb ei eni, ond mae yna hefyd risg o gael ffitiau heb ei reoli yn ystod beichiogrwydd.

Epilepsi yn ystod beichiogrwydd

Mae'n anodd rhagweld sut y bydd epilepsy yn effeithio ar feichiogrwydd. Ar gyfer rhai menywod nid yw eu epilepsi yn cael ei effeithio, tra bydd eraill yn gweld gwelliant yn eu cyflwr. Fodd bynnag, oherwydd gall beichiogrwydd achosi straen corfforol ac emosiynol, gall trawiadau ddigwydd yn amlach a difrifol.

Triniaeth â chyffuriau

Mae llawer o ferched ag epilepsi yn defnyddio AED's i gadw eu ffitiau dan reolaeth. Mae ymchwil wedi dangos y gall fod mwy o risg o foetal anti-convulsant syndome (FACS) mewn plant sy'n cael eu geni i famau sydd wedi cymryd rhai AEDs yn ystod beichiogrwydd. Gall plentyn gyda FACS gael nifer o anhawsterau corfforol, neu ddatblygiadol i'r ymennydd (niwroddatblygiadol), gan gynnwys y rhai a restrir isod.

Gall y cyffuriau hyn gynyddu'r risg o ddiffygion corfforol megis spina bifida, anormaleddau'r galon a gwefus hollt. Yn dibynnu ar y math o gyffur a'r dos rydych yn ei gymryd, gall fod risg fwy o broblemau datblygiadol yn y baban, megis:
 

  • gallu deallusol is
  • sgiliau iaith llai (siarad a deall)
  • problemau cof
  • anhwylderau sbectrwm awtistig
  • oedi cyn cerdded a siarad

Cyn i chi beichiogi (neu os ydych yn credu y gallech fod yn feichiog yn annisgwyl, neu yn bwriadu mynd yn feichiog) trafodwch eich triniaeth gydag obstetrydd a niwrolegydd sy'n gwybod am eich epilepsi chi. Efallai y byddant am ystyried triniaeth arall. Fel arfer mae'n well i wneud unrhyw newidiadau i driniaeth cyffuriau cyn yn hytrach nag yn ystod beichiogrwydd.

Os byddwch yn beichiogi tra byddwch yn cymryd AED, daliwch ati i gymryd eich meddyginiaeth a chysylltu â'ch arbenigwr ar unwaith i drafod eich triniaeth â chyffuriau. Peidiwch â newid eich triniaeth cyffuriau neu roi'r gorau i'ch meddyginiaeth heb gyngor arbenigol, yn enwedig yn ystod beichiogrwydd. Mae hyn oherwydd y gallai trawiad difrifol yn ystod beichiogrwydd arwain at niwed neu anaf, neu o bosibl hyd yn oed farwolaeth, i chi neu eich baban.

Sodium valproate

Gwyddys bod y risg i'r baban a ddaw o rai AEDs, megis sodium valproate, yn uwch na rhai eraill, a phan fydd dau neu fwy o AEDs yn cael eu cymryd gyda'i gilydd (a elwir yn polytherapi).

Mae'r risg o ddiffygion corfforol mewn babanod y mae eu mamau yn cymryd sodium valproate yn ystod beichiogrwydd tua 11%, o'i gymharu â 2-3% ar gyfer plant yn y boblogaeth gyffredinol. Mae hyn yn golygu bod allan o 100 o ferched ag epilepsi sy'n cymryd sodium valproate yn ystod beichiogrwydd, bydd 11 yn cael baban â nam corfforol.

Mae'r risg o broblemau niwroddatblygiadol tua 30-40% (30-40 allan o 100) mewn babanod o ferched sy'n cymryd sodium valproate yn ystod beichiogrwydd.

Os ydych yn cymryd sodium valproate ac yn bwriadu beichiogi, neu rydych yn cael gwybod eich bod yn feichiog, peidiwch â rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth. Ewch i weld eich arbenigwr ar unwaith i drafod eich beichiogrwydd a'ch triniaeth.

Asid ffolig

Os byddwch yn cymryd cyffuriau i reoli eich epilepsi, argymellir eich bod yn cymryd dos uchel, 5 miligram (5mg) o asid ffolig bob dydd cyn gynted ag y byddwch yn dechrau ceisio beichiogi. Bydd angen i hyn gael ei ragnodi i chi, fel arfer gan eich meddyg teulu, gan nad yw tabledi 5mg ar gael heb bresgripsiwn.

Dylech wneud apwyntiad i weld eich meddyg teulu cyn gynted ag y bo modd. Os byddwch yn mynd yn feichiog yn annisgwyl ac nid ydych wedi cymryd asid ffolig, dechreuwch ei gymryd yn syth. Mae'n bosibl prynu dos 400 microgram (mcg)  o fferyllfa cyn i chi gael presgripsiwn ar gyfer y tabledi 5mg.

Os oes angen unrhyw gyngor, siaradwch â'ch meddyg teulu neu fferyllydd.

Eich gofal yn ystod beichiogrwydd

Cyn i chi feichiogi, neu mor gynnar yn ystod beichiogrwydd ag y bo modd, byddwch yn cael eich cyfeirio at obstetregydd, a fydd yn trafod a chynllunio eich gofal yn ystod y beichiogrwydd. Os oes angen, gall niwrolegydd gyfrannu at roi'r cynllun hwn at ei gilydd hefyd.

Byddwch yn cael cynnig sganiau uwchsain i helpu i ganfod unrhyw broblemau datblygiadol yn eich baban. Efallai y bydd angen profion gwaed ychwanegol i wirio lefel y cyffuriau gwrth-epileptig yn eich gwaed, yn dibynnu ar ba AEDs rydych yn eu cymryd.

Efallai y byddwch yn poeni am eich babi yn etifeddu eich epilepsi. Fodd bynnag, gallwch siarad â'ch tîm gofal am hyn ac unrhyw bryderon sydd gennych.

Esgor, genedigaeth a thu hwnt

Er bod 'na risg isel o gael trawiad ystod y cyfnod esgor, mae'n cael ei argymell eich bod yn rhoi genedigaeth mewn uned famolaeth dan arweiniad ymgynghorydd mewn ysbyty. Gallwch ddarllen am roi genedigaeth mewn ysbyty ar y dudalen 'Ble gallwch chi roi genedigaeth'.

Yn ystod y cyfnod esgor byddwch yn derbyn gofal gan fydwraig, a bydd meddygon ar gael os bydd angen eu cymorth arnoch.
Oherwydd bod rhai AEDs yn lleihau gallu gwaed eich baban i geulo, bydd eich babi yn cael pigiad fitamin K yn fuan ar ôl ei (g)eni.
Fel arfer, does dim rheswm pam na allwch chi fwydo ar y fron. Hyd yn oed os yw rhai o'ch meddyginiaethau mynd i mewn i'ch llaeth, mae manteision bwydo o'r fron yn aml yn gorbwyso unrhyw risgiau. Gall eich bydwraig, obstetregydd neu fferyllydd roi cyngor i chi yn seiliedig ar eich amgylchiadau.

Cofrestr Epilepsi a Beichiogrwydd y DU

Mae'r prosiect ledled y wlad yn ymchwilio i ba driniaethau epilepsi sy'n peri'r risg isaf i iechyd y baban. Gall unrhyw fenywod beichiog ag epilepsi ymuno â'r Cofrestr Epilepsi a Beichiogrwydd y Du.

Pan fyddwch yn cofrestru, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am y driniaeth rydych yn ei chymryd. Bydd gwybodaeth am iechyd eich baban yn cael ei gasglu ar ôl i'ch baban gael ei eni. Mae hyn yn helpu meddygon yn rhoi'r cyngor gorau i ferched sy'n ystyried mynd yn feichiog.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk