Gwybodaeth beichiogrwydd


Y Pigiad Ffliw

Y brechlyn ffliw yn ystod beichiogrwydd

Argymhellir bod pob merch feichiog yn cael y brechlyn ffliw, pa bynnag gam o'r beichiogrwydd maen nhw ynddo. Cliciwch yma i weld ein tudalen taflenni brechu sy'n cynnwys gwybodaeth ar gyfer menywod beichiog.

Pam ddylai menywod beichiog gael y pigiad ffliw?

Bydd pigiad y ffliw yn helpu i'ch amddiffyn chi a'ch babi.

Mae tystiolaeth dda bod gan ferched beichiog siawns uwch o ddatblygu cymhlethdodau os cânt y ffliw, yn enwedig yng nghyfnodau diweddarach eu beichiogrwydd.

Un o gymhlethdodau mwyaf cyffredin y ffliw yw broncitis, haint ar y frest a all ddod yn ddifrifol a datblygu i fod yn niwmonia.

Os oes gennych ffliw tra'ch bod yn feichiog, gallai beri i'ch babi gael ei eni'n gynamserol neu fod â phwysau geni isel, a gallai hyd yn oed arwain at farwenedigaeth neu farwolaeth.

A yw'r pigiad yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd?

Ydy. Mae astudiaethau wedi dangos gall y pigiad ffliw cael ei roi yn ddiogel unrhyw adeg yn ystod feichiogrwydd, o'r wythnosau cyntaf hyd at eich dyddiad disgwyliedig. Mae astudiaethau wedi dangos bod menywod sydd wedi cael y pigiad tra buont yn feichiog wedi pasio rhywfaint o amddiffyniad ymlaen i'w babanod, sy'n para dros fisoedd cyntaf eu bywydau.

Mae'n ddiogel i ferched sy'n bwydo ar y fron gael y brechlyn.

Pryd ddylwn i ei gael?

Yr amser gorau i gael brechlyn ffliw yw yn yr hydref, cyn i'r ffliw ddechrau cylchredeg. Os ydych chi wedi colli'r amser hwn, gallwch gael y brechlyn ffliw yn ddiweddarach yn y gaeaf er ei bod yn well ei gael yn gynharach.

Peidiwch â phoeni os gwelwch eich bod yn feichiog yn hwyrach yn nhymor y ffliw - gallwch gael y brechlyn yna os nad ydych wedi'i gael eisoes.

Sut ydw i'n cael y pigiad ffliw?

Cysylltwch â'ch bydwraig neu feddygfa i ddarganfod ble y gallwch gael y brechlyn ffliw. Mae'n syniad da cael eich brechu cyn gynted â phosibl ar ôl i'r brechlyn ddod ar gael ym mis Medi. Mewn rhai ardaloedd, gall bydwragedd roi'r brechlyn ffliw yn y clinig cynenedigol. Mewn eraill, bydd angen apwyntiad arnoch mewn meddygfa. Mae rhai fferyllfeydd cymunedol bellach yn cynnig y brechlyn ffliw ar y GIG.

 Fe wnes i gael y pigiad ffliw llynedd, a oes rhaid i mi gael un eto?

Ydy, oherwydd bod y firysau sy'n achosi ffliw yn newid bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu y gall y ffliw (a'r brechlyn) eleni fod yn wahanol i'r llynedd. Os cawsoch y brechlyn ffliw y llynedd, naill ai oherwydd eich bod yn feichiog neu oherwydd eich bod mewn grŵp bregus, mae angen i chi ei gael eto eleni.

A fydd y pigiad ffliw yn rhoi ffliw i mi?

Na. Nid yw'r brechlyn yn cynnwys unrhyw firysau byw, felly ni all achosi ffliw. Mae rhai pobl yn cael tymheredd ychydig yn uwch a chyhyrau poenus am gwpl o ddiwrnodau wedi hynny, ac efallai y byddwch chi'n teimlo'n ddolurus yn safle'r pigiad.

 A gaf i gael pigiad y ffliw yr un adeg a phigiad y pâs?

Ie, gallwch gael pigiad y ffliw ar yr un pryd â'r brechlyn peswch, ond peidiwch ag oedi eich pigiad ffliw fel y gallwch gael y ddau ar yr un pryd.

Mae menywod beichiog mewn perygl o salwch difrifol o'r ffliw ar unrhyw gam o'r beichiogrwydd, felly mae angen i chi gael y brechlyn ffliw cyn gynted â phosibl.

Yr amser gorau i gael eich brechu rhag peswch yw rhwng 16 wythnos a 32 wythnos o feichiogrwydd.

Os byddwch chi'n methu â chael y brechlyn am unrhyw reswm, gallwch chi ei gael hyd nes i chi fynd i esgor.

Gallwch ddarganfod mwy am y brechlyn pâs yn ystod beichiogrwydd.

Rwy'n feichiog ac yn meddwl bod gennai ffliw. Beth dylai wneud?

Siaradwch â meddyg teulu cyn gynted â phosibl. Os oes gennych ffliw, mae meddyginiaeth ar bresgripsiwn y gallwch ei chymryd a allai helpu, neu leihau eich risg o gymhlethdodau, ond mae angen ei chymryd yn fuan iawn ar ôl i'r symptomau ymddangos.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 25/07/2023 07:44:03
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk